Rhybudd y gall cynghorau Cymru fynd yn fethdalwyr
- Cyhoeddwyd
Dim ond mater o amser yw hi cyn bod un o gynghorau Cymru yn mynd yn fethdalwyr, os nad yw'r pwysau ariannol yn ysgafnhau - dyna'r rhybudd gan arweinwyr cyngor.
Mewn cyfweliad gyda 大象传媒 Cymru, dywedodd Anthony Hunt, arweinydd Llafur Cyngor Torfaen fod sylfeini awdurdodau lleol "dan fygythiad".
Ac yn 么l Mark Pritchard, arweinydd annibynnol Cyngor Wrecsam, mae'r toriadau i gymorth gofal a chymdeithasol yn effeithio'n negyddol ar wasanaethau'r GIG.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod am barhau i weithio'n agos gyda chynghorau i "wynebu'r heriau".
"Mae pethau'n anodd," dywedodd Mr Pritchard.
"Bydd awdurdod lleol yng Nghymru... yn wynebu methdaliant os nad ydynt yn cael eu hariannu. Dim ond mater o amser yw hi."
Dywedodd wrth raglen Sunday Supplement ar 大象传媒 Radio Wales eu bod wedi gwneud 拢60m o doriadau yn y gyllideb ac y byddai angen gwneud arbedion pellach yn y flwyddyn nesaf.
"Mater o amser yw hi cyn bod 'na awdurdod yng Nghymru yn wynebu methdaliant."
Dywedodd fod ei awdurdod yn ystyried cael gwared ar grant o 拢1.4m sy'n cael ei ddefnyddio i wneud newidiadau hygyrch i dai fel bod modd i gleifion ddychwelyd adref o'r ysbyty ar 么l cael anaf.
Fis Awst, dangosodd gwaith ymchwil gan y 大象传媒 fod disgwyl i gynghorau Cymru weld diffyg ariannol o 拢394.8m ar y cyd dros y ddwy flynedd nesaf.
Fe amlygodd Mr Hunt y sefyllfa ariannol yn Lloegr lle mae'r arweinwyr yn honni y gall un mewn 10 o gynghorau yn Lloegr fynd i'r wal.
"Dw i'n meddwl ein bod mewn sefyllfa ychydig yn well yng Nghymru o ganlyniad i'r gwaith rydym wedi ei wneud gyda'r llywodraeth, ond mae'r gwasanaethau yna o dan fygythiad," meddai.
Cwestiynu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru
Fe gwestiynodd Mr Pritchard flaenoriaethau gwario Llywodraeth Cymru megis prynu maes awyr Caerdydd a chynnig prydiau ysgol am ddim.
"Mae 'na bobl gyfoethog iawn yng Nghymru sy'n cael presgripsiwn am ddim ac mae eu plant yn cael prydiau ysgol am ddim - mae'n rhaid i hyn ddod i ben," meddai.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn darparu mwy o gyllid i awdurdodau lleol y flwyddyn ariannol hon, gyda chynnydd o 7.9% ledled Cymru, yn dilyn cynnydd o 9.4% yn 2022-23.
"Rydym yn cydnabod bod awdurdodau lleol yn wynebu penderfyniadau anodd ac rydym yn parhau i weithio'n agos gyda chynghorau i wynebu'r heriau."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Awst 2023