Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Tlodi: Mwy o deuluoedd yn methu prynu nwyddau sylfaenol
- Awdur, Liam Evans
- Swydd, Newyddion S4C
Mae mwy o deuluoedd mewn dyled ac yn methu a phrynu nwyddau sylfaenol, yn 么l adroddiad newydd gan elusen.
Yn 么l elusen Plant yng Nghymru mae'n "gwbl annerbyniol" fod bron i 30% o blant Cymru yn byw mewn tlodi, gan ddweud fod y sefyllfa bellach yn "argyfyngus".
Yn 么l adroddiad ar dlodi, fe ddywedodd 95% o bobl a holwyd fod eu sefyllfa wedi dirywio yn y flwyddyn ddiwethaf, ac 85% fod eu hiechyd meddwl wedi gwaethygu oherwydd tlodi.
Mae Llywodraeth Cymru'n dweud eu bod wedi "ymrwymo i waredu tlodi plant" ond fod nifer o'r ffyrdd i wneud hynny yn nwylo Llywodraeth y DU.
Dywedodd Llywodraeth y DU bod budd-daliadau'n codi a chymorth ar gael i'r rhai mewn trafferth.
'Tlodi mor styfnig'
Dyma seithfed adroddiad Plant yng Nghymru ar dlodi, gyda'r elusen yn dweud mai dyma'r flwyddyn sydd 芒'r canlyniadau mwyaf syfrdanol.聽
"Mae'r darlun yn bryderus", meddai Hugh Russell, Prif Weithredwr Plant yng Nghymru wrth Newyddion S4C.
"Yr hyn da ni'n poeni am yw os na fydd mwy o fuddsoddiad i wasanaethau hanfodol... wel 'da ni ar y dibyn go iawn.
"A 'da ni'n gweld awdurdodau lleol a gwasanaethau hanfodol yn delio 'efo effaith hyn oll ac mae tlodi mor styfnig."
Yn 么l yr adroddiad mae ansicrwydd bwyd, dyledion a sgil effeithiau'r argyfwng costau byw ymhlith y pryderon mwyaf, a nifer bellach yn troi at fanciau bwyd.
Ym Manc Bwyd Penmaenmawr mae'r silffoedd yn gwagio'n sydyn, a mwy o deuluoedd yn gwneud defnydd nag erioed o blaen.
"Mae'n rhaid i rywbeth newid", meddai Jason Edwards o'r banc bwyd.
"Mae'n rhaid... 'efo'r ffordd mae pethau'n mynd a'r holl beth 'efo demonisio y bobl sydd ar waelod yr ysgol."聽
Yn 么l Mr Edwards mae nifer yn dod ato yn dweud fod y system fudd-daliadau yn anodd i'w defnyddio.
Mae'n g诺yn sydd wedi ei danlinellu yn yr adroddiad, gyda chanfyddiadau'n dangos bod nifer ddim yn hawlio budd-daliadau er eu bod nhw'n gymwys oherwydd bod y system yn rhy gymhleth.
Mae ysgolion ar y rheng flaen wrth daclo tlodi, a pholisi newydd Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru i gynnig prydau cinio ysgol am ddim i ddisgyblion yn derbyn clod gan yr elusen.
Yn Ysgol Morfa Rhianedd yn Llandudno, mae'r pennaeth yn dweud fod y cynllun yn sicrhau fod dysgwyr yn derbyn bwyd maethlon ac yn barod i ddysgu.
Wrth geisio taclo tlodi a helpu teuluoedd, mae'r ysgol bellach yn cynnig cynllun i gyfnewid dillad ysgol a llacio ar eu polisi brandio wrth geisio arbed costau, wrth i ymchwil ddangos y gallai gwisg ysgol newydd i blentyn gostio hyd at 拢183.
"'Da ni fatha bwrdd llywodraethu wedi penderfynu bod 'na ddim gwthio ar y brandio gwisgoedd ysgol a hynny wedi lleihau 'chydig ar y pwysau a chostau sydd ar deuluoedd", meddai'r pennaeth Gethin M么n Jones.
"I ni, lles y plant ydy'r peth pwysicaf a'u profiadau ac ymweliadau preswyl.
"Mi yda ni wedi gallu, yn y gorffennol, cyfrannu at yr ymweliadau a'r baich ariannol a dwi'n gobeithio parhau ond wrth i gyllidebau grebachu, mae hynny yn fwy o her."
Tlodi'n cuddio yng nghefn gwlad
Mae modd rhannu Sir Conwy yn ddwy, yr ardaloedd poblog ar hyd y glannau a'r ardaloedd gwledig tu hwnt i'r dyffryn.
Yn 么l adroddiad Plant yng Nghymru, mae tlodi gwledig hefyd wedi cynyddu dros y flwyddyn ddiwethaf.
Mae'r Cynghorydd dros ward Uwchaled, Gwennol Ellis yn un sydd wedi sefydlu banc bwyd gwledig cyntaf y sir.
"Dwi'n teimlo yng nghefn gwlad fod tlodi yn cael ei guddio yn fwy, di'o ddim mor amlwg ac yn fwy o galedi", meddai.
"I fynd i siopau mewn tref mae opsiwn o fynd i'r archfarchnadoedd rhatach, wel yng nghefn gwlad mae'n ddrud i fyw yma."
Mae'r adroddiad hefyd yn tystio bod trafnidiaeth gyhoeddus annibynadwy yn gwneud hi'n anoddach i bobl sy'n byw mewn mannau gwledig.
'Gwaredu tlodi plant yn flaenoriaeth'
Wrth ymateb i bryderon fe ddywedodd Llywodraeth Cymru eu bod wedi "ymrwymo i waredu tlodi plant a'i fod yn flaenoriaeth".
"Mae mwy na 3,000 o blant, pobl ifanc a theuluoedd wedi ymgysylltu gyda datblygiad strategaeth tlodi plant".
"Er hyn mae nifer o'r ffyrdd i waredu tlodi yn gorwedd yn San Steffan", meddai datganiad.
Yn 么l Llywodraeth y DU mae'r system fudd-daliadau yn gadarn ac ar gael ar y "ffon, ar-lein neu wyneb yn wyneb".
"Mae bron i 2m yn llai o bobl drwy Brydain yn byw mewn tlodi r诺an na fu yn 2010.
"Rydym yn deall bod pobl yn ei chael hi'n anodd a dyma pam rydym wedi darparu'r lefel uchaf erioed o gefnogaeth ariannol gyfwerth tua 拢3,300 fesul cartref, a chodi budd-daliadau o dros 10%."