Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Gemau rhagbrofol Euro 2024: Armenia 1-1 Cymru
G锚m gyfartal oedd hi rhwng Armenia a Chymru brynhawn Sadwrn yng ng锚m ragbrofol Euro 2024.
Dechrau digon araf oedd hi i d卯m Cymru allan yn Yerevan gyda'r t卯m cartref yn rheoli'r hanner cyntaf.
Roedd Cymru ar ei h么l hi wedi pum munud yn unig, gyda Lucas Zelarayan yn sgorio g么l gynnar i Armenia.
Roedd y pwysau yn cynyddu yn ystod yr hanner cyntaf i d卯m Rob Page, gyda'r Cymry'n chwarae yn esgeulus a heb fawr o egni.
Wrth nes谩u at hanner amser, deffrodd y Cymry gan greu cyfleoedd newydd a chael gafael ar y g锚m.
Fe drawsnewidiodd yr awyrgylch wedi i Nair Tiknizyan, benio i'w g么l ei hun yn dilyn tafliad gan Connor Roberts.
Roedd Cymru'n chwarae 芒 mwy o hyder ar gychwyn yr ail hanner, gyda'r ddau d卯m yn awyddus i ennill y g锚m er mwyn ceisio sicrhau eu lle yn Euro 2024.
Roedd cardiau melyn yn cael eu cyflwyno i chwaraewyr y ddau d卯m, ac wrth i Gymru chwarae'n fwy hyderus, fe wnaeth Bichakchyan daro'r postyn a throi'r momentwm yn 么l i gyfeiriad Armenia.
Daeth Brennan Johnson a Daniel James ymlaen i Gymru yn yr ail hanner yn y gobaith y gallai eu cyflymder helpu i lywio'r b锚l i Gymru, ond nid oedd g么l i'r un o'r timau yn yr ail hanner.
Bellach mae'n rhaid i Gymru guro Twrci, sef arweinwyr Gr诺p D, yng Nghaerdydd nos Fawrth gan obeithio y bydd Croatia yn colli pwyntiau yn eu gemau yn erbyn Latfia ac Armenia.