Cymraes yn honni 'gwahaniaethu' gan Farathon Efrog Newydd

Ffynhonnell y llun, Gayle Redmon

Disgrifiad o'r llun, Yn ddiweddar mae Gayle Redmon wedi rhedeg y Great North Run, a hanner marathon Newcastle

Mae rhedwraig o ogledd Cymru wedi gorfod ildio ei lle ym Marathon Efrog Newydd ar 么l i'r trefnwyr ddweud na fyddai hi'n cael rhedeg tra'n gwisgo fest i gario d诺r a chyflenwadau ar gyfer ei stoma, yn sgil pryderon diogelwch.

Dywedodd Gayle Redmon, sy'n 47 ac yn gweithio fel meddyg teulu yn Sir y Fflint, bod y fest wedi ei galluogi i redeg yn ddiogel mewn rasys marathon yn Llundain a Pharis.

Mae hi'n teimlo bod methiant Marathon Efrog Newydd i ddarparu ar ei chyfer gyfystyr 芒 gwahaniaethu.

Dywedodd New York Road Runners, sy'n gyfrifol am gynnal y digwyddiad, nad oedd y fest yn cydymffurfio 芒 chyfyngiadau'r ras, a gafodd eu gosod gan Heddlu Efrog Newydd (NYPD).

Angen 'cario swm enfawr o hylif'

Mae Gayle yn byw gyda stoma ac yn gorfod hunan-gathetreiddio chwe gwaith y dydd, ar 么l cael llawdriniaeth ar gyfer cyflwr endometriosis.

Gan ei bod wrth ei bodd yn rhedeg, mae hi wedi darganfod gwahanol bethau sy'n ei helpu yn ystod y rasys ac mae hi wedi llwyddo i gystadlu mewn nifer o ddigwyddiadau yn ystod y degawd diwethaf.

Ffynhonnell y llun, Gayle Redmon

Disgrifiad o'r llun, Fe anfonodd Gayle luniau o'i fest, bag d诺r a'r cyflenwadau meddygol at drefnwyr y ras

Ar 么l cael cadarnhad ei bod wedi cael lle fel cystadleuydd anabl ar gyfer y ras eleni, fe wnaeth hi yrru lluniau o'r fest at y trefnwyr, sy'n cynnwys lle i roi bag bach ar gefn y fest er mwyn rhoi bag 1.5l o dd诺r, a gwelltyn fel ei bod yn medru yfed yn gyson.

Dywedodd ei bod yn "cario swm enfawr o hylif pan dwi'n rhedeg am gyfnod hir", gan esbonio bod ei chyflwr yn golygu ei bod angen llawer o dd诺r.

Ar ddiwrnod ras, mae'n cario'r holl gyflenwadau y mae ei hangen ar gyfer yr 13 awr nesaf yn ei fest.

Ffynhonnell y llun, Gayle Redmon

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Gayle nad oes modd iddi redeg marathon yn ddiogel heb ei fest

Ond cafodd Gayle wybod gan y New York Road Runners mai dim ond belt o amgylch ei chanol fyddai'n cael ei ganiat谩u, er y byddai gwisgo un o'r rhain yn effeithio ar ei stoma.

"Nes i yrru e-bost arall atyn nhw yn esbonio bod hyn yn fater anabledd," meddai.

Esboniodd yn glir na fyddai modd iddi gystadlu os nad oedd modd datrys y broblem.

'Dim opsiwn ond gohirio'

Fe wnaeth y trefnwyr yrru rycsac clir iddi er mwyn cario'r d诺r, ond dywedodd na fyddai hynny wedi gweithio gan nad oedd lle iddi gario'r hyn yr oedd angen arni.

11 diwrnod cyn y ras fe dderbyniodd e-bost yn dweud y gallai ddefnyddio poteli d诺r ar flaen ei fest, ond nid oedd sylw ynghylch lle y gallai gadw gweddill ei heitemau.

Dywedodd nad oedd ganddi opsiwn ond gohirio'r daith a cholli'r 拢500 yr oedd hi a'i g诺r wedi'i dalu am le yn y ras.

"Dwi'n siomedig nad oedden nhw'n gallu ffeindio ffordd arall o fy nghynnwys i," meddai.

"Dwi'n teimlo eu bod wedi gwahaniaethu yn fy erbyn."

Ffynhonnell y llun, Gayle Redmon

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Gayle ei bod hi a'i g诺r Tim, sydd hefyd yn rhedwr anabl, wedi colli'r 拢500 yr oedden nhw wedi'i dalu am le yn y ras

Mewn datganiad dywedodd trefnwyr Marathon Efrog Newydd: "Rydym yn gweithio gyda'r bwriad o ddarparu trefniadau rhesymol sy'n cyd-fynd 芒 chyfraith leol a chanllawiau er mwyn sicrhau bod rhedwyr o bob gallu yn medru cael mynediad at ein ras a bod pob rhedwr, gwyliwr, gwirfoddolwr a staff yn ddiogel."

Dywedodd eu bod wedi mynd "y cam ychwanegol i ddarparu'r rhedwr gyda gwahanol opsiynau, gan gynnwys prynu dau becyn hydradu ar ei chyfer, yn ogystal 芒'r 20 safle diod fydd ar lwybr y ras".