Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Bae Colwyn: Arestio trydydd person mewn ymchwiliad llofruddiaeth
Mae trydydd person wedi cael ei arestio fel rhan o ymchwiliad llofruddiaeth yn dilyn marwolaeth dyn 65 oed ym Mae Colwyn.
Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw am 02:15 fore Llun wedi adroddiadau o wrthdrawiad un cerbyd ar Princes Drive.
Wedi i swyddogion Heddlu'r Gogledd gyrraedd a chyfnod o chwilio fe gafodd dyn 33 oed o'r dref a dyn 42 oed o Widnes, Sir Gaer eu harestio.
Fore Mawrth daeth cadarnhad fod dynes 29 oed hefyd wedi ei harestio.
Roedd hyn wedi i'r llu ddweud eu bod yn ymchwilio i "sawl trywydd o ran unigolyn arall sydd dan amheuaeth o fod yn rhan" o'r digwyddiad.
Maent yn parhau yn y ddalfa.
Mae swyddogion arbenigol yn darparu cymorth i deulu'r dyn a fu farw, ac mae manylion yr achos wedi cael eu rhoi i swyddfa'r crwner.
'Dim pryderon diogelwch i'r gymuned'
Mae'r heddlu'n apelio am wybodaeth a lluniau dashcam gan unrhyw un oedd yn ardaloedd Bay View Road, Greenfield Road neu Princes Drive tua 02:00 ddydd Llun.
Fe fydd swyddogion heddlu'n parhau yn yr ardal wrth i'r ymholiadau barhau.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Sarah-Jayne Williams: "Rwy'n pwysleisio bod dim pryderon gyda ni ynghylch diogelwch y gymuned ehangach."
Mae'r llu hefyd yn rhybuddio'r cyhoedd i ymatal rhag damcaniaethu ynghylch yr achos ar y cyfryngau cymdeithasol, ac i gysylltu'n uniongyrchol 芒 nhw oes oes gyda nhw unrhyw wybodaeth.