Lefelau staffio uned babanod yn 'anniogel ers 2019'

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Yn Ysbyty Singleton y mae mwyafrif llethol holl enedigaethau ardal Bwrdd Iechyd Bae Abertawe
  • Awdur, Luned Phillips
  • Swydd, Newyddion 大象传媒 Cymru

Mae adroddiad beirniadol wedi tynnu sylw at "bryderon am ddiogelwch cleifion" yn uned mamolaeth Ysbyty Singleton, Abertawe.

Mae'r adroddiad gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) wedi galw am sawl gwelliant, gan nodi nad yw lefelau staffio wedi bod yn ddiogel yno ers 2019.

Cyhoeddodd y Gweinidog Iechyd ddydd Mawrth bod gwasanaethau i famau a babanod newydd-anedig ym Mwrdd Iechyd Bae Abertawe wedi cael eu gosod dan lefel ychwanegol o oruchwyliaeth.

Yn 么l y bwrdd iechyd maen nhw eisoes yn canolbwyntio ar wneud gwelliannau ac wedi recriwtio staff ychwanegol.

Lefelau staffio isel

Aeth AGIC ar ymweliad annisgwyl 芒'r uned famolaeth ym mis Medi eleni.

Yno, maen nhw'n dweud iddyn nhw nodi bod lefelau staffio yn isel ac yn achos pryder o ran gallu "darparu gofal diogel ac effeithiol i gleifion".

Tra yno, fe edrychodd yr arolygwyr ar 14 diwrnod o rota'r staff. Roedd 11 diwrnod 芒 lefelau staffio islaw'r lefel staffio gofynnol.

Mae'r adroddiad hefyd yn rhestru pryderon a heriau eraill:

  • Cafodd un theatr obstetreg ei disgrifio fel un nad oedd yn "addas at y diben";
  • Doedd meddyginiaethau lleddfu poen priodol ddim yn cael eu rhoi mewn modd amserol;
  • 2% yn unig o'r staff gafodd eu holi oedd yn teimlo bod digon o staff i'w galluogi i wneud eu gwaith yn iawn.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Ymhlith y cleifion gyfrannodd i'r adroddiad, roedd un fam oedd wedi gorfod aros wyth awr i gael pwythau yn y theatr ar 么l rhwyg gradd 3 tra'n geni.

Dywedodd un arall iddi "waedu dros y gwely" a gorfod "aros am oesoedd i aelod o staff ddod i helpu".

Roedd yr arolygwyr hefyd yn codi pryderon am y risg o niwed i gleifion yn sgil y ffaith bod yr uned famolaeth yn Ysbyty Singleton ar safle ar wah芒n i'r gwasanaethau gofal critigol, gwasanaethau gofal dwys a'r adran achosion brys yn Ysbyty Treforys.

Mae'r adroddiad yn nodi bod angen gwneud gwelliannau hefyd o ran gwasanaethau yn Gymraeg ar yr uned famolaeth, a sicrhau eu bod nhw'n diwallu "anghenion cyfathrebu cleifion o gefndiroedd ieithyddol di-Gymraeg/Saesneg".

Yn dilyn yr ymweliad, fe alwodd y corff arolygu am welliannau brys.

Ymhlith y pethau roedd yn rhaid i'r bwrdd iechyd ymateb iddyn nhw ar fyrder oedd diffyg mesurau diogelwch i rwystro babanod rhag cael eu cipio.

Roedd 2% o'r staff a atebodd holiadur Gofal Arolygiaeth Iechyd Cymru yn teimlo nad oedd digon o staff i wneud y gwaith yn iawn.

O'r 121 a atebodd, tua hanner ohonyn nhw oedd yn fodlon 芒 safon y gofal oedd yn cael ei ddarparu yn yr uned.

'Sawl gwelliant eisoes'

Dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Bae Abertawe eu bod eisoes wedi gwneud sawl gwelliant" a'u bod yn "dysgu o'r adborth".

Yn natganiad y bwrdd iechyd, maen nhw'n cydnabod bod sawl maes lle mae angen gwneud gwelliannau a bod "sawl un o'r materion gafodd eu codi yn gysylltiedig un ai'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol 芒 phwysau staffio".

Ychwanega'r llefarydd eu bod nhw'n "llwyr ymwybodol" bod y pwysau yma wedi gwneud gwaith eu staff "ymroddedig" yn "anodd".

Ers yr ymweliad, mae'r bwrdd iechyd yn dweud eu bod wedi cyflogi 23 o fydwragedd ac 14 o gynorthwywyr gofal mamolaeth.

Disgrifiad o'r llun, Fe fydd yr arolygiaeth yn monitro effaith gwelliannau yn yr ysbyty, medd Rhys Jones o AGIC

Yn 么l Rhys Jones o AGIC, er ei bod hi'n "bositif" bod y recriwtio hyn wedi digwydd a newidiadau eraill ar waith o fewn yr uned, bydd y corff iechyd yn "monitro bod y gwelliannau hynny yn 'neud gwahaniaeth, yn codi'r safon ac yn lleihau'r risg yn y gwasanaeth".

Mae'r corff, meddai, wedi bod yn edrych ar unedau mamolaeth dros y 18 mis diwethaf.

Dywedodd bod rhai o'r agweddau welon nhw yn Ysbyty Singleton "yn adlewyrchiad o be' ni 'di ffeindio yn ein gwaith ehangach o fewn unedau mamolaeth".

Ychwanegodd: "Ond yn sicr ym mis Medi o'dd y ffactorau hyn yn cael mwy o effaith pendant ar lefel y gofal a diogelwch y gofal o'n ni'n teimlo ym mis Medi, falle mwy na byrddau iechyd eraill 'dan ni 'di nodi.

"Oherwydd hynny 'naethon ni gymryd y camau wnaethon ni i ofyn am ymateb brys i'r materion o beryg 'naethon ni ffeindio."

Mae'r "catalog eang a difrifol o bryderon" sydd wedi eu nodi yn adroddiad AGIC - "o staffio i storio, o hyfforddiant i lanweithdra" - yn creu "darlun pryderus iawn", yn 么l Sioned Williams, AS Plaid Cymru dros Orllewin De Cymru.

Roedd pryderon ynghylch gwasanaethau mamolaeth a newydd-anedig y bwrdd "yn hysbys" cyn belled yn 么l 芒 mis Tachwedd y llynedd.

Mae hi'n galw ar Lywodraeth Cymru i ddatgelu pryd ddaethon nhw i wybod am bryderon ynghylch y gwasanaethau, gan ddweud bod pwysau staffio wedi eu disgrifio'n "argyfyngus" mewn cyfarfod rhwng y llywodraeth a'r bwrdd ym mis Mehefin.

"Rhaid i Lywodraeth Cymru ateb pam ei bod wedi cymryd cyhyd iddynt weithredu, gan ystyried mai dim ond yr wythnos hon y gosodwyd mesurau 'monitro agosach' ar y gwasanaeth," dywedodd.

Gan ddiolch "i'r holl gleifion a staff dewr sydd wedi siarad mas", ychwanegodd: "Y cyfan y mae fy etholwyr eisiau cael ei gydnabod [yw] pa mor bryderus oedd hi iddyn nhw geisio penderfynu ar y lle mwyaf diogel i gael eu babi, a chael sicrwydd bod yr uned famolaeth yn lle mwy diogel nawr."

Disgrifiad o'r fideo, Yn 么l Dr Dewi Evans mae "rhywbeth o'i le gyda'r system drwy'r byrddau iechyd i gyd"

Wrth siarad ar Dros Frecwast dywedodd Dr Dewi Evans, oedd yn bennaeth meddygaeth plant a'r uned famolaeth yn Ysbyty Singleton hyd at 2008, ei fod yn teimlo bod "rhywbeth o'i le gyda'r system drwy'r byrddau iechyd i gyd a dweud y gwir".

"'Da ni'n clywed yn gyson am broblemau mamolaeth mewn ysbytai yn Lloegr a nawr yng Nghymru, a dwi'n credu bod y byrddau iechyd yn aneffeithiol - tydyn nhw ddim yn cyflawni beth ddylen nhw wneud.

"Mae hyn yn bodoli drwy'r wlad i gyd, felly dwi'n credu os nad ydach chi'n newid y system, does dim atebolrwydd gan y bwrdd iechyd i'r cyhoedd.

"Maen nhw'n cael eu hapwyntio gan y gwleidyddion - does braidd neb yn gwybod pwy sy'n rhedeg y gwasanaeth iechyd.

"Dwi'n teimlo dyw'r bobl hyn ddim yn bobl wael na dim byd felly, ond dwi'n credu y dylen nhw i gyd ymddiswyddo a dweud y gwir - maen nhw'n hollol aneffeithiol.

"Wedi'r cyfan, swyddi rhan amser ydy'r rhain, ond mae cadeirydd bwrdd iechyd yn ennill rhyw 拢50,000 mil y flwyddyn, mae aelodau eraill yn ennill 拢12,00-拢15,000 y flwyddyn, felly beth maen nhw'n ei wneud?

"O ran y strwythur sy'n bodoli yn y gwasanaeth iechyd ar hyn o bryd - gyda'r byrddau iechyd hyn - maen nhw'n aneffeithiol. S'dim unrhyw bwrpas iddyn nhw - maen nhw'n wastraff arian."

Adolygiad o strwythurau llywodraethu

Yn ymateb i sylwadau Dr Evans dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae'r Gweinidog Iechyd wedi gorchymyn adolygiad o strwythurau llywodraethu presennol o fewn NHS Cymru i sicrhau eu bod yn addas i'r diben ac argymell unrhyw newidiadau sydd eu hangen.

"Disgwylir i'r t卯m adolygu adrodd yn 么l ym mis Mawrth 2024.

"Mae cadeiryddion ac aelodau annibynnol y bwrdd iechyd yn cael eu penodi drwy gystadleuaeth deg ac agored ar eu gallu i ddarparu arweinyddiaeth a gwneud penderfyniadau wrth redeg byrddau iechyd i wasanaethu anghenion iechyd eu cymuned orau.

"Rydym wedi creu Llais i roi llais cryfach i bobl ym mhob rhan o Gymru ar eu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.

"Yn ddiweddar, gwnaethom hefyd gyhoeddi fframwaith Siarad yn Ddiogel a chyflwynwyd deddfwriaeth Dyletswydd Candour i sicrhau y gall staff y NHS fod yn agored ac yn onest pan fydd pethau'n mynd o chwith a helpu i greu NHS sydd bob amser yn gwrando, dysgu a gwella."