Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Actores Pobol y Cwm: 'Ges i fy ngham-drin yn rhywiol'
- Awdur, Megan Davies ac Alun Thomas
- Swydd, Newyddion 大象传媒 Cymru
Mae un o actorion mwyaf blaenllaw Cymru wedi rhannu, am y tro cyntaf, ei phrofiad o gael ei cham-drin yn rhywiol yn blentyn ifanc.
Mae Sera Cracroft, sydd wedi chwarae rhan Eileen ar Pobol y Cwm ers 1989, yn dweud ei bod hi wedi rhannu'r hanes ar raglen ar S4C er mwyn helpu eraill.
"Ges i fy ngham-drin yn rhywiol pan o'n i'n blentyn bach yn nh欧 ffrind i mi," meddai.
"Do ni ddim 'di sylweddoli faint o effaith o'dd o 'di gael i fi tan o'n i'n h欧n."
'O'n i'n cael hunllefau'
Mae Sera, sydd bellach yn fam i dri ac yn 57 oed, yn rhannu ei bod hi wedi dioddef gyda chyflwr PTSD o ganlyniad i'r ymosodiad pan oedd hi'n "bump neu chwech oed".
"O'n i'n cael hunllefau, flashbacks," meddai.
"Tra o'dd y weithred yn digwydd, dwi'n cofio o'n i'n teimlo bod fi'n mygu.
"Nes i frathu ei law o a sgrechian am mam."
Cafodd ei braich ei thorri yn ystod yr ymosodiad, gyda'i rheini dan yr argraff bod Sera wedi brifo ei hun yn yr ardd.
"Nes i ddim s么n dim byd, achos do'n i ddim yn gallu rhoi'r peth mewn geiriau.
"O'n i'n gwybod bo' fi wedi cael braw, ac o'dd pobl yn meddwl 'ma hi 'di fracturio ei braich - dyna pam mae hi wedi cael braw'.
"O'n i'n nerfus iawn fel plentyn... a ma' rhai plant yn nerfus, ond wrth gwrs, y rheswm oedd y trawma oedd wedi digwydd i fi."
Wedi blynyddoedd lawer o gadw'r profiad yn gyfrinachol, fe waethygodd iechyd meddwl Sera yn sylweddol yn oedolyn.
"Pan o'n i dan straen, pan o'n i brysur, o'dd y flashbacks yn dod yn waeth.
"Nes i benderfynu un diwrnod, o'n i jyst methu byw yn fy nghroen a nes i benderfynu bo' fi eisiau lladd fy hun."
'Dyna ddechrau'r gwella'
Canolbwyntio ar ei phlant oedd wedi newid ei meddwl, yn 么l Sera.
Cafodd gymorth arbenigol yn yr ysbyty, lle mae hi'n cofio pobl oedd yn "ofnadwy o gl锚n" iddi.
"Dwi'n cofio un nyrs yn d'eud 'tho fi: 'There isn't one child I've ever spoken to who would think their lives were better without their mother'.
"Y geiriau yna 'naeth ysgogi fi i wella mewn ffordd. Dim fy mai i ydy o, ond fy nghyfrifoldeb i ydy gwella.
"A dyna nes i, efo help doctoriaid, seiciatryddion, GP, cwnsela."
Fe wnaeth Sera rannu'r profiad o'i phlentyndod gyda seiciatrydd.
"Dyna'r dechreuad wedyn ohono fi'n gwella," meddai.
Wedi cyfnod o sgyrsiau gydag arbenigwyr ac elusennau, fe siaradodd Sera 芒'r heddlu am y tro cyntaf.
"Ma' 'na blismones o'r enw Cerian ac o'dd hi fatha angel. 'Naeth hi ffonio fi a 'naeth hi ofyn i fi 'neud datganiad."
Yn wreiddiol, roedd yr heddlu wedi penderfynu peidio siarad 芒'r unigolyn, meddai Sera, yn sgil diffyg tystiolaeth.
"O'n i mor, mor siomedig."
Gyda chymorth ei ffrindiau a'i chwaer, roedd Sera wedi mynnu bod yr heddlu yn holi'r dyn.
"O'n i eisiau iddo fo deimlo canran o'r ofn o'n i 'di deimlo."
Yn 么l Sera, roedd yr unigolyn wedi gwadu i'r heddlu ei fod wedi erioed cwrdd 芒 hi.
Chafodd neb ei erlyn am yr ymosodiad yn erbyn Sera.
'R诺an dwi mewn lle da'
"Dwi 'di cael lot o gwnsela," meddai'r actores, sydd bellach yn byw yng Nghaerdydd.
Mae Sera bellach yn ffrindiau 芒 chyn-golgeidwad Cymru, Neville Southall, sy'n ymddiddori mewn cymorth iechyd meddwl.
Mae wedi ei helpu hi i sylweddoli taw hi sydd gyda'r p诺er bellach, nid y dyn oedd wedi ymosod arni.
"R诺an dwi mewn lle da. Fedra i ddim newid y gorffennol," meddai.
"Yr unig beth alla i newid ydy sut dwi'n ymateb i hynna."
'Digwydd ym mhob cymdeithas'
Ychwanegodd Sera: "O'n i'n teimlo bod o'n bwysig siarad amdano fo yn y gobaith y bysa fo'n helpu pobl eraill.
"Mae cam-drin rhywiol, cam-drin emosiynol, cam-drin plant, yn digwydd ym mhob cymdeithas ac ym mhob haen o gymdeithas.
"Mae Cymry Cymraeg yn dueddol o deimlo bo' petha' fel'na ddim yn digwydd ymysg Cymry Cymraeg, ac mae o.
"Dwi jyst yn gobeithio fedra i helpu pobl, ac os ydyn nhw isio siarad amdano fo, bod yr help yna ar gael iddyn nhw, achos yn sicr mae'r help wedi bod o gymorth ofnadwy i fi."
Bydd Sera ar Sgwrs Dan y Lloer ar S4C am 20:00 nos Lun, 20 Tachwedd.
Os yw cynnwys yr erthygl hon wedi effeithio arnoch, mae gwybodaeth a chefnogaeth ar gael ar wefan Action Line y 大象传媒.