´óÏó´«Ã½

Gruffydd Wyn: Seibiant o ganu wedi gwneud lles i fy iechyd meddwl

  • Cyhoeddwyd
Gruffydd WynFfynhonnell y llun, Gruffydd Wyn

"Doedd yna ddim byd i anelu ato fo, dim cyngerdd, dim byd yn dod am yn hir - o'dd o jyst yn rhyfedd, a 'nes i golli cariad efo canu."

Yn 2018, roedd Gruffydd Wyn o Amlwch yn serennu ar Britain's Got Talent, yn creu argraff ar y beirniaid a'r gynulleidfa, ac wedi cyrraedd y rownd derfynol.

Fodd bynnag, wedi ychydig o flynyddoedd anodd, penderfynodd ddiwedd y llynedd fod rhaid cymryd saib oddi wrth y canu. Yma, a hithau'n Ddiwrnod Iechyd Meddwl y Byd, mae o'n egluro sut fod hyn - a siarad am ei broblemau - yn golygu ei fod bellach wedi dechrau caru canu unwaith eto:

Ennill a cholli

'Nes i ddisgyn mewn cariad efo canu yn eitha ifanc. 'Nes i ymuno efo Côr Ieuenctid Môn yn hogyn, ac er 'nes i byth feddwl 'swn i'n ei neud o fel gyrfa, 'nath pob dim jest disgyn i'w le.

Ar ôl astudio perfformio yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin, yn 22 oed o'n i ar Britain's Got Talent. O'dd 'na lot o ffrindiau a theulu wedi dweud wrtha i am 'neud a dyma fi yn gneud i weld sut 'swn i'n dod mlaen.

Sialens i mi fy hun oedd o, dweud y gwir. Mae gen i atgofion da - dim bob dydd mae boi o Ynys Môn yn curo'r Golden Buzzer ac yn mynd i ffeinal Britain's Got Talent! O'dd o jyst yn arbennig.

Ond yn Hydref 2018, 'nes i golli Nain. Gafodd hi drawiad ar y galon, a 'nes i orfod gneud CPR a thrio'i chadw hi'n fyw, ond 'nes i ddim llwyddo gneud. Wedyn yn 2020, 'nes i golli ewythr i gymhlethdodau HIV/AIDS. Mae gweld rhywun yn diodde' o salwch a methu gneud dim i'w helpu nhw... 'nath o nharo i a'r teulu.

Wedyn ddaeth COVID...

Ffynhonnell y llun, Gruffydd Wyn
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Gruffydd a'i nain yn agos iawn, â'i balchder yn amlwg pan oedd yn llwyddo ar Britain's Got Talent

'Dim i anelu ato fo'

Fel person creadigol, roedd stopio gneud pob dim yn rhywbeth 'nath fy nharo i. A ti'n cael lot o amser i feddwl, a dyna beth oedd dwi'n meddwl; mod i ddim wedi prosesu pethau'n iawn a 'di cael yr amser yna i feddwl ac i alaru.

O'n i 'di ennill Cân i Gymru yn 2020 gyda Cyn i'r Llenni Gau (cyn i'r llenni gau ar y byd go iawn...) - sef cân i fy Nain. O'dd o'n ffordd i mi roi fy nheimladau i lawr ar bapur ar ffurf cân, mewn ffordd greadigol. Ond dwi'n teimlo ella mod i'n meddwl mod i wedi prosesu fy nheimladau... ond mod i ddim go iawn.

Dwi'm yn meddwl mod i wedi delio efo fo yn y ffordd iawn o gwbl; o'n i'n gweithio, gweithio - o'n i 'di gorfod cael swydd llawn amser - a mynd, mynd, ac o'n i'n yfed eitha' dipyn.

A doedd yna ddim byd i anelu ato fo, dim cyngerdd, dim byd yn dod am yn hir - o'dd o jyst yn rhyfedd, a 'nes i golli cariad efo canu.

Nid yw’r post yma ar YouTube yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
Dyw'r ´óÏó´«Ã½ ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol. Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys YouTube.
I osgoi fideo youtube gan S4C

Caniatáu cynnwys YouTube?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Google YouTube. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai YouTube ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Dyw'r ´óÏó´«Ã½ ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol. Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys YouTube.
Diwedd fideo youtube gan S4C

Helpu fy hun

Yn syth ar ôl COVID, 'nes i daflu'n hun i neud gigs a gigs a gigs, a gweithio llawn amser, so, o'dd y pressure yna i gyd ar unwaith, a do'n i ddim wedi delio efo fo yn dda iawn.

Oedd hynny'n cael effaith ar sut o'n i'n siarad efo pobl, efo'n nheulu. Ac o'dd rhaid i mi stopio yn rhywle; o'dd rhaid i mi 'neud rhywbeth i helpu fy hun, ac i ddeall pam achos doeddwn i ddim rili'n dallt hynny'n iawn o gwbl.

'Nes i benderfynu cymryd saib oddi wrth y canu, i weld os fasa hynny'n helpu, achos do'n i ddim yn mwynhau bellach. Cymryd cam yn ôl, jyst i mi fy hun gael delio efo'r emosiynau a be' oedd yn mynd ymlaen yn fy mhen.

'Nes i stopio bob dim, sy'n rhyfedd achos ers o'n i'n ddim o beth, mae canu'n rhywbeth dwi wedi ei fwynhau. A phan mae rhywbeth yn mynd yn llwyr, ti jyst ddim yn gwybod beth i'w 'neud.

'Naeth y saib yna ddim llawer o ddim byd tan i mi ddechrau therapi ddiwedd mis Ebrill, a mae hynny wedi'n helpu fi lot i ddallt pob dim o'n i'n mynd drwyddo fo.

Dwi'n gweld rŵan dwi'm yn meddwl mod i wedi medru prosesu fy holl deimladau'n iawn a mod i jyst wedi cario 'mlaen i fynd, ac yn masgio problemau efo pethau eraill, a doedd hynny ddim yn iach i mi.

Ffynhonnell y llun, ITV
Disgrifiad o’r llun,

Gwnaeth Gruffydd argraff fawr ar y beirniaid a'r gynulleidfa pan gystadlodd yn Britain's Got Talent yn 2018, a dod yn bedwerydd

A rŵan, dwi'n ôl yn canu ac yn ei fwynhau o eto. Mae fy sengl newydd, Nelle Tue Mani (Now we are free) yn crisialu'r bum mlynedd ddiwetha ers Britain's Got Talent, ac hefyd, ers cael therapi, dwi yn teimlo rhyddhad mod i wedi cael bywyd newydd yn y canu.

Mae'r ffaith ei fod o wedi mynd i rif un yn y siartiau, yn dangos mod i dal yn medru llwyddo efo'r canu a bod yna dal fywyd i mi efo fo.

Angen chwalu'r tabŵ

Fel dyn, 'swn i'n deud mod i jyst yn meddwl mod i'n ocê, heb siarad efo neb, a jyst meddwl, 'mi ddaw pethau'n iawn'... ond toedden nhw ddim yn dod yn iawn.

Mae tabŵ mawr efo dynion ddim yn siarad am eu meddyliau a chadw pethau i mewn - pam?

Fel dyn ifanc, sydd efo bach o blatfform, dwi'n meddwl ei bod hi'n dda mod i'n medru deud fy stori a deud wrth bobl ei bod hi'n iawn i siarad a pheidio cadw popeth i mewn i ti dy hun. Mae o 'di helpu fi llwyth, cael siarad am fy nheimladau efo'r therapydd. Mae hynny mor werthfawr.

Oedd o'n gam anodd i gyfadde' mod i angen help, ond unwaith ti yna yn siarad, dyna pryd mae o hawsa'. Dwi'n annog unrhywun sydd efo unrhyw fath o broblemau iechyd meddwl i gymryd y cam yna.

Dwi dal yn mynd i barhau achos dwi ddim yn meddwl mod i'n llwyr wedi prosesu pob dim eto... dwi ddim yn gwybod os 'na i fyth, proses fel'na ydi hi. Ond dwi am dal i drafod; mae o'n bwysig i siarad.

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig