Digartrefedd: 'Gallai pobl fregus farw heb fwy o gyllid'
- Cyhoeddwyd
Gallai pobl fregus farw os nad yw gwasanaethau digartrefedd yn cael mwy o gyllid, medd pennaeth elusen.
Mae gwasanaethau hanfodol "ar y dibyn", yn 么l cyfarwyddwr Cymorth Cymru - sy'n cynrychioli gwasanaethau digartrefedd, tai a chefnogaeth yng Nghymru.
Dywedodd Katie Dalton wrth 大象传媒 Cymru bod y sefyllfa "yn codi arswyd" arni, a'i bod yn credu y bydd "bywydau pobl mewn perygl" heb fwy o arian.
Mae Llywodraeth Cymru'n cydnabod bod pwysau mawr ar y sector dai, a'u bod wedi cadw'r gyllideb i'r sector ar 拢166.7m er gwaetha'r heriau ariannol presennol.
Grant Cymorth Tai Llywodraeth Cymru sy'n cyllido'r rhan fwyaf o wasanaethau tai yng Nghymru.
Mae wedi ei gynllunio i atal digartrefedd a chefnogi pobl fregus sy'n wynebu nifer fawr o heriau sy'n cynnwys dyled, cam-drin cyffuriau, cam-drin rhywiol a phroblemau iechyd meddwl.
Ond dyw'r grant 拢167m ddim wedi codi ers y pandemig, er gwaetha'r cynnydd yn y galw am wasanaethau a galwadau am fwy o arian o gyllideb ddrafft llywodraeth Cymru fis diwethaf.
Sefyllfa 'ddychrynllyd'
"Mae gwasanaethau ar y dibyn ac ar fin dymchwel," meddai Katie Dalton.
"Ry'n ni'n gwybod bod nifer fawr wedi gorfod gostwng eu darpariaeth yn barod.
"Os na welwn ni gynnydd [mewn cyllid] yna bydd gwasanaethau'n cau a bydd bywydau pobl mewn perygl."
Ddiwedd Medi'r llynedd roedd 11,228 o bobl yn byw mewn llety dros dro yng Nghymru.
Rhybudd Ms Dalton yw y bydd y nifer hwnnw'n cynyddu os yw gwasanaethau'n cael eu torri oherwydd diffyg arian.
"Mae'n codi arswyd arna i," meddai. "Rydw i wedi gweithio yn y sector cymorth tai ers 11 neu 12 mlynedd a dwi erioed wedi gweld sefyllfa mor ddychrynllyd ag y mae hi nawr."
Yn ddiweddar, casglodd Cymorth Cymru a Cartrefi Cymunedol Cymru - sy'n cynrychioli 34 o gymdeithasau tai yng Nghymru - ymateb 32 o sefydliadau ar draws Cymru.
Dywedodd yr adroddiad bod y sector wedi gweld toriad o 拢24m mewn termau real ers 2011/12, er bod y pwysau ar wasanaethau wedi cynyddu.
Yn 么l tua 75% o'r rhai sy'n darparu cefnogaeth i ddefnyddwyr, mae gwasanaethau sy'n cael eu cyllido gan y grant cymorth tai yn rhedeg ar golled, ac mae 52% ohonyn nhw'n cyllido'r gwasanaeth o'u harian wrth gefn.
Roedd 81% o'r rhai ymatebodd wedi gweld cynnydd yn y galw am eu gwasanaethau eleni, tra bod 66% wedi gorfod cael rhestrau aros.
Cafodd Cai Garland, sy'n 18 oed ac yn dod o Landudno, ei roi yn y system ofal pan yn 15 oed.
Roedd yn aml yn mynd i helynt gyda'r heddlu, ac ar 么l gadael y system ofal, daeth yn ddigartref.
"Roeddwn i ar lwybr tywyll iawn, ac mae'n eithaf dychrynllyd i edrych yn 么l ar y peth i ddweud y gwir," meddai.
Ar 么l sylweddoli bod rhaid iddo wneud newidiadau, fe drodd at Isallt - cynllun sy'n cael ei arwain gan gymdeithas dai ClwydAlyn, sy'n darparu cefnogaeth a llety i bobl ifanc rhwng 16 a 25 oed.
Dywedodd Mr Garland y byddai "un ai yn y carchar neu wedi marw" heb eu cefnogaeth.
"Yn sicr fyswn i ddim yn eistedd yma r诺an, ar fin symud i fflat newydd gyda 'nghariad... wrth edrych n么l, mae'n rhyfeddol meddwl pa mor bell dwi wedi dod o fewn blwyddyn."
Ychwanegodd bod nifer o bobl yn dibynnu ar wasanaethau fel Isallt, a heb y sefydliadau hyn "mae mwy a mwy o bobl am ddioddef".
'Storm berffaith'
Yn 么l Prif Weithredwr gwasanaeth atal digartrefedd Gorwel, mae'r sefyllfa yn "storm berffaith".
Dywedodd Osian Ellis: "Mae cynnydd yn y galw am y gwasanaethau, ond llai o arian... Mae perygl cryf ein bod ni'n wynebu'r system yn dymchwel os nad oes cynnydd yn y cyllid.
"Ac yn amlwg mae hynny'n mynd i gael effaith niweidiol ar y bobl 'da ni'n eu cefnogi. Mae'n sicr yn mynd i roi pwysau ychwanegol ar y gwasanaethau statudol.
"Er enghraifft, byddai cynnydd mewn achosion diogelu. Fe fyddai'n rhoi rhywfaint o bwysau ar yr heddlu a hefyd ar y gwasanaeth iechyd."
Dywedodd un ddynes wnaeth oroesi trais yn y cartref bod un o weithwyr Gorwel wedi "achub ei bywyd" drwy wneud iddi sylweddoli bod rhywbeth yn bod.
"Doedd gen i ddim byd ar 么l," meddai Sian, dim ei henw iawn. "Doedd dim opsiwn arall, ac roedd fy ngor-bryder yn ofnadwy.
"Ond yna, dwi yn yr ysbyty diolch i'w gwaith hi, a'r ffaith ei bod hi wedi gwneud y galwadau cywir ar 么l sylweddoli bod rhywbeth mawr o'i le... dwi arna hi gymaint, fyswn i ddim yma hebddi."
Dywedodd Sian ei bod hi wedi ceisio cael cymorth gan yr awdurdodau ond wedi methu, ac mai Gorwel oedd yr unig rai i'w helpu.
"Dwi ddim yn gwybod be' 'sa'n digwydd os nad oes cefnogaeth yno i bobl yn y dyfodol... mae meddwl am y peth yn ddigon i 'neud fi'n s芒l."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn cydnabod y pwysau mawr ar wasanaethau tai a phwysigrwydd eu gwaith.
"Dyna pam ein bod ni wedi gwarchod y Grant Cymorth Tai yn y gyllideb fel ei fod yn aros ar 拢166.7m, er gwaethaf sefyllfa arbennig o anodd y gyllideb.
"Ry'n ni'n parhau i siarad 芒 rhanddeiliaid allweddol i ystyried sut y gallwn gyd-weithio i weithredu ar ein huchelgais i ddod 芒 digartrefedd i ben yng Nghymru."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Awst 2023
- Cyhoeddwyd10 Mawrth 2023
- Cyhoeddwyd30 Ionawr 2023