大象传媒

Cadeirydd URC: Newid yn 2024 wedi 'blwyddyn i'w hanghofio'

  • Cyhoeddwyd
Richard Collier KeywoodFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd Richard Collier-Keywood ei benodi'n gadeirydd annibynnol cyntaf yr undeb y llynedd, gan olynu Ieuan Evans

Mae cadeirydd Undeb Rygbi Cymru (URC) wedi gwneud addewid y bydd pethau yn newid yn 2024 ar 么l cydnabod bod 2023 "wedi bod yn flwyddyn i'w hanghofio" i'r corff llywodraethu.

Daeth addewid Richard Collier-Keywood mewn llythyr flwyddyn newydd at glybiau Cymru.

Mae'n tanlinellu cynllun chwe cham ar gyfer 2024 gan gynnwys yr angen am drywydd "Un Cymru".

Daeth ymchwiliad annibynnol, dan arweiniad cyn-farnwr yr Uchel Lys, y Fonesig Anne Rafferty, i'r casgliad ym mis Tachwedd bod yna agweddau hiliol, rhywiaethol, misogynistaidd a homoffobig i'r diwylliant o fewn URC.

Mae'r Fonesig Anne Rafferty nawr wedi ei phenodi'n gadeirydd gr诺p goruchwylio allanol newydd a fydd yn monitro sut mae URC yn gweithredu argymhellion yr ymchwiliad.

Fis Ionawr 2023, fe wnaeth rhaglen 大象传媒 Wales Investigates ddatgelu honiadau difrifol o rywiaeth a misogynistiaeth o fewn URC, ac fe ymddiswyddodd y prif weithredwr Steve Phillips.

Bu sawl newid o fewn URC ers hynny, gan gynnwys penodi Richard Collier-Keywood fel cadeirydd annibynnol cyntaf yr undeb ym mis Gorffennaf.

Erbyn hyn mae nifer cynrychiolwyr clybiau ar fwrdd yr undeb wedi haneru ac mae'n cynnwys aelodau gyda mwy o arbenigedd masnachol.

'Dysgu' o drafferthion 2023

"Heb nac谩u'r holl bethau positif iawn sydd wedi digwydd yn 2023, ar ac oddi ar y cae, rwy'n meddwl allwn ni gyd gytuno bod URC wedi cael blwyddyn i'w hanghofio mewn sawl ffordd," ysgrifennodd Mr Collier-Keywood yn ei lythyr i'r clybiau.

"Wnawn ni ddim adael i'r trafferthion rydym wedi eu wynebu i'n diffinio, ond wnawn ni ddysgu ohonyn nhw.

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

"Rydym eisoes wedi gwneud hynny ac yn symud ymlaen yn gyflym gyda chyfundrefn lywodraethu bellach yn ei lle ac argymhellion yr adolygiad annibynnol dan y Fonesig Anne Rafferty yn sail i gynllun positif at y dyfodol, o berspectif diwyddiannol a llywodraethol.

"Gyda hynny mewn golwg, rwy'n falch o gyhoeddi, ar y cyd 芒 Chwaraeon Cymru, ein bod wedi gwahodd y Fonesig Anne i arwain y gr诺p goruchwylio allanol a fydd yn monitro ac asesu ein cynnydd yng nghyd-destun argymhellion yr adolygiad annibynnol dros y tair blynedd nesaf."

Ychwanegodd y bydd "presenoldeb y Fonesig Anne yn rhoi'r gravitas a chysondeb angenrheidiol i'n dwyn i gyfri... a bydd dau aelod annibynnol arall yn ymuno 芒 hi yn y flwyddyn newydd".

Cynllun chwe-phwynt ar gyfer 2024

Dyma flaenoriaethau'r undeb yn 2024, yn 么l llythyr Mr Collier-Keywood:

  • Sicrhau cydweithio dan drywydd "Un Cymru";

  • Creu strategaeth o ran cefnogaeth URC i rygbi Cymru a chynyddu incwm i'w fuddsoddi yn lefelau proffesiynol a chymunedol y g锚m;

  • Annog diwylliant cynhwysol;

  • Cwblhau gwaith ar strategaeth rygbi'r merched a buddsoddi yng ng锚m y merched yng Nghymru;

  • Buddsoddi yn lles chwaraewyr; a

  • Gwelliannau llywodraethiant pellach.

Dywed Mr Collier-Keywood bod angen trywydd "sy'n cyrraedd pob rhan o'r g锚m ac yn cysylltu'r hyn rydym yn ei wneud o glybiau cymunedol i'r g锚m el卯t", ac y bydd y cynllun yn cael ei gyhoeddi yn y gwanwyn.

"Rydym yn ymroddi i adeiladu cysylltiadau gwell gyda rhanbarthau a chlybiau cymunedol, a ddylai helpu gyda'r broses yma," meddai.

"Mae amcanion y cynllun yma yn glir bod angen i'n holl dimau cenedlaethol... gystadlu gyda goreuon y byd.

"Er mwyn cyflawni hyn, rydym angen timau domestig cryf a llwybr sy'n cynnwys ein clybiau gyda chefnogwyr brwd a chynhwysol."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

"Un thema gyson rwyf wedi ei chlywed yw bod dim strategaeth gan URC. Dyma un o flaenoriaethau'r bwrdd a'r gweithgor ond ni fydd yn strategaeth wedi ei dyfeisio mewn ystafell dywyll.

"Rydym yn ymroddi i ymgynghori'n eang yn allanol i sicrhau'r mewnbwn gorau bosib i'r strategaeth."

Bu'n rhaid i'r undeb ddelio gyda streic bosib ymhlith chwaraewyr ym mis Chwefror adeg g锚m Cymru a Lloegr ym mhencampwriaeth y Chwe Gwlad dros faterion cytundebol. Fe gafwyd cytundeb dridiau cyn y g锚m.

Dywed Mr Collier-Keywood bod gwella'r berthynas gyda'r pedwar t卯m proffesiynol hefyd yn flaenoriaeth, gan fod cydweithio da yn allweddol "i lwyddiant rygbi Cymru yn y dyfodol".

'Wnawn ni lwyddo, gyda'n gilydd'

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Abi Tierney fydd prif weithredwr benywaidd cyntaf URC

Bydd prif weithredwr newydd URC, Abi Tierney, yn dechrau yn y swydd ar 8 Ionawr, gyda'r prif weithredwr dros dro, Nigel Walker, yn symud i fod yn gyfarwyddwr rygbi gweithredol cyntaf yr undeb.

Fe gafodd Ms Tierney ei chynnwys yn rhestr Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd, gan dderbyn Cydymaith Urdd y Baddon, am ei gwaith yn ei swydd flaenorol fel cyfarwyddwr cyffredinol Swyddfa Basport Ei Fawrhydi a Fisas a Mewnfudo y DU.

"Rwy'n ei weld fel cydnabyddiaeth i'r gwasanaethau hollbwysig y mae ein gweision sifil yn eu darparu ar draws y system fudo a ffiniau," dywedodd.

"Mae wedi bod yn bleser ac yn fraint i weithio gyda nhw oll. Rwy'n falch o fod wedi bod yn rhan o'r timau yma."

Ychwanegodd: "Gyda'r flwyddyn newydd daw dechrau newydd i mi ac i URC ac rwy'n edrych ymlaen at fynd i'r afael 芒'r heriau i ddod gyda th卯m rhagorol, balch ac angerddol arall o unigolion ymroddgar. rwy'n gwybod y gwawn ni lwyddo, gyda'n gilydd."

Pynciau cysylltiedig