Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Gwynedd 芒'r nifer uchaf o dai gwag yng Nghymru
- Awdur, Iolo Cheung
- Swydd, Gohebydd 大象传媒 Cymru
Mae ffigyrau newydd yn awgrymu y gallai tua 120,000 o dai yng Nghymru - neu un o bob 12 - fod yn wag.
Roedd y mwyafrif yn cael eu disgrifio fel rhai 'gwirioneddol wag' - hynny yw, heb arwydd fod rhywun yn byw yno - tra bod 15% (17,500) yn ail gartrefi.
Llundain yw'r unig un o'r naw rhanbarth yn Lloegr gyda chanran uwch o dai gwag na Chymru, a De-Orllewin Lloegr oedd yr unig ardal 芒 chanran ychydig yn uwch o ail dai.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod nhw'n cymryd camau, a "bod gan bawb yr hawl i brynu neu rentu t欧 safonol a fforddiadwy yn eu cymuned eu hunain".
Gwynedd ar y brig
Mae'r data diweddaraf gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) yn cyfuno ffigyrau o Gyfrifiad 2021 gyda gwybodaeth gan gyrff llywodraethol eraill.
Ond fe wnaeth yr ONS rybuddio y gallai casglu data Cyfrifiad 2021 yn ystod pandemig Covid fod wedi effeithio ar y ffigyrau, yn enwedig os oedd aneddau oedd fel arfer gyda rhywun yn byw yno yn wag am y tro.
Gyda 7% o aneddau yng Nghymru'n 'wirioneddol wag', Llundain (7.3%) yw'r unig ran o Loegr sydd 芒 chanran uwch.
Roedd canran yr ail gartrefi yng Nghymru sydd heb unrhyw breswylwyr arferol (1.2%) hefyd ddwywaith yn uwch na chyfartaledd Lloegr (0.6%).
Mae Gwynedd ymhlith yr ardaloedd gyda'r canran uchaf o dai heb eu meddiannu yng Nghymru a Lloegr gyfan (19.2%), gyda hynny dros deirgwaith yn uwch na chyfartaledd Cymru.
Ymhlith yr awdurdodau lleol eraill gyda chanran sylweddol o dai gwag mae Ceredigion (15.9%), Sir Ddinbych (15.9%), Ynys M么n (14.9%) a Sir Benfro (13.9%).
Gwynedd sydd ar frig y rhestr hefyd ar gyfer nifer y cartrefi gwag (12,120), gyda niferoedd uchel hefyd yn Abertawe (9,555), Sir Benfro (8.920), Caerdydd (8,690) a Sir Ddinbych (7,980).
Mae aneddau gwag ac ail gartrefi yng Nghymru hefyd yn fwy tebygol o fod yn dai neu'n fyngalos ar wah芒n nag yn Lloegr, ble mae mwy ohonyn nhw'n fflatiau neu maisonettes.
Ond mae'r ffigyrau yn uwch nag amcangyfrifon blaenorol gan elusennau tai a Llywodraeth Cymru, a gyfeiriodd yn gynharach eleni at ffigyrau oedd yn awgrymu bod "dros 22,000 o dai gwag hir dymor yng Nghymru".
'Gwastraff adnodd'
Yn gynharach eleni fe lansiodd y llywodraeth gynllun Grant Cartrefi Gwag Cenedlaethol gwerth 拢50m, sydd yn cynnig hyd at 拢25,000 i adnewyddu tai gwag fydd wedi yn gallu cael eu defnyddio unwaith eto.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod nhw hefyd wedi cymryd camau eraill, gan gynnwys cyflwyno Cynllun Lesio Cymru a rhoi pwerau i awdurdodau lleol godi treth cyngor uwch ar ail dai.
"Rydyn ni'n credu bod gan bawb yr hawl i brynu neu rentu t欧 safonol a fforddiadwy yn eu cymuned eu hunain, fel bod modd iddyn nhw fyw a gweithio'n lleol," meddai.
"Mae tai sy'n wag yn hir dymor yn wastraff o adnodd ac yn gallu cael effaith andwyol ar ein cymunedau.
"Dyna pam rydyn ni'n darparu nifer o fesurau a phecynnau ariannol i leihau nifer y tai gwag hir dymor yng Nghymru."
Mae'r Grant Cartrefi Gwag Cenedlaethol yn cael ei weithredu ar eu rhan nhw gan Gyngor Rhondda Cynon Taf, sydd wedi dod 芒 922 o dai yn 么l i ddefnydd drwy hyn a chynlluniau eraill ers 2017.
"Rydyn ni wedi ymrwymo i leihau nifer y tai gwag yn Rhondda Cynon Taf, gan eu bod nhw'n gost ariannol a gwastraff adnodd allai ddarparu tai fforddiadwy sydd wir eu hangen," meddai llefarydd.
"Maen nhw'n gallu bod yn anneniadol, a denu ymddygiad gwrthgymdeithasol."
Ychwanegodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd fod ganddyn nhw hefyd sawl cynllun i daclo problemau tai yn y sir, gan gynnwys premiwm Treth Cyngor o 150% ar ail gartrefi, a'r ffaith eu bod nhw fel cyngor nawr yn prynu eiddo er mwyn ei rentu am bris fforddiadwy.
"Mae'r Cynllun Gweithredu Tai yn cynnwys Cynllun Grantiau Prynwyr Tro Cyntaf i Adnewyddu Tai Gwag, a addaswyd yn ddiweddar i gynnwys tai a fu'n arfer bod yn ail gartrefi," meddai.
"Hyd yma, mae 116 o unigolion o Wynedd wedi dod a 50 eiddo gwag yn 么l i ddefnydd diolch i gymorth y cynllun grantiau."
Mae elusennau tai hefyd wedi pwysleisio'r angen i "wneud defnydd llawn o bob t欧 yng Nghymru".
"Gyda phobl ar draws Cymru'n wynebu lefelau cynyddol o ddigartrefedd ac ansicrwydd tai, a mwy o alw am dai saff, o safon sydd wir yn fforddiadwy, mae nifer yr anheddau gwag yng Nghymru yn bryder," meddai prif weithredwr Shelter Cymru, Ruth Power.
"Yn ogystal ag adeiladu mwy o dai cymdeithasol, gall aneddau gwag yng Nghymru chwarae r么l bwysig wrth ddarparu tai sydd wir eu hangen ar bobl, yn ogystal 芒 gwella cymunedau a'r amgylchedd lleol ar draws Cymru."