Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Adolygu euogfarn llofruddiaethau Russell
Mae euogfarnau Michael Stone am lofruddiaethau Lin Russell a'i merch Megan, yng Nghaint yng Ngorffennaf 1996, yn mynd i gael eu hadolygu.
Bydd y Comisiwn Adolygu Achosion Troseddol (CAAT) yn edrych ar dystiolaeth eto, dri mis ar 么l i adolygiad blaenorol ddiystyru anfon yr achos i'r Llys Ap锚l.
Mae'r penderfyniad yn dod wedi i'r llofrudd Levi Bellfield - sydd yn y carchar am oes am lofruddio tair merch, gan gynnwys y ferch ysgol Millie Dowler - gyfaddef mai ef oedd llofrudd Lin a Megan Russell, yn 么l cyfreithiwr.
Mae Stone wedi'i ddedfrydu i dair dedfryd oes.
Mewn datganiad dywedodd y CAAT fod "adolygiadau blaenorol heb ddod o hyd i unrhyw dystiolaeth neu ddadleuon credadwy a gododd y posibilrwydd gwirioneddol o ddileu'r euogfarnau. Nid yw'r adolygiad newydd yn effeithio ar y casgliadau hyn."
Roedd Lin Russell yn cerdded adref o'r ysgol gyda'i phlant ar hyd l么n wledig yn Chillenden, ar 么l symud i fyw yno o Ddyffryn Nantlle, pan ymosodwyd arnyn nhw.
Bu farw Ms Russell, 45, a'i merch chwe blwydd oed, Megan, ond fe oroesodd Josie Russell, a oedd yn naw mlwydd oed ar y pryd.
Mae Stone wedi mynnu'n gyson ei fod yn ddieuog, er i ddau reithgor - yn 1998 ac yn 2001 - benderfynu i'r gwrthwyneb.
Ym mis Gorffennaf, dywedodd y CAAT nad oedd "unrhyw bosibilrwydd gwirioneddol" y byddai'r Llys Ap锚l yn dileu ei euogfarnau
Ond yn dilyn y cais diweddaraf dywedodd y CAAT: "Rydym wedi derbyn cais gan gynrychiolwyr Mr Stone i gynnal adolygiad pellach.
"Tra na allwn wneud sylw ar fanylion ymchwiliad, nid yw'n anarferol i wahanol adolygiadau ganolbwyntio ar wahanol ddadleuon neu dystiolaeth.
"Mae ein hymrwymiad i ymchwilio'n drylwyr i bob cais cymwys yn ymestyn i wneud gwaith ychwanegol yn ymwneud ag achosion rydym wedi'u hadolygu'n flaenorol."