Ateb y Galw: Matthew Bulgo

Ffynhonnell y llun, Matthew Bulgo

Yr actor, cyfarwyddwr a'r darmodydd, Matthew Bulgo, sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma.

Mae Matthew, sy'n wreiddiol o Abertawe ond yn byw yng Nghaerdydd, yn cyfarwyddo ac actio ar lwyfan, yn ogystal ag ysgrifennu dramâu. Eleni, roedd Matthew'n gweithio ar gynhyrchiad Julius Caesar gan y Royal Shakespeare Company.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Bod yn sâl a chysgu ar y soffa yn y tŷ roedden ni'n byw pan o'n i'n fach. Roedd gen i wres uchel iawn ac o'n i'n gorwedd yno tra roedd y stafell yn troi o 'nghwmpas i. Dwi'n cofio'r lliwiau a phatrymau'r soffa a'r carped yn fyw.

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Ro'n i'n ddigon ffodus i dyfu i fyny yn agos iawn i Benrhyn Gŵyr felly byddai'n rhaid iddo fod yn un o'r baeau yno - doeddwn i ddim yn eu gwerthfawrogi'n llawn pan oeddwn i'n byw yn Abertawe. Bae y Tri Chlogwyn (Three Cliffs Bay) neu Rhosili mae'n debyg.

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Efallai fy mharti graddio ar ôl bod i'r ysgol ddrama. O'n i wedi fy amgylchynu gan lwyth o ffrindiau gwych - o'n i newydd rannu tair blynedd dwys o hyfforddi gyda nhw. Rwy'n cofio'n glir cerdded ar draws London Bridge tua 7 y bore, pan ddaeth y dathliadau i ben, ar fy ffordd adref gan deimlo'n gyffrous iawn ac yn nerfus am adael yr hyfforddiant o'r diwedd a phlymio mewn i'r diwydiant ei hun.

Disgrifia dy hun mewn tri gair.

Gwahanol bob dydd.

Pa ddigwyddiad yn dy fywyd sy' o hyd yn gwneud i ti wenu neu chwerthin pan ti'n meddwl nôl?

Dwi'n meddwl efallai yr adeg 'nes i berfformio mewn sioe Theatr Genedlaethol Cymru, Praxis Makes Perfect. Roeddwn i wedi tyfu i fyny'n hoff iawn o gerddoriaeth y Super Furry Animals a Gruff Rhys, ac roedd hi mor swreal perfformio ar y llwyfan gydag e bob nos.

Rwy'n cofio ar y diwrnod cyntaf cawsom ni meet-and-greet ac o'n i'n ei ffeindio hi'n anodd i beidio gwenu fel idiot. Roedd y prosiect cyfan yn gymaint o hwyl - nid yn unig yn gweithio gyda Gruff ond hefyd roedd llawer o fy mêts yn y cast. Atgofion hapus.

Ffynhonnell y llun, Matthew Bulgo

Disgrifiad o'r llun, Matthew yn y cefn gyda'i fraich yn yr awyr yn perfformio yn Praxis Makes Perfect gyda Gruff Rhys

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Fel actor, dwi wedi cael llawer o glyweliadau chwithig. Cefais glyweliad unwaith i chwarae cymeriad o'r Beibl ar gyfer hysbyseb Freeview. Erbyn i mi gyrraedd roedden nhw wedi ailysgrifennu'r sgript yn llwyr a phenderfynu ei fod yn mynd i fod am fôr-ladron yn lle… ond oedd neb wedi dweud wrtha i...

Es i fewn ar gyfer y clyweliad, cael eye-patch dros fy llygaid, cleddyf cardfwrdd, a pharot inflatable. O'n i heb weld y sgript felly roedd rhaid imi jest trio'r gora y gallwn i fel o'n i'n mynd yn fy mlaen. I wneud pethau'n waeth, roedd y cyfarwyddwr ar gyswllt lloeren o wlad arall ac roedd 'na oedi felly oedden ni'n siarad dros ein gilydd. Nid oedd yn siarad Saesneg yn dda iawn chwaith felly doedden ni ddim rili'n gallu cyfathrebu â'n gilydd mewn gwirionedd. Roedd yn drychineb llwyr... a na, ches i ddim y swydd!

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?

Rwy'n meddwl mai'r adeg pan ganwyd fy merch. Doedden ni ddim yn gwbod os oedden ni'n mynd i gael bachgen neu ferch, felly roedd hynny'n ychwanegu i'r profiad. Yn gyfrinachol, roeddwn i wir eisiau merch felly pan nes i ddarganfod mai dyna oedd gennym ni roeddwn i wedi fy syfrdanu braidd. Mae'n debyg mod i wedi crio sawl gwaith ers hynny oherwydd y blinder o fagu plant a'r nosweithiau ddi-gwsg ond dydw i ddim yn cyfri'r rheiny!

Ffynhonnell y llun, Matthew Bulgo

Disgrifiad o'r llun, Mae Matthew'n bartner i'r actores, Elin Phillips

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Rwy'n ddiamynedd iawn. Mae'n gas gen i fod yn hwyr. Dwi'n gosod deadlines afrealistig i mi fy hun. A dwi'n meddwl y byddai'n deg dweud mod i'n prynu gormod o lyfrau.

Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu bodlediad a pham?

Fy hoff ffilm, heb os nac oni bai, yw Midnight Cowboy. Rwyf wrth fy modd â'r cefndir hwnnw o Efrog Newydd yn y chwedegau a'r cwlwm hwnnw sydd wedi'i ffurfio rhwng y ddau outsider yn y ffilm. Mae'r olygfa olaf honno rhyngddynt ar y ffordd i Florida yn fy nghael i bob tro. Hefyd, mae rhaid fi sôn am bodlediad gwych gwrandewais arno'n ddiweddar o'r enw Ghost Story. Mae'n rhannol yn stori true crime, rhannol dirgelwch teuluol, ac yn rhannol yn stori ysbryd (yn amlwg!).

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod? Pam?

Falle fod o'n bach o ³¦±ô¾±³¦³óé ond fyswn i'n hoffi eistedd lawr i gael ambell ddiod gyda William Shakespeare. Dwi 'di adrodd gymaint o'i eiriau gwych ar y llwyfan, ac mi fyswn i'n hoffi eistedd lawr i ddod i 'nabod y dyn oedd (mae'n debyg) tu ôl i'r dramâu 'ma. Dwi'n meddwl fysa fo mor ddiddorol.

Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Torrais fy asennau unwaith pan o'n i'n dynwared pengwin yn sleidio ar ei stumog.

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Mi fyswn i'n ei wario gyda fy ffrindiau da ac anwyliaid, yfed coffi da, bwyta bwyd gwych a hel atgofion. Ac efallai gwylio Cymru'n curo Seland Newydd am y tro cyntaf ers degawdau. Mi fysa hynny'n neis.

Pa lun sy'n bwysig i ti a pham?

Mae gormod o lawer i ddewis ohonynt. Ysgrifennais ddrama ar gyfer National Theatre Connections yn 2017 a dewiswyd fy hen theatr ieuenctid, Cwmni Theatr Ieuenctid Gorllewin Morgannwg (WGYTC) i'w berfformio yn y Theatr Genedlaethol. Mae'r theatr ieuenctid yn sefydliad mor wych sy'n newid bywydau. A dweud y gwir, fyddwn i ddim yn gweithio yn y diwydiant heddiw pe na bawn i wedi bod yn aelod o WGYTC, a dwi'n gwybod am lawer o actorion Cymreig sy'n dweud yr un peth.

Ar y diwrnod yr oedd y WGYTC yn perfformio yn y Theatr Genedlaethol daeth llwyth o gyn-fyfyrwyr i gefnogi ac i wylio'r sioe. Mae yna lun gwych o'r aelodau presennol a chyn-aelodau i gyd wedi ymgasglu ar risiau'r theatr, i gyd wedi'u rhwymo gan y sefydliad gwych hwnnw.

Ffynhonnell y llun, Matthew Bulgo

Disgrifiad o'r llun, Matthew gyda aelodau a chyn-aelodau Cwmni Theatr Ieuenctid Gorllewin Morgannwg

Petaset ti'n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?

Chwaraewr rygbi falle. Dydw erioed wedi bod yn berson sporty iawn ond alla i ddychmygu'r teimlad o redeg ar y cae yn y Stadiwm Principality, canu'r anthem, a chael y teimlad 'na o frawdgarwch gyda gweddill y tîm, a sŵn y dorf - mae'n siŵr fod hwnna'n deimlad mor arbennig.