Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Un o Gymry Llundain yn ennill gwobr am actio'n Gymraeg
Actores a gafodd ei magu yn Llundain yw enillydd gwobr actio arbennig i berfformwyr ar ddechrau eu gyrfa, a hynny am ei rhan mewn drama Gymraeg.
Elan Davies yw enillydd y wobr Perfformiad Gorau mewn Drama yng ngwobrau'r Stage Debut eleni am ei rhan yn y ddrama Imrie; y tro cyntaf i'r wobr gael ei rhoi am ran yn y Gymraeg.
"Oedd y ffaith ges i'n enwebu yn y lle cynta', o'dd hwnna'n masif," eglurodd Elan ar Dros Frecwast ar 大象传媒 Radio Cymru, "ac i ennill hefyd, mae hwnna mor sbesial. Yn enwedig ei bod yn sioe Gymraeg.
"Y Stage Debut Awards ydi'r unig wobrau sydd yn dathlu pobl ar ddechrau eu siwrne mewn i'r diwydiant, felly i ennill gwobr... dwi'n teimlo'n ddiolchgar dros ben."
Drama yn apelio
Elan a Rebecca Wilson oedd yn actio dwy chwaer yn eu harddegau sydd yn ceisio ffeindio'u ffordd yn y byd yn nrama Imrie gan Nia Morais, mewn cynhyrchiad ar y cyd rhwng Fr芒n Wen a Sherman Cymru.
Er fod y ddrama yn Gymraeg, roedd capsiynau Saesneg ym mhob perfformiad, ac felly roedd hyn wedi ehangu ap锚l y sioe, gyda chynulleidfa di-Gymraeg hefyd yn gallu ei fwynhau, fel ei mam, eglurodd Elan.
Actio yn Gymraeg
Yn gyn-ddisgybl Ysgol Gymraeg Llundain, roedd hi braidd yn nerfus ar ddechrau ymarferion y ddrama, meddai.
"O'dd e'n rili weird i fod yn onest. Roedd lot o ansicrwydd gyda fi i ddechrau yn dysgu'r geiriau Cymraeg. Roedd lot o eiriau roedd Nia Morais wedi ysgrifennu yn stwff am y m么r, a geiriau o'n i byth wedi eu defnyddio; nes i dyfu lan yn siarad Cymraeg yn yr ysgol gynradd felly o'n i ddim yn defnyddio'r geiriau disgrifiadol hyn lot o'r amser.
"Ond roedd y t卯m mor dda ac roedden nhw'n helpu fi lot gyda'r geiriau os o'n i'n ansicr o rywbeth."
脗 hithau wedi ei magu yn Llundain, rhoddodd y sioe gyfle i Elan deithio'n helaeth o amgylch Cymru am y tro cyntaf, eglurodd.
"Mae Mam-gu a Tad-cu yn byw yng Nghaerdydd, felly ni draw yna am Nadolig bob blwyddyn. Ac mae gymaint o waith yng Nghymru felly dwi 'na eitha' lot.
"Ond gydag Imire, ges i fynd dros y wlad oedd yn neis, achos dwi ddim wedi gallu teithio lot o ogledd Cymru."
Mwy o actio llwyfan yw gobaith Elan nawr, ac mae hi hefyd yn gobeithio y bydd ei llwyddiant hi yn y gwobrau yn agor drysau i leisiau Cymreig eraill 'sydd yn cadw eu hunain yn y cefndir', a sydd fel hi, ddim wedi eu magu 'yn draddodiadol Gymraeg'.
Hefyd o ddiddordeb: