Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Biliau i godi £120 wrth i Dŵr Cymru fuddsoddi £3.5bn
Mae Dŵr Cymru wedi cyhoeddi manylion ei fuddsoddiad mwyaf erioed - £3.5bn rhwng 2025 a 2030 - gyda phwyslais mawr ar warchod yr amgylchedd.
Mae'n rhan o gynllun busnes sydd wedi ei gyflwyno i'r rheoleiddiwr Ofwat yn amlinellu camau i wella perfformiad y cwmni.
O ganlyniad fe all biliau dŵr yng Nghymru godi £120 y flwyddyn erbyn 2030 wrth i'r cwmni addo lleihau llygredd afonydd.
Dywed Dŵr Cymru fod ei gynllun busnes newydd yn golygu y byddai cwsmeriaid yn talu £5 yn fwy y mis yn 2025 a £10 yn fwy y mis erbyn 2030.
Wythnos diwethaf roedd y cwmni ymhlith saith yng Nghymru a Lloegr a oedd yn y categori gwaethaf ym marn Ofwat o ran cyrraedd gwahanol dargedau.
Fe fydd gofyn i Ofwat gymeradwyo'r cynlluniau, ac unrhyw gostau a fydd yn cael eu pasio ymlaen i gwsmeriaid.
Yn ôl Dŵr Cymru mae'r swm y maen nhw'n bwriadu ei wario 68% yn uwch nag yn y pum mlynedd hyd at 2025.
Mae'n fwriad i fuddsoddi £1.9bn - cynnydd o 84% - ar gamau i leihau niwed i'r amgylchedd a gwella ansawdd dŵr afonydd.
Bydd rhain yn cynnwys lleihau gollyngiadau ffosfforaidd o safleoedd trin dŵr gwastraff i afonydd mewn Ardaloedd Cadwraeth Arbennig, a rhaglen i atal cannoedd o orlifoedd storm rhag achosi niwed ecolegol.
Mae ymrwymiadau eraill yn cynnwys:
- 25% yn llai o ollyngiadau dŵr o bibellau a helpu cwsmeriaid fynd i'r afael â gollyngiadau mewn tai a busnesau;
- 24% yn llai o achosion o lygredd;
- Anelu at 'Gymru di-blwm' trwy osod pibellau newydd ar gyfer 7,500 o gwsmeriaid;
- Arbed £42m trwy ddulliau gweithredu mwy effeithiol ac arloesol;
- Rhoi £13m y flwyddyn at gynnal cefnogaeth i aelwydydd incwm isel.
Dywed y cwmni y byddai'r cynllun yn hwb i'r economi, gan gynnal dros 9,000 o swyddi llawn amser, ac mae'n fwriad i fod yn gwmni carbon niwtral erbyn 2040.Â
'Dŵr Cymru ar ei hôl hi'
Ddiwedd Medi fe ddyfarnodd y Ofwat bod dim un o gwmnïau dŵr Cymru a Lloegr yn cyrraedd eu targedau perfformiad o ran atal gollyngiadau, cyflenwadau a lleihau llygredd.
O ganlyniad bydd yn rhaid i'r ddau gwmni Cymreig - Dŵr Cymru a Dŵr Hafren Dyfrdwy - roi gostyngiad awtomatig i'w cwsmeriaid, er mae'n bosib na fydd yn ymddangos ar linell ar wahân mewn biliau.
Roedd Dŵr Cymru ymhlith y cwmnïau sydd "ar ei hôl hi" ym marn Ofwat, ac mae Dŵr Hafren Dyfrdwy yn y categori "cymedrol".
"Dyma ein cynllun busnes mwyaf uchelgeisiol erioed," dywedodd prif weithredwr Dŵr Cymru, Peter Perry.
"Tra bydd yn her sylweddol, rydym yn hyderus bod modd i'w gyflawni a'i ariannu a bydd yn helpu gwella ein perfformiad yn sylweddol dros y blynyddoedd nesaf.
"Rydym wedi gallu gadw biliau yr un fath neu'n is mewn termau real dros y 10 mlynedd diwethaf, mae angen i ni nawr wneud buddsoddiad go iawn yn ein systemau dŵr a dŵr gwastraff i ateb heriau newid hinsawdd, gwarchod ein hafonydd, a gwella gwytnwch ein cyflenwadau dŵr."
Dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar newid hinsawdd, Janet Finch-Saunders, ei bod yn "annerbyniol i Dŵr Cymru gynyddu biliau pan mae ei gwsmeriaid sydd eisoes â'r ail fil uchaf yng Nghymru a Lloegr ar gyfartaledd".