Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Gweithwyr yn gorymdeithio dros fygythiad i swyddi dur
Mae cannoedd o weithwyr cwmni Tata Steel wedi cynnal gorymdaith fel protest yn erbyn y bygythiad o filoedd o ddiswyddiadau.
Fe gerddodd tua 400 o bobl trwy Bort Talbot ddydd Sadwrn wrth i'r ansicrwydd barhau dros ddyfodol safle gwaith dur y dref.
Yn 么l yr undebau, roedd rheolwyr Tata'n bwriadu dod 芒'r rhan fwyaf o'r gwaith yno i ben.
Roedd y cwmni i fod i wneud datganiad ynghylch dyfodol y safle yn gynharach yn y mis ond mae'r cyhoeddiad yna wedi cael ei ohirio.
Y safle ym Mhort Talbot yw gwaith dur mwyaf y DU. Yn 么l Paul Taylor, 42, sy'n gweithio i Tata ers 24 o flynyddoedd, fe fyddai'r effaith yn "ofnadwy"s pe byddai swyddi'n diflannu neu'r safle'n cael ei gau i lawr.
Gyda'i wraig, Melanie, a'u dau o blant yn y brotest hefyd, dywedodd bod yna berygl y bydd "bywydau'n cael eu colli" o ganlyniad yr ansicrwydd a'r effaith ar iechyd meddwl unigolion.
Cyn yr orymdaith fe wnaeth y protesterwyr gadw dau funud o dawelwch i nodi Diwrnod y Cadoediad.
Roedd Kristal Lloyd, 41, yn y brotest i gefnogi ei g诺r sy'n gweithio yn y gwaith dur.
Dywedodd y bydd colli swyddi'n gael effaith enfawr ar y gymuned gyfan, gan gynnwys pobl hunan-gyflogedig sy'n cael gwaith yn sgil gwasanaethu'r safle.
Yn 么l Alun Davies, o'r undeb Community, bydd yna gyfarfod rhwng Tata a'r undebau ddydd Gwener, pan mae disgwyl i Tata amlinellu eu cynlluniau.
Mae cwmni Tata wedi cael cais am sylw, ond fe ddywedodd llefarydd ddechrau'r mis: "Pryd bynnag y mae gyda ni gyhoeddiad o bwys i'w rannu, rydym yn gwneud bob ymdrech i roi gwybod i ein gweithwyr a'u cynrychiolwyr yn gyntaf."