Ateb y Galw: Caitlin Drake

Yr wythnos yma yr actores a chantores o Rosllannerchrugog, Caitlin Drake, sy'n Ateb y Galw.

Yn ddiweddar, mae Caitlin wedi bod yn perfformio'r rhan Efnisien yn y sioe gerdd Branwen: Dadeni mewn theatrau ledled Cymru.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Fy atgof cynta' yw canu mewn cyngerdd Nadolig pan o'n i yn yr ysgol feithrin. Nes i wisgo fyny fel dafad bach ond o'n i 'di panicio'n llwyr cyn mynd ar y llwyfan ac yn anffodus, 'nes i chwydu ym mhobman a dros fy sgidiau du newydd… doedd o'm neis iawn! Wwps!

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Fy hoff le yn Nghymru yw Aberaeron. Dwi wastad yn mynd ar fy ngwylie yne efo fy Mam a Nain a dwi byth yn ffed up o'r lle. Mae'n heddychlon dros ben a ma'r tywydd yn wahanol yne hefyd - falle ma' nhw efo micro climate eu hunain!

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Noson ore erioed… ma' 'ne lot o uchafbwyntie i ddewis ond dwi meddwl pan nes i weld y northern lights yn Tromso - o'n i'n gweithio gyda'r RSC ar y pryd a na'thon ni fel tîm o actorion gael y cyfle i weld nhw!

'Nes i a fy nghariad fynd reit i'r top, i ogledd Norwy a'r bws, gwario orie er mwyn dreifio allan o'r eira ond rhaid i mi gyfadde' roedd o'n werth o! Noson i'w chofio am byth bythoedd!

Ffynhonnell y llun, Frân Wen/Craig Fuller/Canolfan Mileniwm Cymru

Disgrifiad o'r llun, Caitlin yn perfformio yn y sioe Branwen: Dadeni

Disgrifia dy hun mewn tri gair.

Mewn tri gair, bysai'n ddeud bo fi'n bybli, gwirion a dwi'n angerddol dros ben!

Pa ddigwyddiad yn dy fywyd sy' o hyd yn neud i ti wenu neu chwerthin pan ti'n meddwl nôl?

Ma' 'ne lot o bethe sy'n 'neud i mi wenu ond yr atgof that springs to mind ydy pan o'n i'n ferch fach yn cystadlu yn Yr Urdd. Roedd fy Nain i (sef fy no.1 fan) yn cogio beirniadu. Ond, doedd hi ddim jest y beirniad 'chos hefyd, roedd hi goro chware'r rôl y gynulleidfa, y cyflwynydd, Nain (wrth gwrs) a'r beirniad! Multi role llwyr!

Na'th hyn fynd on ac on 'nes i mi berfformio a chystadlu ar y llwyfan go iawn! Prep o'dd o ond o'n i wastad isho feedback… hyd yn oed pan o'n i'n chwe mlwydd oed! Bechod iddi am 'neud hynne i fi, pob blwyddyn am wthnose ac wthnose! Diolch Nain!

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Y digwyddiad 'na'th codi cywilydd oedd pan 'nes i anghofio geirie fi hanner ffordd drwy gân! Roedd o'n waeth oherwydd o'n i ond yn canu Calon Lân ar dop y tiwn The Rose so o'dd pawb yn 'nabod o ac hefyd o'n i'n canu yn Y Stiwt yn Rhosllannerchrugog, felly roedd fy nheulu a ffrindie, a ffrindie fy nheulu yn gwylio! Hunllef!

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?

Tro diwethaf 'nes i grïo oedd gwrando a'r Mared Williams yn canu Eira yn y sioe gerdd Branwen:Dadeni.

Ffynhonnell y llun, The Other Richard

Disgrifiad o'r llun, Caitlin yn perfformio yn y ddrama Pavillion

Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu bodlediad a pham?

Fy hoff lyfr i ar y funud yw Women Don't Owe You Pretty gan Florence Given. Mae'n ymwneud â grymuso menywod a mae'n ffab! Hoff podcast fi yw Table Manners efo Jessie Ware a'i mam, Lennie. A fy hoff ffilm i yw Wizard of Oz 'chos mae Judy Garland ynddo a dyne be o'n i'n gwatshiad pan o'n i'n fach.

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod? Pam?

Byswn i'n rili hoffi cael bwyd neu paned bach gyda Ruth Jones. Dwi meddwl bod hi'n grêt a mor ddoniol, a hei, falle bydd gan ni 'r'un diddordebau… Pwy a ŵyr?

Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Dwi'n eitha' ysbrydol. Gennai lot o crystals, canhwyllau scented a dwi rili hoffi darllen horosgopau! Rwy'n credu'n gryf mewn gofalu am ein lles a felly, i fi, ma tapio fewn i iachâd ysbrydol yn helpu fi.

Dwi'n hoff iawn o Reiki a gweithio gyda fy anadliad a fel perfformiwr, ma' checio fewn i'r anadl yn bwysig iawn! Diwedd y dydd, dwi'n credu, os ydych chi'n edrych ar ôl eich hunen ac yn enwedig eich iechyd meddwl wrth 'neud y pethe sy'n eich gwneud chi'n hapus wel yna, fe gewch chi heddwch.

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Credu bysa i'n mynd am dro fyny'r mynydd - Mynydd Rhosllannerchrugog a lawr Pen-Y-Cae i fewn i'r Rocky Woods, Rhiwabon.

Wedyn byta brunch masif gyda afocado, bara sourdough, lashins o menyn propor a wyau Cymraeg! Sai goro rho ring i bawb dwi'n caru i ddeutha nhw i ddod rownd am barti ffarwel - unrhyw esgus am barti! Wedyn, dyna pryd byddai'r hwyl yn dechre!

Pa lun sy'n bwysig i ti a pham?

Ma' 'ne lot o lunie sy'n bywsig i mi ond falle yr un sy'n sefyll allan ydy pan ges i fy graduation a daeth Mam, Dad, Nain a Step-Mam fi lawr i Llundain i wylio. Cafodd ni gyd lun, fel un teulu mawr. Yr unig berson oedd ddim yne o'dd fy chwaer bach i… so dio'm cweit yn cyflawn ond mae'n dal yn hyfryd!

Ffynhonnell y llun, Caitlin Drake

Disgrifiad o'r llun, Caitlin gyda'r teulu

Petaset ti'n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?

Neb! Saim isho bod unrhyw person arall… dwi meddwl byse fo'n stressful! Chi erioed 'di gwylio'r ffilm Freaky friday? Dim diolch!