大象传媒

Pedwar dyn ifanc o Amwythig wedi boddi ar 么l gwrthdrawiad

  • Cyhoeddwyd
Gyda'r cloc o'r chwith uchaf: Hugo Morris, Harvey Owen, Jevon Hirst a Wilf FitchettFfynhonnell y llun, Lluniau teulu
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Gyda'r cloc o'r chwith uchaf: Hugo Morris, Harvey Owen, Jevon Hirst a Wilf Fitchett

Mae cwest wedi clywed bod pedwar dyn ifanc o Sir Amwythig wedi boddi ar 么l gwrthdrawiad yng Ngwynedd.

Cafwyd hyd i gyrff Jevon Hirst, 16, Harvey Owen, 17, Wilf Fitchett, 17, a Hugo Morris, 18, ger pentref Garreg fore Mawrth, 21 Tachwedd.

Aeth y gwasanaethau brys ati i chwilio amdanyn nhw wedi pryderon bod neb wedi clywed ganddyn nhw ers dydd Sul, 19 Tachwedd.

Cafodd y cwest ei agor a'i ohirio yng Nghaernarfon ddydd Mercher.

Y gred yw bod y pedwar dyn ifanc wedi teithio o Sir Amwythig i Harlech ar y dydd Sadwrn gyda'r bwriad o wersylla yn Eryri.

Cafodd y car Ford Fiesta arian roedd y bechgyn yn teithio ynddo ei ddarganfod ger ffordd yr A4085, wedi i'r heddlu dderbyn gwybodaeth gan aelod o'r cyhoedd.

Y car 'ben i lawr'

Cadarnhaodd y llu bod y car wedi ei ddarganfod "ben i lawr", ac "yn rhannol dan dd诺r" yn ardal pentref Garreg, rhwng Penrhyndeudraeth a Beddgelert.

Wrth agor y cwest yng Nghaernarfon dywedodd Kate Robertson, Uwch Grwner Gogledd-Orllewin Cymru bod y pedwar wedi cael eu hadnabod yn ffurfiol gan aelodau o'u teuluoedd i'r heddlu.

Ychwanegodd bod archwiliadau post mortem wedi dod i'r casgliad dros dro i'r pedwar foddi.

Dywedodd nad oedd modd parhau gyda'r cwest gan fod ymchwiliad yr heddlu yn mynd yn ei flaen.

"Unwaith y bydd hwnnw wedi ei gwblhau y gall cwest llawn gael ei gynnal," meddai.

Ffynhonnell y llun, MNA Media
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Daeth cannoedd o bobl i wylnos yn Amwythig ddydd Sul i gofio'r pedwar fu farw

Dros y penwythnos daeth tua 400 o bobl ynghyd ar gyfer gwylnos i gofio'r pedwar yn eu tref enedigol, Amwythig.

Cynhaliwyd dau funud o dawelwch ar sgw芒r y dref ddydd Sul, ble gosodwyd canhwyllau a blodau hefyd.

Daeth hynny wedi i drigolion pentref Llanfrothen gynnal gwylnos er cof y dynion ifanc ddiwedd yr wythnos ddiwethaf.

Disgrifiodd mam Harvey, Crystal, ei mab fel yr "enaid mwyaf gwerthfawr" a oedd yn "berson unigryw ac arbennig".

"Ni allaf dderbyn na fyddaf yn gallu ei ddal eto na dweud wrtho fy mod yn ei garu eto," meddai, mewn datganiad a gyhoeddwyd trwy'r heddlu.

Roedd Wilf a Harvey wedi troi'n 17 oed lai na mis cyn y digwyddiad.

'Galar tref'

Dywedodd Esgob Amwythig, y Gwir Barchedig Sarah Bullock, fod cymuned y dref gyfan mewn galar.

"Ni allwn ddychmygu'r tristwch a'r sioc i'r teuluoedd sy'n delio 芒 hyn ar hyn o bryd," ychwanegodd.

Wrth gydymdeimlo 芒 theuluoedd y pedwar ychwanegodd y crwner nad oedd s茂on am yr hyn a ddigwyddodd yn gymorth a bod unrhyw drugaredd yn golygu mwy na chwilfrydedd y cyfryngau.

Mae Heddlu'r Gogledd yn apelio ar unrhyw un sydd 芒 lluniau dashcam, ac oedd yn gyrru ar yr A4805 rhwng bore Sul 19 Tachwedd a bore Mawrth 21 Tachwedd i gysylltu 芒 nhw.

Pynciau cysylltiedig