Mam o F么n: 'Ddim yn gwybod pryd i stopio yfed'

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Mae mwy o ferched yn chwilio am gymorth wrth iddyn nhw ddod yn ddibynnol ar alcohol, medd cwnselwyr
  • Awdur, Sara Down-Roberts
  • Swydd, 大象传媒 Cymru Fyw

"Do'n i ddim yn gwybod pryd i stopio yfed - ro'n i'n yfed tan bo' fi'n pasio allan neu yn racs, a hynny er mwyn cael ffug hyder," medd mam o Sir F么n.

Wrth siarad 芒 Cymru Fyw dywed Mair (nid ei henw iawn), sy'n ei 40au, bod cael cymorth proffesiynol gan y Stafell Fyw yng Nghaerdydd "wedi'i thrawsnewid".

Mae heddiw yn Ddydd Sul Adferiad a'r bwriad yw annog eglwysi i ystyried a chydymdeimlo 芒 sefyllfa'r rhai sy'n dioddef o unrhyw ddibyniaeth.

"Mae angen dysgu mwy am sefyllfa pobl a'u hanghenion, a'u cyfeirio at yr help sydd ar gael drwy ymdrechion mudiadau megis Adferiad, y Stafell Fyw, Cynnal, Enfys a chyflenwyr eraill," yn 么l Wynford Ellis Owen, un o'r cwnselwyr.

"Gall dibyniaeth olygu fod yn gaeth i alcohol, cyffuriau, siopa, bwyd, celwyddau, gamblo, gwaith neu rywbeth arall."

'Meddwi o'dd y g么l'

Ychwanegodd Mair: "Doeddwn i ddim yn yfed bob dydd ond rywsut mi oeddwn i'n ddibynnol ar alcohol heb i fi sylweddoli.

"Mond wrth reflection, roeddwn yn sylweddoli fy mod yn defnyddio alcohol er mwyn ennill hyder - ond ffug oedd yr hyder.

"Roeddwn yn teimlo ar goll a doedd gennai ddim hunan werth.

"Pan yn mynd allan ar benwythnosau fydden i'n defnyddio alcohol fel ffordd o gogio bo fi'n rhywun arall.

"Doedd gynno fi ddim hyder yn fy hun o gwbl. O'n i'n defnyddio alcohol fel escapism dwi'n meddwl - i guddio pwy o'n i a be o'dd wedi digwydd i fi.

"Pan o'n i'n blentyn do'dd 'na ddim disgwyliadau da ohonai ac eto o'dd rhagfarn mawr bo fi ddim yn cyrraedd y disgwyliadau hefyd. O'n i'n teimlo'n hollol ddi-werth a di bwrpas rili.

"Doeddwn i ddim yn gwybod pwy o'n i - roedd fy nheimladau yn cael ergyd a doeddwn i ddim yn si诺r lle o'n i'n ffitio fewn.

"Roeddwn yn gweld bai ar bob dim ond roeddwn wedi gwrthod sbio ar fi fy hun.

"Pan o'n i allan ar wicend o'n i'n detacho pwy o'n i ac o'n i methu cadw rheolaeth ar faint o'n i'n yfed. O'n i'n yfed r'wbath - meddwi o'dd y g么l. Do'dd dau neu dri neu bedwar drinc ddim yn ddigon - fydden i'n mynd all out i feddwi'n rhacs.

"Ac yna o'n i'n teimlo'n horrendous - yn trio meddwl be' oedd wedi digwydd, be o'n i wedi'i ddeud - a ro'dd yr holl gywilydd yn 'neud i fi deimlo'n fwy di-werth ac yna ro'n i'n 'neud yr un peth eto y wicend wedyn.

"Dyna oedd y patrwm yn fy 20au, 30au ond yn fy 40au, er nad oeddwn yn mynd allan yn aml, roeddwn yn poeni am effaith hyn - roedd bob agwedd o fy mywyd yn cael ei effeithio ac ro'n i'n teimlo nad oedd neb yn deall yr hyn oeddwn i'n mynd trwyddo."

'Help ar gael'

"Mae sefyllfa Mair yn gyfarwydd i ni gyda'r nifer sy'n troi atom am gymorth ar gynnydd," medd Wynford Ellis Owen, sylfaenydd y Stafell Fyw yng Nghaerdydd ac ymgynghorydd cwnsela arbenigol i Adferiad.

Ffynhonnell y llun, Adferiad

Disgrifiad o'r llun, Dywed Wynford Ellis Owen bod galw cynyddol am wasanaethau Adferiad

"Yn ddiweddar mae mwy o ferched sy'n ddibynnol ar alcohol wedi dod atom a nifer o bobl sy'n gweithio oriau rhy hir - yn eu plith gweinidogion sy'n gweithio oriau maith ar eu pennau eu hunain.

"Yn y b么n, mae'n bwysig fod pobl yn derbyn pwy ydyn nhw ac nid yr hyn mae pobl eraill am iddyn nhw fod.

"A'r hyn sy'n hollbwysig yw gwybod bod help cyfrinachol ar gael."

Yn 么l un gweinidog yr Efengyl, fe wnaeth dioddef gorbryder a straen ei orfodi i ailedrych ar ei hun ac i ddysgu strategaethau newydd ar sut i ddelio gyda'r sefyllfa.

"Erbyn hyn rwy' mewn lle da. Rwy'n gwybod y gall y straen a'r gorbryder ddychwelyd unrhyw bryd. Ond gyda chymorth, gobeithio y gallaf ddelio gydag unrhyw orbryder a straen a all ddod yn y dyfodol," meddai.

Ffynhonnell y llun, Carwyn Tywyn

Disgrifiad o'r llun, Mae Carwyn Tywyn yn falch o'i benderfyniad i beidio yfed yn 2015

Dyw'r cerddor Carwyn Tywyn ddim wedi yfed ers wyth mlynedd.

Ar un adeg roedd e'n un o ymddiredolwyr y Stafell Fyw.

"Doeddwn i ddim yn ddibynnol ar alcohol ond fe ddes i'r penderfyniad y gallwn fyw heb y digwyddiadau emosiynol a thwp sy'n gallu digwydd ar 么l sesiwn o yfed," meddai.

"Dwi'n meddwl bo' fi wedi dod i'r penderfyniad gan bo' fi eisiau gwarchod fi a fy nheulu i ddweud y gwir - a dyw e ddim yn issue rhagor.

"Mae'n benderfyniad dwi'n falch iawn ohono ac yn un mae'r teulu a fy ffrindiau yn ei dderbyn.

"Yr hyn sy'n bwysig yw bod yna gymorth amhrisiadawy ar gael... a does yna ddim cywilydd mewn peidio yfed."

'Angen cael y drwg allan'

"Mae alcohol yn ormod o risg i fi - dwi ddim ei angen o," ychwanega Mair o Ynys M么n a ddechreuodd gael cymorth gan y Stafell Fyw ryw dri mis yn 么l.

"Dwi wedi bod yn trio ffindio help o'r blaen ac wedi trio gwahanol ddulliau o ymdopi ond doedd e ddim yn cael at wraidd y broblem - ro'n i wedi mynd i deimlo'n isel ofnadwy.

"Dwi'n teimlo lot gwell ar 么l cael cymorth. Do'n i erioed wedi teimlo bo fi'n gallu mynd at wraidd pethau cynt - a do'n i'm yn teimlo bod pobl yn dallt.

"Mae gwybod fod eraill allan yna yn gymorth mawr. Dwi'n teimlo fod help y Stafell Fyw wedi datgloi fi.

"Roeddwn yn teimlo fod neb yn fy neall ac yn reit unig yn feddyliol. Roeddwn angen rhoi masg ar - nes yn y diwedd doeddwn i ddim yn gwybod pwy o'n i.

"I fi doedd dim posib symud ymlaen nes bod y drwg wedi dod allan - dyna'r rheswm pam o'n i'n yfed gymaint yn y gorffennol.

"Dwi erioed wedi teimlo mor determined 芒 be ydw i rwan. Rwy'n teimlo ryw ddeffroad newydd a bod fy ffydd i wedi'i atgyfnerthu.

"Mae'r Stafell Fyw wedi rhoi caniat芒d i mi ddeall fy hun yn well - rhyddhau yr hyn oedd yn fy mhoeni a magu hyder ar gyfer y dyfodol.

"Hen ffrind i mi yn y brifysgol na'th yrru linc i fi am y gwasanaeth a dwi mor ddiolchgar. Mae'r cymorth wedi trawsnewid y ffordd dwi'n teimlo ac yn delio efo pethau.

"Dwi'n gwybod bod dal gwaith i 'neud ond be sy'n bwysig rwan yw bod gen i coping mechanisms - doedd rheina ddim gen i o'r blaen.

"Mae'n braf hefyd bod yn rhan o gr诺p - mae clywed eraill yn rhannu profiadau yn golygu nad ydych ar eich pen eich hun."

Os ydych chi wedi cael eich effeithio gan unrhyw faterion yn y stori yma, mae gan 大象传媒 Action Line gysylltiadau i sefydliadau all gynnig cymorth a chyngor ac mae mwy o fanylion a wefan y ac .

Ddydd Sul am 1200 fe fydd Oedfa Sul Adferiad i'w chlywed ar Radio Cymru o dan arweiniad Trystan Owain Hughes a Wynford Ellis Owen.