大象传媒

T卯m Achub Mynydd Llanberis 'mewn peryg o orlwytho'

  • Cyhoeddwyd
T卯m Achub Mynydd LlanberisFfynhonnell y llun, Tim Achub Mynydd Llanberis
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae T卯m Achub Mynydd Llanberis wedi derbyn 301 o alwadau hyd yma eleni

Mae cynnydd o 300% wedi bod yn nifer y galwadau i D卯m Achub Mynydd Llanberis dros y 15 mlynedd diwethaf, gyda'r elusen yn rhybuddio fod gwirfoddolwyr mewn peryg o'u gorweithio.

Mewn datganiad dywedodd y t卯m eu bod nhw wedi derbyn dros 300 o alwadau brys nodedig eleni.

Ond mae'r cynnydd mewn galwadau yn golygu bod y t卯m bellach dan bwysau sylweddol, gydag aelodau yn aml yn cael eu galw i sawl achos y dydd.

Dywedodd Dr Richard Griffiths, Cadeirydd T卯m Achub Mynydd Llanberis, mai 2023 oedd y "flwyddyn fwyaf heriol fyth" i'r elusen.

Gyda thros 500,000 o bobl yn ymweld 芒'r Wyddfa bob blwyddyn, dyma bellach y mynydd prysuraf yn y Deyrnas Unedig.

Oherwydd poblogrwydd Eryri ymhlith twristiaid a cherddwyr, mae T卯m Achub Mynydd Llanberis yn cael ei adnabod fel y t卯m achub mynydd prysuraf ym Mhrydain.

Ers ymateb i 100 o achosion yn 2008 mae cynnydd o 300% wedi bod mewn galwadau, cynnydd sydd yn 么l yr elusen, yn "gynyddol anghynaladwy".

Ffynhonnell y llun, Tim Achub Mynydd Llanberis
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae natur rhai o'r achosion yn gallu effeithio ar lesiant gwirfoddolwyr, yn 么l yr elusen

Ychwanegodd Dr Richard Griffiths: "Ar gyfartaledd, mae bob aelod yn ymateb i oddeutu 40 galwad y flwyddyn. Ni ellir diystyru'r effaith amser arnynt hwy a bywydau eu teuluoedd.

"Hon fu ein blwyddyn fwyaf heriol fyth, ac wrth i ni fynd yn fwy prysur mae perygl gwirioneddol i'r gwasanaeth orlwytho ac i ni fethu ag ymateb yn gyflym i'r rhai mewn angen."

Mae'r elusen yn dweud bod pob un o'r 56 aelod o'r t卯m gweithredol wedi cyflawni dros 8,000 awr o waith achub hyd yma yn 2023.

Yn ogystal, mae disgwyl i wirfoddolwyr fynychu sesiynau hyfforddi rheolaidd, cynnal offer a helpu gyda'r gwaith o godi cyllid.

'Perygl i'r gwasanaeth orlwytho'

Mae delio gyda'r pwysau cynyddol yma yn anodd iawn i elusen fechan, yn 么l Dr Griffiths.

"Hon fu ein blwyddyn fwyaf heriol fyth, ac wrth i ni fynd yn fwy prysur mae perygl gwirioneddol i'r gwasanaeth orlwytho," meddai.

"Fel gr诺p o wirfoddolwyr, nid ydym ymhell o ddod i derfyn ein gallu i gefnogi'r rhai mewn angen ar y mynyddoedd.

"Yn y blynyddoedd i ddod, rydym yn bwriadu parhau 芒'n gwaith gyda rhanddeiliaid eraill er mwyn lleihau'r nifer o achosion mynydd ar yr Wyddfa ac i ehangu ein gallu i ymateb i'r galw cynyddol hwn.

"Yn y cyfamser, rydym yn parhau i annog cerddwyr a dringwyr i baratoi'n ddigonol er mwyn eu galluogi i fwynhau eu hamser yn y mynyddoedd drwy ddilyn y negeseuon allweddol gan Adventure Smart UK."

Pynciau cysylltiedig