Cymru heb Ramsey ar gyfer g锚m allweddol Croatia
- Cyhoeddwyd
Dyw capten Cymru, Aaron Ramsey, na Brennan Johnson yn rhan o'r garfan fydd yn herio Croatia yng Nghaerdydd fis yma oherwydd anafiadau.
Mae'n debyg y bydd yn rhaid i Ramsey, 32, gael llawdriniaeth ar yr anaf i'w ben-glin, a dderbyniodd wrth ymarfer gyda Chaerdydd.
Mae disgwyl i'r amddiffynnwr Ben Davies arwain y t卯m yn ei le.
Bydd yr ymosodwr Brennan Johnson hefyd yn colli'r g锚m oherwydd anaf, tra bod Charlie Savage ac Owen Beck wedi'u galw i'r garfan am y tro cyntaf.
Savage, 20, yw mab cyn-chwaraewr Cymru Robbie Savage, tra bod Beck, 21, yn perthyn i'r gyn-seren Cymru Ian Rush.
Gallai'r amddiffynnwr Regan Poole hefyd ennill ei gap cyntaf ar 么l cael ei enwi yn y garfan am y tro cyntaf ers 2019, tra bod y chwaraewyr canol cae Luke Harris a Dylan Levitt yn 么l yn y garfan ar 么l bod yn absennol fis diwethaf.
Bydd t卯m Robert Page yn wynebu Gibraltar mewn g锚m gyfeillgar yn Wrecsam ar 11 Hydref, cyn croesawu Croatia i Stadiwm Dinas Caerdydd ar 15 Hydref mewn g锚m ragbrofol Euro 2024.
Er buddugoliaeth 2-0 y t卯m yn erbyn Latvia maent yn bedwerydd yng Ngr诺p D, gyda Thwrci a Croatia yn arwain.
Mae'n rhaid i Gymru gael canlyniad yn erbyn Croatia - sydd heb golli g锚m eto - er mwyn cadw unrhyw obaith o gymhwyso'n awtomatig.
Y garfan yn llawn
Wayne Hennessey, Danny Ward, Adam Davies, Ben Davies, Joe Rodon, Tom Lockyer, Chris Mepham, Regan Poole, Ben Cabango, Neco Williams, Owen Beck, Connor Roberts, Wes Burns, Ethan Ampadu, Charlie Savage, Jordan James, Dylan Levitt, Josh Sheehan, Dan James, Nathan Broadhead, Harry Wilson, David Brooks, Liam Cullen, Luke Harris, Kieffer Moore, Tom Bradshaw.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Medi 2023
- Cyhoeddwyd3 Hydref 2023
- Cyhoeddwyd22 Medi 2023