Mam yn ystyried gwerthu ei th欧 o achos costau gofal plant
- Cyhoeddwyd
Mae mam i ddau o blant ifanc yn dweud ei bod hi'n ystyried gwerthu ei chartref oherwydd costau gofal plant.
Mae Stephanie Thomas o bentref Sully, Bro Morgannwg, yn 37 oed ac yn fam i Avery sy'n wyth mis oed, a'i merch Hayden sy'n bedair.
Fe gollodd Ms Thomas ei swydd yn ystod cyfnod mamolaeth, ac ar 么l arfer gweithio mewn swyddi cyflog uchel mae hi'n dweud y bydd rhaid iddi ystyried gwerthu'r t欧 os nad oes modd iddi ddod o hyd i swydd newydd sydd 芒 chyflog tebyg.
Yn 么l Llywodraeth Cymru, maen nhw'n cyflwyno gofal o ansawdd ar gyfer pob plentyn dwy oed ledled Cymru drwy raglen Dechrau'n Deg, ac yn mynd i'r afael 芒 thlodi plant fel mater o flaenoriaeth.
Yn 么l Ms Thomas, byddai talu am y gofal sydd ei angen ar ei phlant yn costio hyd at 拢2,000 y mis - pris y mae hi'n ei ddisgrifio fel un "gwbl anfforddiadwy".
"Mae cost gofal plant wedi cynyddu 拢12 y dydd ers cael Avery sydd yn gynnydd sylweddol i'r teulu, ac mae'n anoddach nawr oherwydd dwi wedi colli fy swydd," meddai.
"Dwi ati yn chwilio am swydd ond os dwi methu ffeindio rhywbeth cyn hir sy'n talu cyflog tebyg i'r un oedd gyda fi cynt, bydd rhaid i ni werthu'r t欧 i fforddio gofal plant.
"Rhwng cost gofal sy'n galluogi ni i weithio oriau llawn amser, a chyfraddau morgais yn codi hefyd, mae'n sefyllfa anfforddiadwy."
Ychwanegodd ei bod yn nabod pobl sydd wedi penderfynu peidio mynd yn 么l i'r gwaith oherwydd costau gofal plant.
Rhiant arall sydd wedi teimlo effaith y costau yw Kirsty Thomas o Fangor, Gwynedd.
Mae hi'n athrawes ysgol uwchradd, ac er ei bod hi'n mwynhau ei swydd, mae hi'n wynebu gorfod gweithio rhan amser oherwydd costau gofal uwch wedi iddi gael ail blentyn.
"Mae gen i hogyn, Rory, sy'n dair oed a dwi wedi gorfod talu iddo fynd i feithrinfa ers oedd o'n 11 mis ar gost o 拢1,000 y mis," meddai.
'Gweithio llawn amser ddim werth o'
"Er bod ni r诺an yn derbyn peth cymorth gan y llywodraeth ar gyfer ei ofal o, fydd rhaid talu ffioedd uchel i Jude fynd i'r feithrinfa yn y flwyddyn newydd.
"Tydi gweithio llawn amser ddim werth o i ni fel teulu, byddwn i ond yn gweithio i dalu am y gofal plant.
"Felly dwi'n newid i weithio rhan amser ac mae hynny'n drist... Dwi'n teimlo fy mod i'n colli allan ar yrfa dwi 'di gweithio'n anodd i'w chael."
Yn 么l adroddiad gan Oxfam Cymru, mae "costau gofal plant uchel" a "diffyg darpariaeth gofal plant sy'n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru" yn gyrru rhieni i dlodi.
Mae'r elusen wedi cyhoeddi adroddiad 'Little Steps, Big Struggles' ar ran y gr诺p Gwneud Gofal yn Deg, dogfen sy'n edrych ar brofiadau 300 o rieni.
Mae'r adroddiad yn nodi bod:
27% o rieni yn cyfaddef eu bod nhw'n gwario dros 拢900 y mis ar ofal plant;
67% wedi gorfod lleihau eu horiau gweithio oherwydd diffyg gofal plant;
53% yn dweud nad yw'n gwneud synnwyr ariannol iddyn nhw weithio ar 么l talu am eu costau gofal plant;
67% yn cyfaddef bod costau gofal uchel yn eu hatal rhag cael mwy o blant;
43% methu talu eu biliau sylfaenol ar 么l talu am ofal plant.
Mae gan Lywodraeth Cymru ddau gynllun gofal plant maen nhw'n ariannu ar hyn o bryd.
Dan y cyntaf, mae rhieni sy'n gymwys yn gallu hawlio hyd at 30 awr o ofal plant am ddim bob wythnos am hyd at 48 wythnos o'r flwyddyn i blant dros dair blwydd oed.
Yr ail yw Dechrau'n Deg, sy'n darparu 12.5 awr o ofal plant am ddim i blant dwy oed sy'n byw mewn ardaloedd mwy difreintiedig.
Mae'r cynllun yma yn cael ei ehangu fesul cam a bydd ar gael yn y pen draw i bob plentyn dwy oed fel rhan o gytundeb cydweithredu rhwng llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru.
Ond yn 么l Bethan Sayed, sydd yn ymgyrchydd yn y maes gofal plant, mae angen cyflymu'r broses hynny a mynd ymhellach eto.
"Dwi'n cefnogi'r cynllun Dechrau'n Deg ond dyw e ddim yn mynd yn ddigon pell," meddai.
"Mae ymchwil Oxfam yn dangos bod angen cefnogaeth ar rieni, yn enwedig mamau pan mae'r plentyn yn naw mis oed ymlaen. Dyma hoffwn i weld yn digwydd yng Nghymru.
"Bydd cymdeithas yn lle gwell os oes modd i fenywod weithio pryd maen nhw am wneud yn lle gorfod gofalu am blant oherwydd costau gofal."
'Mae angen gweld newid'
Mae Kirsty Thomas yn cytuno gyda sylwadau Ms Sayed, gan ddweud bod y system bresennol yn "annheg".
Ychwanegodd: "Dwi'n byw draws l么n i ardal sy'n derbyn cymorth trwy'r cynllun Dechrau Deg, ond dwi ddim. Dwi'n teimlo bod o fel rhyw fath o 'postcode lottery' mewn ffordd.
"Dwi'n hollol deall bod o yno i gefnogi teuluoedd difreintiedig ond mae gen i ffrindiau sydd ar yr un cyflog ac sydd gen i, neu fwy, sy'n cael yr oriau am ddim a dydyn ni ddim.
"Felly dwi jest yn ddim yn teimlo bod o'n deg o gwbl ac mae angen gweld newid."
Mewn datganiad dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydyn ni'n cyflwyno gofal o ansawdd ar gyfer pob plentyn dwy oed ledled Cymru drwy ein rhaglen Dechrau'n Deg lwyddiannus fel rhan o'r Cytundeb Cydweithio gyda Phlaid Cymru. Rydyn ni hefyd yn buddsoddi 拢70m o gyfalaf yn y sector hwn fel y gall barhau i dyfu.
"Rydyn ni'n mynd i'r afael 芒 thlodi plant fel blaenoriaeth absoliwt ac yn parhau i weithio gyda'n partneriaid tuag at greu Cymru lle gall pob plentyn, person ifanc a theulu ffynnu.
"Mae mwy na 3,000 o blant, pobl ifanc, teuluoedd a sefydliadau wedi cyfrannu at ddatblygu'r Strategaeth Tlodi Plant ddiwygiedig.
"Mae hyn wedi ein helpu i ganolbwyntio ar ble y gall ein polis茂au wneud y gwahaniaeth mwyaf a nodi meysydd blaenoriaeth lle byddwn ni'n cyflymu'r gweithredu."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Ebrill 2023
- Cyhoeddwyd16 Mawrth 2023