大象传媒

Gohirio cynlluniau Senedd gydradd ar y funud olaf

  • Cyhoeddwyd
Y SeneddFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae cynlluniau i greu Senedd gydradd rhwng dynion a merched wedi cael eu gohirio, ddyddiau'n unig cyn yr oedd disgwyl iddyn nhw gael eu cyhoeddi.

Dywed Llywodraeth Cymru eu bod yn "gwneud gwaith pellach" ar ddeddfwriaeth a fyddai'n gorfodi pleidiau i enwebu'r un nifer o ddynion a merched yn ymgeiswyr etholiadol.

Mae cwestiynau wedi codi a oes gan y Senedd y pwerau angenrheidiol i basio'r ddeddfwriaeth.

Mae'n rhan o'r cynllun i gynyddu nifer yr Aelodau o'r Senedd o 60 i 96.

Cafodd bil i greu Senedd fwy ei gyhoeddi ym mis Medi, ac roedd Llafur Cymru a Phlaid Cymru'n gobeithio y byddai wedi ei gymeradwyo mewn pryd ar gyfer yr etholiad nesaf yn 2026.

Mae cwot芒u rhywedd o fewn bil arall rhag ofn iddyn nhw gael eu herio yn y llysoedd. Pe byddai hynny'n digwydd, fe allai beryglu'r cynllun ehangach am Senedd fwy.

Mae amheuon wedi eu crybwyll na allai'r Senedd gyflwyno'r cwot芒u gan mai San Steffan sy'n gyfrifol am ddeddfau cyfleoedd cyfartal.

Y llynedd fe ddywedodd yr AS Ceidwadol, Darren Millar - sy'n aelod o bwyllgor ehangu'r Senedd - bod cyfreithwyr wedi rhoi cyngor "clir" i Aelodau o'r Senedd nad oedd ganddyn nhw y pwerau angenrheidiol.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd y bwriad i gael Senedd gydradd yn rhan o'r cynllun i gynyddu nifer yr aelodau o 60 i 96

Mae Llywodraeth Cymru wedi gwrthod cadarnhau'r rheswm dros ohirio cyhoeddi'r cynlluniau, nag am ba hyd.

Mewn datganiad, dywedodd: "Rydym yn gwneud rhagor o waith ar y Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau), sy'n golygu na fyddwn yn cyhoeddi ar 4 Rhagfyr, fel yr oedd disgwyl yn wreiddiol."

Ym mis Hydref, fe gafodd copi drafft o'r ddeddfwriaeth ei ryddhau gan gr诺p ymgyrchu oedd yn awgrymu bod y llywodraeth eisiau i'r ddeddf gyfrif menywod trawsryweddol fel menywod.

Mae'r diwygiadau'n rhan allweddol o gytundeb cydweithio llywodraeth Mark Drakeford gyda Phlaid Cymru.

Pan mae biliau'n cael eu cyhoeddi, mae Llywydd y Senedd yn rhoi datganiad yn cadarnhau eu bod "o fewn cymhwysedd deddfwriaeth" y Senedd, sy'n golygu bod y sefydliad 芒'r pwerau angenrheidiol.

Dywedodd llefarydd ar ran y Senedd na allai rhoi sylw tan hynny.

Pynciau cysylltiedig