S4C yn diswyddo Llinos Griffin-Williams dros ymddygiad 'amhriodol'
- Cyhoeddwyd
Mae S4C wedi diswyddo un o uwch-swyddogion y sianel wedi honiadau o "gamymddwyn difrifol" mewn bariau yn Ffrainc y penwythnos diwethaf.
Mae 大象传媒 Cymru yn deall i Llinos Griffin-Williams ymosod yn eiriol ar gyn-chwaraewr rygbi Cymru, Mike Phillips, gan ddweud nad oedd ei Gymraeg o safon ddigon da, ac y gallai hi ddod 芒'i yrfa i ben.
Mae'r gorfforaeth hefyd wedi clywed gan ffynonellau iddi fygwth aelodau o d卯m cynhyrchu cwmni Whisper - sydd yn cynhyrchu rhaglenni S4C o Gwpan Rygbi'r Byd - yngl欧n 芒 faint o waith allan nhw ddisgwyl gan y sianel yn y dyfodol.
Yn y cyfamser, mae aelodau staff S4C wedi derbyn e-bost gan yr adran adnoddau dynol yn nodi fod prif weithredwr y sianel, Si芒n Doyle, i ffwrdd o'i gwaith ar hyn o bryd oherwydd salwch.
Mae'r neges yn dweud y bydd Geraint Evans, y Cyfarwyddwr Strategaeth Cynnwys a Chyhoeddi, ac Elin Morris, y Prif Swyddog Gweithredu yn rhannu cyfrifoldebau am y tro, ac na ddylai staff geisio cysylltu 芒 Ms Doyle.
Yn gynharach ddydd Gwener, dywedodd llefarydd ar ran S4C: "Mae Llinos Griffin-Williams wedi gadael ei r么l fel Prif Swyddog Cynnwys S4C ar 么l ei diswyddiad yn dilyn honiadau am gamymddwyn difrifol.
"Ni fyddwn yn gwneud sylw pellach ar y mater."
Daw'r newyddion wrth i ymchwiliad annibynnol i honiadau o fwlio staff S4C gan swyddogion barhau.
Cafodd Llinos Griffin-Williams ei phenodi yn brif swyddog cynnwys S4C ym mis Ebrill y llynedd.
Roedd adroddiad blynyddol S4C am 2022-23 yn nodi fod Ms Griffin-Williams yn derbyn cyflog blynyddol o 拢124,000.
Cyn hynny hi oedd cyfarwyddwr cynnwys cwmni annibynnol Wildflame.
'Dadlau'
Yn 么l gwybodaeth sydd wedi ei rannu 芒 大象传媒 Cymru, roedd Ms Griffin-Williams yn Nantes yn ei r么l fel prif swyddog cynnwys ar gyfer g锚m gr诺p ddiwethaf Cymru yn erbyn Georgia.
Wedi'r g锚m, mewn dau leoliad yn y ddinas, deellir i ddadlau ddigwydd rhyngddi hi ac aelodau'r cwmni cynhyrchu.
Mewn cyngerdd yn Nantes i ddathlu 40 mlynedd o fodolaeth Clwb Ifor Bach oedd y digwyddiad honedig cyntaf.
Ond fe wnaeth y ffrae barhau yn hwyrach mewn ail far yng nghanol y ddinas.
Yn 么l cyn-brif weithredwr S4C, Arwel Ellis Owen, roedd yn rhaid i'r sianel weithredu yn sgil yr honiadau.
"Mae'r rhaglenni yma ar Gwpan y Byd wedi cael eu derbyn yn arbennig o dda - sylw positif iawn yn y wasg amdanyn nhw, felly mae hynny'n drasiedi yno'i hun," meddai.
Ychwanegodd ei bod hi yn "eithriadol o bwysig cael cod ymarfer" o fewn sefydliadau fel S4C.
"Mae'r cod ymarfer mewn lle i sicrhau nad ydy'r comisiynwyr sydd 芒'r p诺er yn gorddefnyddio'r p诺er hwnnw neu yn camddefnyddio'r p诺er hynny.
"Ac mae hynny'n wir nid yn unig yn y byd sydd ohoni lle mae'r sector annibynnol yn gwasanaethu S4C, ond hefyd wrth gwrs o fewn cyfundrefn fel S4C rhwng aelodau staff ac yn y blaen.
"Felly mae'r canllawiau yma yn bwysig, ac mae hi'n weddol amlwg i mi fod yr unigolyn yma wedi mynd dros ben llestri, wedi colli rheolaeth, wedi anghofio'n llwyr am y gyfathrach ac wedi cwyno neu wneud cwyn am unigolion neu gwmni.
"Dwi'n credu oedd S4C yn gorfod gwneud penderfyniad fel hyn unwaith roedd y peth wedi dod allan, yntau yn gyhoeddus neu gan gwynion gan yr unigolyn neu'r cwmn茂au cynhyrchu."
'Bwlio'
Mae 大象传媒 Cymru eisoes wedi adrodd ar honiadau o "fwlio" o fewn S4C.
Dywedodd cyn-weithiwr, oedd am aros yn anhysbys nes bod yr ymchwiliad i'r honiadau rheiny yn cael ei gyhoeddi, bod "hyn i gyd yn rhy gyfarwydd".
Does dim dyddiad wedi ei bennu ar gyfer cyhoeddi yr adroddiad i honiadau o fwlio. Dechreuodd yr ymchwiliad ar ddechrau mis Mai.
Mae 大象传媒 Cymru wedi cysylltu 芒 Ms Griffin-Williams a Mike Phillips i ofyn am eu hymateb.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd2 Mai 2023