大象传媒

Tristwch yn Llanfrothen wedi marwolaethau bechgyn

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Mae pobl cymuned Llanfrothen wedi cynnal munud o dawelwch i gofio am y pedwar dyn ifanc

Mae pobl sy'n byw yn ardal y gwrthdrawiad a laddodd pedwar person ifanc o Amwythig wedi mynegi eu sioc a'u tristwch.

Aeth Jevon Hirst, Harvey Owen, Wilf Fitchett a Hugo Morris ar goll yn ystod y penwythnos ar 么l treulio amser yn ardaloedd Harlech a Phorthmadog.

Cafwyd hyd i'w cyrff ger pentref Garreg ddydd Mawrth mewn car Ford Fiesta arian oedd wedi mynd oddi ar ffordd yr A4085.

Cadarnhaodd Heddlu'r Gogledd bod y car "ben i lawr", ac "yn rhannol dan dd诺r".

Daeth pobl leol at ei gilydd ger cofeb Llanfrothen fore Mercher i gofio'r bechgyn gyda gweddi a munud o dawelwch dan arweiniad y Parchedig Roland Barnes.

Mae'r gymuned, meddai, mewn "tristwch a sioc" o glywed fod pedwar o bobl ifanc - un yn 16 oed, dau yn 17 ac un yn 18 oed - wedi marw yn y fath fodd.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r hyd a ddigwyddodd 'wedi cyffwrdd pawb', medd y Parchedig Roland Barnes

Roedden nhw wedi dod i Eryri "am antur yn y mynyddoedd, rhywbeth ffantastig i'w wneud, a mae wedi troi allan mor drist," dywedodd.

"Dwi'n si诺r mae wedi cyffwrdd pawb. Mae o'n sioc ofnadwy.

"Mae'n bwysig i ni ddangos yn gyhoeddus fod ni'n poeni am beth sydd wedi digwydd [ac] i ddangos ein cydymdeimlad.

'Pe bai ni ond wedi clywed rhywbeth'

Cafodd y car yr oedd y dynion ifanc wedi bod yn teithio ynddo ei ddarganfod ar dir fferm sy'n berchen i Rhys Williams a'i wraig Carys, ger Llanfrothen.

Dywedodd Mr Williams bod y car tua 30m i ffwrdd o'u cartref, ond nad oedden nhw wedi clywed unrhyw beth.

"Roedden ni'n gwybod eu bod nhw ar goll ers nos Sul, ac yna cawsom ni ein deffro am tua 05:30 fore Mawrth gan s诺n hofrennydd uwch ein pennau," meddai.

"Es i allan i'r fferm y bore hwnnw, a pan ddes i n么l i'r t欧 am tua 10:00 roedd yna swyddogion heddlu o gwmpas lle.

"Ches i wybod bod y car wedi cael ei weld gan rywun mewn lori ailgylchu. Roedd o tua 30m o'n t欧 ni, nes i weld y car ben i lawr yn y ffos, yn agos iawn i'r ffordd."

Ychwanegodd eu bod nhw wedi rhoi datganiad i'r heddlu "ond nad oedden nhw'n gwybod unrhyw beth am yr hyn ddigwyddodd".

"Mae'n drasiedi. Pe bai ni ond wedi clywed rhywbeth, efallai y bydda ni wedi gallu eu helpu. Rydyn ni'n cydymdeimlo'n arw gyda theuluoedd a ffrindiau'r pedwar dyn ifanc wnaeth golli eu bywydau."

'Rhannu galar' y teuluoedd

"Trychineb" oedd disgrifiad Emlyn Roberts, sy'n cadw tafarn Y Ring yn Llanfrothen.

"Dwi'm yn cofio neb yn troi fyny yn y gofgolofn, m'ond yn dechra' mis Tachwedd," dywedodd.

Roedd y gwasanaeth, meddai, yn ymdrech i fynegi parch i deuluoedd y bechgyn, "a trio sylweddoli faint o gollad ydi o iddyn nhw i gyd yn Yr Amwythig".

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae pobl yn teimlo'n arw dros yr hyn sydd wedi digwydd, medd Emlyn Roberts

"Ma'r galar... 'dan ni'n rhannu fo efo nhw," ychwanegodd, gan ddweud bod yna fwriad i gasglu cydymdeimladau pobl yr ardal mewn llyfr i'w anfon maes o law i'r teuluoedd.

Y nod, meddai, yw "iddyn nhw ddallt faint o deimlada' cry' sydd yn y pentra amdan be' sy' 'di digwydd ac i gefnogi nhw a rhoi gair o gysur iddyn nhw".

'Sori'

Pentrefwr arall a ddaeth i'r gofeb fore Mercher oedd Sharon Morgan.

"Dylia hyn ddim digwydd i blant bach ifanc fel'na," dywedodd.

"Fedra'i ddim d'eud faint o sori ydan ni [er does] dim byd yn mynd i helpu nhw [y teuluoedd] ar y funud.

"Mae'n ofnadwy be' sy' wedi digwydd a 'dan ni gyd yn fa'ma yn meddwl am eu teulu a ffrindia'."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Sharon Morgan a phentrefwyr eraill wedi ymuno 芒'r cydymdeimladau gydag anwyliaid y pedwar a fu farw

Dywedodd y pentrefwyr ei fod yn amlwg ers oriau m芒n ddydd Mawrth bod rhywbeth difrifol wedi digwydd yn yr ardal.

"O'dd y teimlad yn od iawn," dywedodd Emlyn Roberts. "O ganol nos, d'eud y gwir, o'dd 'na hofrennydd o gwmpas... o'ddan ni'n meddwl bod 'na rwbath go ddrwg 'di digwydd ac o'ddan ni'n poeni...

"O'dd o'n gwaethygu ac o'ddan ni'n teimlo bod 'na rwbath mwy na jyst bod rhywun ar goll, a wedyn ca'l clw'ad y niws bod y car 'di ca'l ei hyd, 'lly, ar y gongol ddrwg na' sydd lawr fan 'cw."

Mae Mr Roberts ymhlith nifer sydd wedi mynegi pryder bod y ffordd ble ddigwyddodd y gwrthdrawiad yn un beryglus, yn enwedig i'r rhai sydd heb arfer gyrru ar ei hyd.

Mae ymchwiliad yr heddlu'n parhau i gadarnhau beth yn union ddigwyddodd cyn i'r car fynd oddi ar y ffordd.