Taflu goleuni ar 'undonedd ac unigrwydd' IVF
- Cyhoeddwyd
"Ar y daith IVF mae 'na benderfyniadau anodd, mae 'na sgyrsiau anodd rhwng y sawl sy'n mynd drwy'r profiad. Yn anffodus dim ond un o ddau ganlyniad sydd mewn taith o'r fath felly o'n i eisiau taflu goleuni ar hynny."
Mae Rhiannon Wyn yn byw yn Llanwnda, ger Caernarfon, hefo Pete ei g诺r a'i efeilliaid Joseff a Hanna sy'n saith oed. Mae'n gweithio fel sgriptiwr i Rownd a Rownd ac mae ei drama cyntaf radio am gwpwl sy'n gorfod gwneud yr un daith drosodd a throsodd ar hyd yr A55 i dderbyn triniaeth IVF, Garej Ni, newydd ei ddarlledu ar Radio Cymru.
Mewn sgwrs arbennig gyda Cymru Fyw mae Rhiannon wedi rhannu ei phrofiad personol hi o IVF a sut wnaeth o ei hysbrydoli i ysgrifennu drama am y pwnc:
Mi ges i'r syniad am y ddrama pan aethon ni ar drip i S诺 Gaer gyda dau deulu arall, a finna'n s么n am eironi ein bod ni wedi stopio am betrol yn yr un garej ag oeddan ni'n stopio ynddi ar y ffordd am IVF.
Ma'r plant bellach yn ei galw'n "garej ni" (er mai donuts a fairy cakes ydan ni'n eu prynu yno erbyn hyn). Gan mai stor茂o a sgriptio i Rownd a Rownd ydw i wrth fy ngwaith bob dydd o'n i wastad wedi meddwl 'sgwennu am y profiad o fynd drwy IVF, ac mi roddodd yr ymweliad 芒'r garej hefo'r plant y sbardun ar gyfer strwythur y ddrama.
Neges
O'n i jest isio trio cyfleu 'chydig o be' ddigwyddodd i ni, o undonedd ac unigrwydd, ella, y daith lythrennol a throsiadol, a gobeithio fod rhywbeth sydd wedi dod o'r galon yn medru cyrraedd y galon hefyd.
Mae mynd ar y swrnai IVF yn brofiad tu hwnt o gyffredin bellach, a 'dw i'n si诺r ei fod yn cyffwrdd 芒 bron i bob criw ffrindiau ac eto mae'n dal i ddigwydd yn y dirgel yn aml.
Atebion
Roedden ni wedi bod trwy ddwy flynedd o geisio atebion cyn cychwyn IVF ac o edrych yn 么l mae'n teimlo fel bod ein bywydau wedi rhewi am gyfnod.
Yng ngogledd Cymru ma'r daith i'r Uned Hewitt yn Lerpwl yn medru adio at y cymhlethdod wrth orfod cael amser i ffwrdd o'r gwaith ac roedd yr ymlyniad i apwyntiadau yn ei gwneud hi'n anodd gwneud trefniadau cymdeithasol a gyrfaol.
Mi gafodd yr holl gyffuriau IVF effaith ddrwg ar fy iechyd corfforol gan 'mod i'n dioddef o endometriosis, a phan roeddan ni'n cael siom ar 么l siom, 'dw i'n meddwl es i i deimlo'n euog mai fi oedd yn 'methu' er bod fy ng诺r yn gyson ei gefnogaeth (a'i hiwmor).
'Dw i'n dal i gofio be' ddudodd un ffrind hyfryd wrtha i pan ro'n i'n teimlo ar goll, bod "mwy i ti na jest hyn, cofia" oherwydd mae'n hawdd anghofio hynny wrth i'r broses lyncu rhywun yn llwyr weithiau.
Breuddwydion
Yn ei hanfod, quest ydi IVF, ac ymhlyg yn y quest yna mae breuddwydion a gobeithion y sawl sy'n mynd drwy'r daith, a'r sawl sy'n eu caru nhw hefyd. Mae'n greulon gan mai dim ond un o ddau ganlyniad sydd ac mae'r fforch mor absoliwt rhwng y ddau begwn yna.
Mae'n medru teimlo'n ynysig oherwydd yn aml mae'r profiad IVF yn digwydd mewn cyfnod lle mae ffrindiau'n cael teulu hefyd ac mae hynny'n medru bod yn anodd a chwithig i'r ddwy ochr.
Yn y ddrama ro'n i'n trio rhoi'r chwydd-wydr ar yr 'hunllef araf': yn trio cyfleu'r elfen ail-adroddus sydd i'r holl broses (ynghyd 芒 llawer o sgans a phigiadau!), a hefyd yr ansicrwydd sydd wrth wneud penderfyniadau sydd 芒 goblygiadau eithaf mawr wrth i'r cloc barhau i dician.
Llwyddiant
O'n i'n s芒l ofnadwy wrth gario'r efeilliaid, ac yn gorfod cael cyffuriau at hynny maes o law ond ar y dechrau 'dw i'n meddwl roedd y taflu i fyny yn gysur achos ro'n i'n cael fy atgoffa'n ddyddiol eu bod nhw'n dal yno.
'Dw i'n meddwl ella fod ochr seicolegol y beichiogrwydd yn waeth i'r g诺r na fi am ei fod o un cam i ffwrdd ac yn naturiol warchodol - 'dw i'n cofio o'n i am fynd am benwsos plu efo'r genod dramor ac mi roddodd ei droed i lawr a gofyn yn daer i mi beidio 芒 mynd.
Oherwydd y cefndir meddygol, ro'n i'n cael sgan bob pedair wythnos a ges i fydwraig brofiadol a bendigedig oedd yn help mawr. O'n i jest yn hapus i fod yn feichiog, a 'dw i'n meddwl bod y profiad IVF yn golygu 'mod i'n diolch amdanyn nhw bob dydd a 'dw i'n dal felly saith mlynedd yn ddiweddarach, er eu bod nhw'n medru achosi straen mewn ffyrdd eraill erbyn hyn!
O'n i'n eithaf agored pan o'n i'n feichiog mai drwy IVF oedd hynny oherwydd fod cynifer yn gofyn os oedd efeilliaid yn rhedeg yn y teulu ac ro'n i mor falch a gwerthfawrogol o'r gwasanaeth. Mae cymaint am y broses o genhedlu ac esgor sy'n dal yn wyrthiol ac mae'r ffaith bod gwyddonwyr yn medru ail-greu'r amgylchiadau'n dal i fy rhyfeddu.
Roedd 'sgwennu Garej Ni am bwnc mor bersonol yn hawdd ac yn anodd am yr un rhesymau, ond ar y cyfan yn llesol iawn. Wnes i ddarllen rhywbeth ddywedodd Hugh Jackman yn ddiweddar (wrth s么n am dor-priodas yn ei achos o) sef ei bod yn well i "siarad o'r graith nag o'r briw" a 'dw i'n meddwl mod i wedi cyrraedd pwynt lle ro'n i'n barod i geisio trafod pwnc mor bersonol, a bod cysur i'w gael o rannu hefyd.
Trafod IVF
O safbwynt personol, 'dw i'n meddwl mod i o natur 'chydig yn swil a phreifat ac roedd hynny yn gymysg 芒 'chydig o gywilydd yn ei wneud yn rhywbeth anghyfforddus i'w drafod ar y pryd. Es i mewn i rhyw survival mode lle ro'n i jest isio meddwl amdano pan o'n i yn y clinig.
Mae o hefyd yn emosiynol boenus a 'dw i'n meddwl bod pobl yn gyffredinol yn chwithig am drafod poen (a phoenau merched!).
Ond mae rhyw ddealltwriaeth a bond rhwng y rhai sydd wedi bod ar y daith. Yn Lerpwl, roedden ni weithiau'n gweld pobl roedden ni'n hanner eu nabod yn yr Uned IVF, ac un o'r pethau brafiaf pan o'n i'n clirio a gwerthu stwff yr efeilliaid rai blynyddoedd wedyn oedd cael neges gan un o'r rheiny'n holi am brynu cadair babi.
Mae'n dal i ddod 芒 dagrau i fy llygaid bod ein llwybrau wedi croesi eto - mewn amgylchiadau dipyn hapusach - ac yn fy atgoffa fod gan bawb ei stori o fewn y profiad.
Cyngor
I gyfathrebu, yn arbennig gyda'ch partner (os yn berthnasol) a theulu a ffrindiau agos. I gydnabod bod 'na gyfnodau ansicr ac i gadw'n positif, ia, ond i roi lle i deimlo'r siom a'r rhwystredigaeth hefyd.
I ffeindio dihangfa iach: mi fues i'n nofio llawer (rownd y Carib卯 yn 么l fy app ond mewn pwll nofio ger Caernarfon o'n i), bu'r g诺r yn seiclo llawer ac mi gerddon ni rownd Ynys M么n a hanner Pen Ll欧n yn ystod y bum mlynedd fuon ni ar y siwrnai.
I drio gwrando ar reddf a chadw persbectif ac i gofio nad hyn ydi'r cyfan oll: mae mwy i bob person na'i ffrwythlondeb yn unig ac mae mwy nag un ffordd o gyrraedd y nod hefyd. Ac i gofio bod dim byd yn sexy am yr holl broses felly mae angen trio cadw hiwmor!