'Risg o garchar os am wrthod cynllun datblygu Wrecsam'

  • Awdur, Dafydd Evans
  • Swydd, Gohebydd 大象传媒 Cymru

Mae cynghorwyr yn Wrecsam wedi clywed y gallen nhw wynebu carchar petaen nhw'n gwrthod cynllun datblygu lleol am y trydydd tro.

Mae'r cyngor eisoes wedi pleidleisio ddwywaith yn erbyn mabwysiadu'r cynllun.

Ond wedi i'r cyngor golli adolygiad barnwrol diweddar, maen nhw bellach wedi clywed y gallen nhw gyflawni dirmyg llys os byddan nhw'n ei wrthod eto.

Bydd cyfarfod arbennig o'r cyngor yn cael ei gynnal yr wythnos nesaf gyda'r argymhelliad bod cynghorwyr yn derbyn y cynllun.

Mae'r sefyllfa, medd y Cynghorydd Marc Jones, yn "sylfaenol anghywir".

"Fel cynghorydd dwi ddim wedi profi rhywbeth fel 'ma mewn 15 mlynedd, lle 'dan ni'n cael ein gorfodi i ddod i'r siambr yma a phleidleisio mewn un ffordd arbennig neu wynebu carchar."

Pryder bod 8,000 o dai newydd yn ormod

Mae'n ofyniad cyfreithiol i bob awdurdod lleol yng Nghymru fod 芒 chynllun datblygu lleol yn nodi ble bydd adeiladau newydd yn cael eu caniat谩u a faint o dai sydd eu hangen.

Mae nifer y tai yn cael ei bennu ar sail rhagolygon Llywodraeth Cymru o dwf lleol yn y boblogaeth.

Mae swyddogion Cyngor Wrecsam wedi llunio cynllun datblygu lleol, ond cafodd ei wrthod ar ddau achlysur, ym mis Ebrill ac ym mis Mehefin eleni.

Mae cynghorwyr yn pryderu bod 8,000 o dai newydd yn ormod ac na fydd gwasanaethau'n medru dygymod.

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd y Cynghorydd Marc Jones fod y sefyllfa yn "sylfaenol anghywir"

Fis Tachwedd, fe aeth datblygwyr 芒'r cyngor i'r llys ar gyfer adolygiad barnwrol.

Mae yn dweud nad ydy dyfarniad y Barnwr Mr Ustus Eyre wedi ei gyhoeddi hyd yma.

Ond mae'n crynhoi'r gorchmynion y barnwr bod penderfyniad cynghorwyr i wrthod y cynllun datblygu yn cael ei "ddiddymu" ac y dylai'r cyngor "ailystyried".

"I fod yn eglur, dim ond penderfyniad i fabwysiadu'r Cynllun Datblygu Lleol fuasai'n bodloni'r dyfarniad hwn," meddai'r barnwr, yn 么l adroddiad y cyngor.

Dirmyg llys

Yn dilyn y dyfarniad, fe wnaeth y Cynghorydd Carrie Harper ofyn am gyngor cyfreithiol am sefyllfa cynghorwyr unigol petaen nhw'n gwrthod y cynllun yr wythnos nesaf.

Mewn ymateb, fe ddywedodd cyfreithiwr y cyngor bod hawl gan gynghorwyr i bleidleisio pa bynnag ffordd y dymunant ond bod "canlyniadau" i hynny.

Ar 么l colli'r achos llys, roedd y cyngor wedi eu gorchymyn i dalu 拢100,000 o gostau cyfreithiol y datblygwyr yn ogystal 芒 ffioedd cyfreithiol eu hunain, meddai'r cyfreithiwr.

Aeth y cyfreithiwr ymlaen i ddweud petai'r cynllun yn cael ei wrthod eto y gallai'r barnwr gasglu bod dirmyg llys wedi digwydd.

Ychwanegodd: "Os ydy'r llys yn casglu bod diffynnydd wedi cyflawni dirmyg llys, gallai wynebu cyfnod o garchar, dirwy, colli asedau neu gosbau eraill."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Mae rhai cynghorwyr yn cwestiynu amcangyfrifon poblogaeth Llywodraeth Cymru, sy'n sail i nifer y tai y mae disgwyl i'r cyngor ei gynnwys yn eu cynllun datblygu lleol

Dywedodd y Cynghorydd Marc Jones: "Mae hwn wedi cychwyn efo Llywodraeth Cymru'n cael pethau'n wrong efo amcangyfrifon poblogaeth.

"Nid ar chwarae bach 'dan ni'n 'neud hyn. Mae hon yn sefyllfa andros o ddifrifol i'r cyngor ac i gynghorwyr.

"Felly dylai bod y llywodraeth yn cymryd sylw pan mae cynghorwyr yn gwrthod cynllun mor wael.

"Dylai bod nhw'n derbyn bod 'na rywbeth mawr wedi mynd o'i le yn fa'ma a dod yn 么l at y bwrdd."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru na allen nhw wneud sylw tra bo'r broses gyfreithiol yn parhau.

Bydd y cyfarfod arbennig o Gyngor Wrecsam yn digwydd ar 20 Rhagfyr.