Cymru allan o Gwpan y Byd ar 么l colli i Ariannin

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Dan Biggar sgoriodd 12 o bwyntiau Cymru ar ei g锚m olaf dros ei wlad, gan gynnwys cais cynta'r g锚m

Mae Cymru allan o Gwpan Rygbi'r Byd wedi iddyn nhw gael eu trechu o 17-29 gan Ariannin mewn g锚m fratiog yn rownd yr wyth olaf ym Marseille.

Er i Gymru reoli'r hanner cyntaf, doedd y Pumas fyth ymhell ar ei h么l hi, a nhw aeth ymlaen i reoli'r ail hanner.

Daeth y ceisiau i Gymru gan Dan Biggar a Tomos Williams, tra bod Joel Sclavi a Nicol谩s S谩nchez wedi croesi i'r Archentwyr.

T卯m Michael Cheika felly fydd yn herio Seland Newydd yn y rownd gynderfynol ym Mharis nos Wener, wedi iddyn nhw drechu Iwerddon nos Sadwrn.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Sgoriodd Ariannin chwe phwynt yn ystod diweddglo tanllyd i'r hanner cyntaf

Wedi i Emiliano Boffelli fethu gyda chic gosb gynnar, i Gymru ddaeth y pwyntiau cyntaf, gyda gwaith da gan George North a Gareth Davies yn arwain at gais i Dan Biggar dan y pyst.

Llwyddodd Biggar i drosi ei gais ei hun, cyn i ddigwyddiad anarferol weld y dyfarnwr Jaco Peyper o Dde Affrica yn gorfod gadael y maes oherwydd anaf, gyda Karl Dickson o Loegr yn cymryd ei le.

Ychwanegodd Biggar dri phwynt gyda g么l gosb, ac er iddo fethu gyda chic gosb arall, roedd Cymru'n edrych yn ddigon cyfforddus gyda mantais o 10-0.

Ond daeth pwyntiau cyntaf y Pumas yn fuan cyn hanner amser, gyda Boffelli yn llwyddo gyda dwy g么l gosb sydyn yn ystod diweddglo tanllyd i'r hanner cyntaf i'w gwneud hi'n 10-6 i Gymru ar yr egwyl.

Gyda Chymru wedi rheoli'r hanner cyntaf oni bai am y munudau olaf, fe fyddai Warren Gatland wedi bod yn siomedig i fod 芒 mantais o bedwar pwynt yn unig ar yr hanner.

Ffynhonnell y llun, PA Media

Disgrifiad o'r llun, Sylwodd Tomos Williams ar fwlch yn amddiffyn yr Archentwyr i groesi am gais

Sgoriodd Boffelli g么l gosb arall ar ddechrau'r ail hanner i ddod ag Ariannin o fewn pwynt, cyn ychwanegu tri phwynt arall i'w rhoi ar y blaen am y tro cyntaf.

Roedd diffyg disgyblaeth Cymru yn bryder, a'r Archentwyr yn ddigon hapus i chwarae g锚m fratiog.

Ond ar 么l 57 munud daeth ail gais i Gymru, wrth i'r mewnwr Tomos Williams - a ddaeth ymlaen yn gynnar yn yr ail hanner - weld bwlch yn amddiffyn Ariannin er mwyn sgorio dan y pyst.

Ffynhonnell y llun, Reuters

Disgrifiad o'r llun, Joel Sclavi oedd ar waleod y pentwr i sgorio cais cynta'r Archentwyr

Yn fuan wedi hynny roedd Cymru'n credu y dylai'r clo Guido Petti fod wedi gweld cerdyn am ergyd i ben Nick Tompkins, ond roedd Karl Dickson o'r farn nad oedd hi hyd yn oed yn drosedd.

O fewn munudau sgoriodd Ariannin eu cais cyntaf trwy'r prop Joel Sclavi, ac fe roddodd drosiad Boffelli fantais o 17-19 i Los Pumas.

Gyda phum munud yn weddill daeth Louis Rees-Zammit yn agos at sgorio wedi i Rio Dyer dorri trwy'r amddiffyn, ond fe wnaeth Ariannin ddigon o drwch blewyn i'w atal ger y llinell gais.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Fe wnaeth Nicol谩s S谩nchez ryng-gipio pas gan Sam Costelow er mwyn sgorio cais hawdd a rhoi'r Pumas tu hwnt i afael Cymru

Er mai Cymru fu'n pwyso yn y cyfnod wedi hynny, gydag ychydig funudau'n weddill fe wnaeth Nicol谩s S谩nchez ryng-gipio pas gan Sam Costelow er mwyn sgorio cais hawdd a rhoi'r Pumas tu hwnt i afael Cymru.

Sgoriodd S谩nchez g么l gosb gyda chic ola'r g锚m er mwyn selio'r fuddugoliaeth, a sicrhau mai Ariannin fydd yn gwneud y daith i Baris y penwythnos nesaf.

Ffynhonnell y llun, PA Media

Disgrifiad o'r llun, "Rydw i eisiau cymryd y gr诺p yma ymhellach," meddai Warren Gatland wedi'r g锚m

Wedi'r canlyniad, mynnodd Warren Gatland ei fod eisiau parhau fel prif hyfforddwr y garfan genedlaethol.

Mae ganddo gytundeb pum mlynedd gydag Undeb Rygbi Cymru - fyddai'n ei gymryd hyd at Gwpan y Byd 2027 - ond mae cymal ynddo sy'n golygu bod modd ei dorri'n fyr ar 么l y bencampwriaeth eleni.

Dywedodd Gatland, 60, y byddai gan yr undeb "berffaith hawl" i ddod 芒'i gytundeb i ben yn dilyn y siom o golli yn y chwarteri.

Ond ychwanegodd: "Rydw i eisiau cymryd y gr诺p yma ymhellach."