Cyhuddo un o garfan y Barbariaid o ymosod yn rhywiol
- Cyhoeddwyd
Mae un o chwaraewyr rygbi carfan y Barbariaid wedi cael ei gyhuddo o ymosod yn rhywiol.
Bu Api Ratuniyarawa, 37, ger bron Llys Ynadon Caerdydd ddydd Sadwrn - roedd e'n wynebu dau gyhuddiad o ymosod yn rhywiol.
Clywodd y llys ei fod yn gwadu ymosod yn rhywiol ar dair dynes ym mar y Revolution ar Stryd y Castell yn y brifddinas rhwng 31 Hydref a 1 Tachwedd.
Roedd Mr Ratuniyarawa wedi'i enwi yn rhan o garfan y Barbariaid i wynebu Cymru yn Stadiwm y Principality.
Yng Nghwpan Rygbi'r Byd yn Ffrainc roedd e'n rhan o garfan Fiji.
Yn ystod y gwrandawiad fe wnaeth Mr Ratuniyarawa o sir Gorllewin Northampton ond cadarnhau ei enw.
Ar ran yr erlyniad dywedodd Michael Evans wrth y llys: "Fe ddigwyddodd y tri digwyddiad yn annibynnol o'i gilydd. Doedd y tair dynes ddim yn adnabod ei gilydd a doedd y diffynnydd ddim yn eu hadnabod cyn y noson yna."
Gorchmynnodd yr ynad Peter Hamley bod y chwaraewr rygbi yn ufuddhau i nifer o amodau mechn茂aeth gan gynnwys cyrffyw electronig rhwng 19:00 a 07:00.
Does ganddo chwaith ddim hawl i ddod i Gymru oni bai am achosion llys. Mae e hefyd wedi cael gorchymyn i beidio cysylltu 芒 thystion yn yr achos ac i beidio mynd i unrhyw fan trwyddedig.
Mae disgwyl i'r achos fynd ger bron Llys y Goron Caerdydd ar 4 Rhagfyr.
Mewn datganiad dywedodd llefarydd ar ran y Barbariaid: "Wedi i Heddlu De Cymru gysylltu 芒 ni fe wnaethon ni gydweithio'n llawn 芒 nhw gan eu helpu gyda phob ymholiad.
"Yn sgil cyngor gan yr heddlu dyw hi ddim yn bosib i ni wneud unrhyw sylw pellach wrth i'r ymchwilad fynd yn ei flaen."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Tachwedd 2023