Rhybudd melyn am ragor o law trwm ddydd Mercher

Ffynhonnell y llun, Y Swyddfa Dywydd

Disgrifiad o'r llun, Bydd y rhybudd yn dod i ben am 18:00 ddydd Mercher

Mae yna rybudd y gallai glaw trwm achosi trafferthion mewn rhannau helaeth o Gymru ddydd Mercher.

Bydd rhybudd melyn y Swyddfa Dywydd yn dod i rym am 00:00 fore Mercher ac yn dod i ben am 18:00.

Yn 么l y Swyddfa Dywydd, fe allai'r amodau gwaethaf achosi llifogydd a tharfu ar wasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus mewn rhai ardaloedd.

Bydd y rhybudd yn effeithio ar y siroedd canlynol:

  • Abertawe
  • Blaenau Gwent
  • Bro Morgannwg
  • Caerffili
  • Caerdydd
  • Caerfyrddin
  • Casnewydd
  • Castell-nedd Port Talbot
  • Ceredigion
  • Conwy
  • Dinbych
  • Gwynedd
  • Merthyr Tudful
  • Mynwy
  • Penfro
  • Pen-y-bont ar Ogwr
  • Powys
  • Rhondda Cynon Taf
  • Torfaen
  • Wrecsam