Enwau lleoedd: Oes angen ffurfiau Cymraeg a Saesneg?

Ffynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru

Disgrifiad o'r llun, Gall newid dim ond un llythyren mewn enw tref neu bentref arwain at "anghydweld chwyrn", yn 么l Mr Miles
  • Awdur, Alun Jones
  • Swydd, 大象传媒 Cymru Fyw

Dylem anelu at un ffurf o enwi lleoedd pan fod ond ambell i lythyren o wahaniaeth rhwng y ffurfiau Cymraeg a'r Saesneg, yn 么l Gweinidog y Gymraeg.

Roedd Jeremy Miles yn ymateb i ddeiseb sy'n galw am ddefnyddio "enwau Cymraeg yn unig ar gyfer lleoedd yng Nghymru".

Cyflwynwyd y ddeiseb i Senedd Cymru gan Mihangel ap Rhisiart, ar 么l casglu 1,397 o lofnodion.

Mewn llythyr at gadeirydd Pwyllgor Deisebau'r Senedd, Jack Sargeant, dywedodd Mr Miles bod yna "rhai enghreifftiau, lle mae ynganiad enwau Cymraeg a Saesneg ar dref neu ddinas mor debyg i'w gilydd bod dadl gref dros lynu at un sillafiad".

Ychwanegodd ei fod yn credu "y gall wneud synnwyr i lynu at y sillafiad Cymraeg".

'Dangos parch tuag at Gymru'

Mae sawl enghraifft o ddinasoedd, trefi a phentrefi yng Nghymru sydd ag enwau Cymraeg a Saesneg sy'n cael eu sillafu a'u hynganu yn debyg iawn yn y ddwy iaith, gan gynnwys; Caerffili - Caerphilly, Merthyr Tydfil - Merthyr Tudful, a Treorci - Treorchy.

Dywed y ddeiseb: "Byddai hyn yn dangos parch tuag at Gymru, fel cenedl sydd 芒'i hanes a'i diwylliant ei hun; a byddai'n cydnabod rhai o'r ffyrdd y mae Cymru wedi dioddef gorthrwm diwylliannol yn hanesyddol o ran ei hiaith a'i diwylliant.

"Yn y lle cyntaf, gallai pobl barhau i ddefnyddio enwau Saesneg yn 么l eu harfer.

"Fodd bynnag, ym mhob cyd-destun swyddogol, ac yn y cyfryngau llafar ac ysgrifenedig, dylid defnyddio'r enwau Cymraeg gwreiddiol ar gyfer lleoedd yng Nghymru."

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr

Disgrifiad o'r llun, Mae Mihangel ap Rhisiart, wnaeth gyflwyno'r ddeiseb i'r Senedd, yn fyfyriwr ymchwil o Frynaman

Mae sylwadau Mr Miles yn cyd-fynd 芒'r egwyddor sy'n cael ei hyrwyddo gan Gomisiynydd y Gymraeg, Efa Gruffudd Jones.

Ond mae Gweinidog y Gymraeg yn rhybuddio bod y rhain yn aml iawn yn "faterion lleol".

"Rydyn ni wedi gweld yn y gorffennol sut y gall newid dim ond un llythyren mewn enw tref neu bentref, neu ychwanegu cysylltnod er mwyn cysoni orgraff, arwain at anghydweld chwyrn mewn cymunedau lleol," meddai Mr Miles.

"Rwy'n dal i gredu, felly, bod angen canfod ffordd o adlewyrchu'r ystod eang o safbwyntiau a goblygiadau sy'n bodoli."

Beth yw'r enw gwreiddiol?

Mewn achosion lle mae yna enwau gwahanol yn Gymraeg a Saesneg ar gyfer yr un dref neu ddinas, mae Mr Miles yn nodi "nid yw'n eglur bob tro beth yw'r enw 'gwreiddiol' ar anheddiad penodol".

Mae'n crybwyll enghraifft Caerdydd: "Mae'r enw modern Cymraeg Caerdydd yn dod o'r ffurf Gymraeg canoloesol, Caerdyf, sydd yn y Saesneg wedi datblygu'n Cardiff (gyda'r 'f' Cymraeg yn cael ei drosi'n 'ff' Saesneg).

"Byddai'n anodd pennu, felly, pa un o'i ffurfiau modern sy'n glynu agosaf at y ffurf 'wreiddiol' yn yr achos hwn.

"Ac o hepgor yr enw 'Saesneg' modern, gellid dadlau ein bod hefyd yn dileu cysylltiad 芒 ffurf ganoloesol Gymraeg enw'r ddinas."

Ychwanegodd: "Yr hyn yr wyf i wedi'i ddysgu wrth ymdrin ag enwau lleoedd yw bod gan bob enw unigol ei hanes unigryw."

Disgrifiad o'r llun, Dadl Mihangel ap Rhisiart yw nad oes angen dau enw ar le

Dywedodd Mr ap Rhisiart wrth y 大象传媒 yn gynharach eleni bod hwn yn bwnc allai fod yn gymhleth ond bod ei syniad yn ei hanfod yn un syml.

"Y cyfan yr ydw i yn ei ddweud yw - beth bynnag yw yr enw does dim angen dau enw ar un lle," meddai.

Mae Mr ap Rhisiart yn pwysleisio y gallai pobl barhau i ddefnyddio enwau Saesneg yn 么l eu harfer, ond ei fod am weld yr enw Cymraeg ym mhob cyd-destun swyddogol ar gyfer lleoedd yng Nghymru.

"Dwi ddim yn trio cael pobl i newid eu harferion. Jyst rhywbeth swyddogol dwi'n siarad amdano, er enghraifftjyst cael un enw ar arwydd yr heol."

Mae Llywodraeth Cymru yn nodi y bydd yn "gweithredu i amddiffyn enwau lleoedd Cymraeg" a'r gyda Phlaid Cymru'n datgan y bydd yn "gweithredu i sicrhau bod enwau lleoedd Cymraeg yn yr amgylchedd adeiledig a naturiol yn cael eu diogelu a'u hyrwyddo ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol".

Ffynhonnell y llun, Comisiynydd y Gymraeg

Disgrifiad o'r llun, Mae Comisiynydd y Gymraeg yn cynnig rhestr o ffurfiau safonol enwau lleoedd yng Nghymru

Mae Comisiynydd y Gymraeg yn gyfrifol am roi cyngor ar y ffurfiau safonol o enwau lleoedd yng Nghymru, ac mae rhestr o ffurfiau safonol enwau Cymraeg pentrefi, trefi a dinasoedd yng Nghymru ar gael .

Wrth siarad ar raglen 大象传媒 Dros Frecwast dydd Llun, dywedodd Efa Gruffudd Jones "wrth i ni bennu enwau llefydd newydd e.e. 'stadau tai neu etholaethau seneddol, ein bod ni o hyn ymlaen yn pennu enwau Cymraeg yn unig ar lefydd newydd".

Ychwanegodd fod gan "awdurdodau lleol r么l mewn enwi llefydd a weithie ma' 'na sail hanesyddol i ddwy fersiwn yr enw felly dyw hi ddim bob amser yn hawdd i bennu un enw".

"Mae 'na sawl trefn ar gael ac mae'n bwysig cymryd ystyriaeth leol a barn leol ond hefyd yn bwysig i sicrhau cysondeb ar draws Cymru."

Sefydlodd y Comisiynydd banel o arbenigwyr i weithio ar ffurf safonol enwau lleoedd Cymru a gwneud argymhellion arnynt.

Mae'r panel hefyd yn defnyddio Canllawiau Safoni Enwau Lleoedd Cymru.

Mae Adran 9 - Ffurfiau deuol yn nodi'r cyngor hwn i'r panel ei ystyried: "Dylid anelu at arfer un ffurf yn unig pan nad oes ond llythyren neu ddwy o wahaniaeth rhwng y ffurf Gymraeg a'r ffurf 'Saesneg', gan dueddu at y ffurf Gymraeg.

"Dyma hefyd ddymuniad yr Arolwg Ordnans ac Awdurdodau'r Priffyrdd. Eithr dylid cydnabod amrywiadau sefydlog (Caeriw/Carew, Biwmares/Beaumaris, Y Fflint/Flint, Wrecsam/Wrexham)."