大象传媒

'Sarhad ar-lein yn atal menywod rhag bod eisiau arwain'

  • Cyhoeddwyd
Mark DrakefordFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Mark Drakeford wedi cyhoeddi y bydd yn ymddiswyddo fis Mawrth

Mae ymosodiadau personol ar gyfryngau cymdeithasol yn atal menywod rhag ymgeisio i fod yn arweinydd Llafur Cymru, 么l Mark Drakeford.

Fe ddywedodd Mr Drakeford ei fod yn siomedig nad oes enw menyw yn y ras am yr arweinyddiaeth hyd yma.

Yr wythnos hon fe gyhoeddodd Mr Drakeford y byddai'n ymddiswyddo fel Prif Weinidog Cymru fis Mawrth.

Mae'r enwebiadau ar gyfer arweinydd newydd yn cau ddydd Iau, ond hyd yn hyn, mae'r ddwy fenyw a oedd yn cael eu hystyried ymysg y ffefrynnau i olynu Mr Drakeford - Eluned Morgan a Hannah Blythyn - wedi dweud na fyddan nhw'n ymgeisio am y r么l.

Mae Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi, wedi sicrhau digon o enwebiadau gan gyd-aelodau Seneddol i fedru ymgeisio, ac mae disgwyl i'r Gweinidog Addysg, Jeremy Miles, ddatgan ei fwriad i sefyll yr wythnos nesaf.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Eluned Morgan wedi cadarnhau na fydd hi'n sefyll i olynu Mark Drakeford fel arweinydd nesaf Llafur Cymru

Wrth siarad ar raglen Politics Wales ddydd Sul fe ddywedodd Mr Drakeford ei fod yn "siom".

"Byddai'n gr锚t gweld menyw ar y rhestr oherwydd 'mod i'n credu mewn cynnig cyfleoedd i bobl o fewn y blaid," meddai.

"Ac rydym wedi ei gwneud yn haws i bobl allu ymgeisio yn ystod y bum mlynedd ddiwethaf."

Dywedodd bod nifer o resymau bod merched yn peidio 芒 chynnig eu henwau ar gyfer y r么l, ond nad yw diffyg talent o fewn y Blaid Lafur yn un ohonynt.

"Mae'n fyd caled allan yna mewn gwleidyddiaeth, gyda chyfryngau cymdeithasol a phopeth, mae pobl sy'n cynnig eu henwau yn gwybod y byddant yn darged, weithiau, ar gyfer ymosodiadau hynod annymunol a phersonol," meddai Mr Drakeford.

"Mae gennym ni 18 o fenywod a 12 o ddynion yn y gr诺p Llafur. Mae criw talentog iawn yno.

"Mae rhai ohonynt yn gymharol newydd i'r byd gwleidyddol ac, o bosib y bydd angen ychydig yn fwy o amser arnynt cyn cael eu cydnabod yn rhan o'r genhedlaeth nesaf o wleidyddion."

Ffynhonnell y llun, Y Blaid Lafur
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Hannah Blythyn wedi dweud na fydd hi chwaith yn ymgeisio i fod yn arweinydd ar Lafur Cymru

Ychwanegodd: "Dyna un o'r rhesymau fy mod yn awyddus i ehangu ar faint y Senedd.

"Bydd criw gwahanol o bobl yn golygu enwau newydd ar gyfer y dyfodol.

"Ac rwy'n eithaf si诺r y bydd menyw eisiau - nid yn unig cynnig ei henw i fod yn Brif Weinidog - ond byddwn yn gweld menyw yn Brif Weinidog Cymru tra 'mod i dal o gwmpas i'w gweld."

Mae disgwyl i arweinydd newydd Llafur Cymru gael ei ethol cyn y Pasg.