Colli 500 o swyddi mewn cwmni ffenestri a drysau

Mae bron i 500 o swyddi wedi eu colli yng Nghymru wrth i gwmni UK Windows & Doors fynd i ddwylo gweinyddwyr.

Bydd 496 o bobl yn colli eu swyddi ar bedwar safle yn ne Cymru - yn Nhreorci, Llwynypia, Trewiliam a Ffynnon Taf.

Bydd 67 o swyddi ychwanegol yn mynd yn Tewkesbury, Sir Gaerloyw a Biggleswade, Sir Bedford gan ddod 芒'r cyfanswm i 563 o swyddi.

Mae'r cwmni - oedd yn arfer cael eu hadnabod fel Griffin Windows - yn dweud eu bod wedi cadw 91 o swyddi ar gyfer y broses o werthu cynnyrch sydd ar 么l, a'u bod yn cadw 73 o swyddi i helpu gyda'r broses weinyddu.

Yn sgil cyfnod o ansicrwydd economaidd, chwyddiant prisiau a diffyg hyder defnyddwyr, roedd y broses adeiladu wedi arafu yn gyffredinol gyda llai o alw am gynnyrch gan UK Windows & Doors, meddai'r cwmni.

Disgrifiad o'r fideo, Dywedodd y cwmni fod busnes wedi arafu a bod adeiladwyr tai yn prynu llai o'u cynnyrch

Cwmni Teneo Financial Advisory Limited sydd wedi eu penodi'n weinyddwyr.

Bu sawl ymgais i achub y cwmni yn ystod y misoedd diwethaf gan gynnwys creu cynllun trawsnewid.

Roedd y perchnogion presennol hefyd wedi buddsoddi rhagor o arian i'r cwmni yn ystod y misoedd diwethaf ond nid oedd yn llwyddiannus.

Roedd Keira Powell a'i phartner Lloyd Yates yn gweithio ar y safle yn Nhreorci ac yn disgwyl eu babi cyntaf fis Rhagfyr.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Keira Powell, yma gyda'i phartner Lloyd Yates oedd hefyd yn gweithio i'r cwmni, nad oedd staff yn cael gofyn cwestiynau

"Ry ni'n hynod siomedig, ma' gyno ni fabi yn cyrraedd mewn wyth wythnos," meddai Ms Powell.

"Dwi ddim yn siwr beth sy'n mynd i ddigwydd.

"O'n ni ddim yn cael holi cwestiynau yn y cyfarfod, roedd rhaid i ni aros yn dawel neu cael ein hel allan.

"Mae'n gyfnod anodd yn y flwyddyn i chwilio am swydd mor agos at y dolig, yn enwedig heb unrhyw incwm."

Dywedodd un oedd yn gweithio i'r cwmni ond nad oedd eisiau cael ei enwi bod staff wedi cael gwybod i ffonio rhif am 14:00 ddydd Llun.

"Yn gyntaf daeth rhywun o'r t卯m rheoli ar y ff么n a dweud bod y cwmni wedi mynd i ddwylo'r gweinyddwyr a'u bod yn cael gwared ar 563 o swyddi.

"Gwnaeth o gymryd tua 25 munud a do'n ni ddim yn cael holi cwestiynau."

'Mewn limbo'

Dywedodd yr unigolyn, sydd wedi bod yn gweithio i'r cwmni ers 20 mlynedd, bod y staff wedi cael eu holi i ddod i mewn i'r gwaith yr wythnos ddiwethaf ond yna cael eu gyrru adref bob dydd.

"Dy' ni wedi cael ein gadael mewn limbo. Doedd neb wedi dweud unrhyw beth wrthym nes heddiw.

"Roedd gan bobl o'r tu allan mwy o syniad na ni. Mae'n sefyllfa wael. Mae gan bobl forgeisi i'w talu, roedd rhai cyplau yn gweithio yna.

"Mae llawer yn grac gan nad oedd gan y cwmni barch i ddweud wrthym."

Mewn ymateb i'r cyhoeddiad mae Llywodraeth Cymru yn "archwilio" i weld os allai rhai swyddi gael eu hachub.

Dywedodd Gweinidog yr Economi Vaughan Gething mae ei "flaenoriaeth gyntaf" yw gweld os all y cwmni cyfan neu ran ohono gael ei achub fel "busnes gweithredol".

Dywedodd Mr Gething bod y cyhoeddiad yn "bryder mawr".

Wrth siarad mewn cynhadledd i'r wasg, dywedodd bod y "diffyg gwybodaeth yn creu pryder".

"Mae fy adran wedi bod yn ceisio cael mwy o eglurder gan y busnes ac rwy'n cydnabod bod y diffyg gwybodaeth yr ydym wedi'i weld ar gyfer y gweithlu wedi achosi pryder gwirioneddol."

Newyddion 'ysgytiol'

Mewn datganiad ar y cyd, dywedodd Buffy Willams, Aelod Seneddol Rhondda Syr Chris Bryant ac arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf, Andrew Morgan bod y newyddion "yn ysgytiol i bawb" sydd ynghlwm ag "un o gyflogwyr mwyaf" y sir.

"Rydym wedi cwrdd heno yn dilyn y cyhoeddiad i benderfynu at gynllun gweithredu brys sut allwn gefnogi gweithwyr a'r cwmni orau yn y dyfodol.

"Ein uchelgais yw ceisio canfod prynwyr posib ar gyfer yr adnoddau pwysig yma a cheisio cadw cyn gymaint o'r swyddi yma 芒 phosib."

Ychwanegodd eu datganiad eu bod yn cysylltu 芒 Llywodraeth Cymru ac Adran Waith a Phensiynau San Steffan "i ofyn am gefnogaeth frys".

Dywedodd Heledd Fychan, AS Plaid Cymru Canol De Cymru bod y swyddi yn rhai "na allwn ni fforddio i'w colli" yn y Rhondda, ac fe fydd yn gofyn cwestiwn brys yn y Senedd ynghylch y gefnogaeth i'r gweithwyr.