大象传媒

Goleuadau Nadolig uniaith Saesneg Aberteifi yn achosi ffrae

  • Cyhoeddwyd
Arwydd Aberteifi
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Y goleuadau uniaith Saesneg sydd wedi codi gwrychyn yn lleol

Mae Cyngor Tref Aberteifi wedi cael eu beirniadu am beidio blaenoriaethu'r iaith Gymraeg gyda'u haddurniadau Nadolig.

Daw'r ffrae wedi i oleuadau uniaith Saesneg gael eu gosod ar y stryd fawr.

Yn 么l y Cynghorydd John Adams Lewis, mae'r arwydd 'Merry Christmas' yn dangos nad yw rhai o gynghorwyr y dref yn "cymryd yr iaith o ddifrif".

Dywedodd y cyngor tref eu bod wedi "gweithio'n galed i ddod o hyd i oleuadau Nadolig fforddiadwy yn Gymraeg" ond fod hynny'n anodd "oherwydd cyfyngiadau cyllidebol".

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r Cynghorydd John Adams Lewis yn dweud ei fod wedi cael addewid y llynedd y byddai'r arwyddion yn ddwyieithog eleni

Dywedodd y Cynghorydd Adams Lewis: "Beth sy'n wynebu pobl yn dod lan o'r dre', o riw y Grosvenor yw 'Merry Christmas'.

"Ble mae'r Gymraeg? Dylai fod 'Nadolig Llawen' lan, hyd yn oed bod ddim 'Merry Christmas' lan.

"Nes i achwyn ambyti hwn llynedd a ges i addewid y bydde fe'n ddwyieithog neu bydde 'Nadolig Llawen' lan 'leni, ond os edrychwch chi rownd y dre', s'dim gair o Gymraeg yn y goleuadau Nadolig."

'Rhaid blaenoriaethu'r Gymraeg'

Wrth s么n am yr effaith ar ddyfodol yr iaith Gymraeg, ychwanegodd: "Falle bod rhai yn dweud 'dim ond arwydd yw e', ond mae'r Senedd moyn miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

"Fel mae rhai o gynghorwyr y dref yn meddwl ambyti'r iaith nawr ac yn di-barchu'r iaith, pa obaith sydd gyda ni am filiwn o siaradwyr?

"Mae'n rhaid i ni gael blaenoriaeth i'r Gymraeg."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

"Mae trefi arall gyda nhw'n Gymraeg felly pam na ddylsen ni gael un 'fyd?" gofynnodd Dafydd Davies

Gyda'i siop deuluol, y cigydd Dewi James a'i gwmni, wedi'i leoli o dan yr arwydd, mae Dafydd Davies hefyd yn credu bod lle i wella.

"Bydde fe lot neisiach yn dod o ardal Gymraeg ei fod e ar gael yn y Gymraeg," meddai.

"Mae trefi arall gyda nhw'n Gymraeg felly pam na ddylsen ni gael un 'fyd?"

Ond ychwanegodd nad oedd yr arwydd uniaith Saesneg yn ei synnu.

"So fe'n lot o sioc, ni'n gwybod bod e 'na - o'dd e 'na blwyddyn diwetha'.

"Ond ni'n gobeithio bydd y council, yn enwedig council y dre' yn pwsho'n galed iawn i gael un Nadolig Llawen."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd barn Wayne a Lis Matthews yn amlwg, sef bod angen arwydd Cymraeg

Ar strydoedd Aberteifi, tebyg oedd yr ymateb.

Disgrifiodd Lis Matthews o Grymych yr arwydd 'Merry Christmas' fel "gwarthus".

"Ma' Aberteifi yn dre' Gymraeg le mae'r rhan fwya' o bobl yn siarad Cymraeg. Ma' eisiau fe yn Gymraeg," meddai.

'Pam ma' eisiau fe'n Saesneg?'

Ychwanegodd ei g诺r Wayne Matthews: "Os yw e'n fater ariannol, pam ma' eisiau fe'n Saesneg?

"Os ti'n mynd bant i Ffrainc neu'r Almaen neu rhywle fel 'na, byddech chi ddim yn gweld e'n ddwyieithog byddech chi?

"Ni yng Nghymru. Os mae e jyst yn Gymraeg, wel digon da."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd Gari Jones yn cwestiynu sut fod y cyngor tref wedi fforddio addurn Saesneg ond nid un Cymraeg

Dywedodd Gari Jones o Bentre-cwrt: "Yn Aberteifi y'n ni - cartref yr Eisteddfod Genedlaethol.

"Dylen nhw fod o leia' yn ddwyieithog.

"Oce, ma' cost yn dod mewn iddi, ond os ydyn nhw'n gallu fforddio cael un Saesneg, pam na allan nhw gael un Cymraeg?"

'Cyfyngiadau cyllidebol'

Mewn ymateb i'r pryderon, ac ar ran Cyngor Tref Aberteifi, fe ddywedodd y Cynghorydd Stephen Greenhalgh: "Rydym wedi bod yn gweithio'n galed i ddod o hyd i oleuadau Nadolig fforddiadwy yn Gymraeg.

"Oherwydd cyfyngiadau cyllidebol mae hyn wedi bod yn anodd.

"Rydym yn gobeithio erbyn y flwyddyn nesaf y byddwn wedi gwella'r sefyllfa ac rydym mewn cysylltiad 芒 chynghorau eraill sy'n chwilio am eu ffynonellau golau."

Dywedodd hefyd eu bod wedi llwyddo erbyn hyn i daflunio 'Nadolig Llawen' ar ffurf golau ar wal y castell a bod y cyngor tref yn gwneud pob ymdrech i hyrwyddo'r iaith Gymraeg yn lleol.