大象传媒

Teyrngedau i 'arwr, cawr ac eicon' rygbi Cymru, JPR Williams

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Gareth Davies yn cofio 'cawr o chwaraewr', JPR Williams

Mae teyrngedau wedi eu rhoi i'r cyn-chwaraewr rygbi ac un o s锚r mawr t卯m Cymru yn y 1970au, JPR Williams, sydd wedi marw yn 74 oed.

Yn chwaraewr ffyrnig, cystadleuol a di-gyfaddawd, roedd John Williams, neu'n fwy adnabyddus fel JPR, yn ymosodwr greddfol a ddaeth yn symbol o lwyddiant a grym rygbi Cymru yn y 1970au.

Mewn datganiad dywedodd ei deulu y bu farw yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd "wedi'i amgylchynu gan ei wraig a'i bedwar o blant".

Ychwanegodd ei fod wedi dioddef o "salwch byr, yn brwydro'n ddewr yn erbyn llid yr ymennydd bacterol (bacterial meningitis)".

Cafodd ei ddisgrifio fel "un o'n chwaraewyr gorau erioed" gan lywydd Undeb Rygbi Cymru, a dywedodd cyn-gapten Cymru, Jonathan Davies ei fod yn "eithriadol o gystadleuol" ac yn "gymeriad anhygoel".

"Arwr, cawr ac eicon" oedd JPR wnaeth "drawsnewid" y ffordd roedd safle'r cefnwr yn chwarae'r g锚m, meddai'r hyfforddwr Gethin Watts.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Ganwyd John Peter Rhys Williams yn 1949 ym Mhen-y-bont ar Ogwr ac fe gafodd ei addysgu yn Ysgol Ramadeg Pen-y-bont i Fechgyn cyn ennill lle dethol yn Ysgol Fonedd Millfield - ble daeth i gyfarfod 芒 darpar gapten Cymru, Gareth Edwards.

Enillodd JPR ei gap cyntaf yn 19 oed yn 1969, wrth ennill Pencampwriaeth y Pum Gwlad ar ei gynnig cyntaf.

Dwy flynedd yn ddiweddarach roedd yn rhan o'r t卯m gipiodd y Gamp Lawn - y cyntaf o dair iddo ennill yn ystod y degawd ynghyd 芒 Gareth Edwards a Gerald Davies.

Yn yr un flwyddyn roedd yn aelod allweddol o d卯m buddugol y Llewod yn Seland Newydd - yr unig dro hyd heddiw i'r t卯m tethiol brofi buddugoliaeth yno.

Fe lwyddodd i efelychu'r campau hynny dair blynedd yn ddiweddarach yn Ne Affrica, ac roedd fel eraill yng nghanol yr 'alwad 99' - y gri ar y cae i frwydro'n 么l a pheidio ildio yn wyneb gormes y Springboks.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Erbyn iddo ymddeol o'r llwyfan rhyngwladol yn 1981 roedd wedi cynrychioli ei wlad ar 55 achlysur - record a fyddai'n sefyll tan ddiwedd y 90au.

Doedd ei gampau ddim wedi eu neilltuo i'r meysydd rygbi chwaith - roedd yn chwaraewr tenis o fri, ac fe ddaeth i'r brig mewn cystadleuaeth ieuenctid Prydain a gafodd ei gynnal yn Wimbledon yn 1966.

Er iddo ddiosg ei sgidiau ar y lefel rhyngwladol yn 1981 i ganolbwyntio ar ei waith dyddiol fel llawfeddyg, bu'n parhau i gynrychioli Pen-y-bont ar adegau tan y 90au, a thrydydd t卯m lleol Ton-du yn ystod ei 50au, tan rhoi'r gorau iddi yn llwyr yn 2003.

Roedd ei bendantrwydd, a'i awydd i lwyddo ar bob cyfrif yn rhai o'i rinweddau pennaf a ddaeth i gwmpasu ei ysbryd ar ac oddi ar y cae.

'Cymeriad anhygoel'

Dywedodd cyn-gapten Cymru, Jonathan Davies mai JPR Williams oedd "falle'r dyn mwyaf cystadleuol i fi ddod ar ei draws erioed".

"Roedd e'n eithriadol o gystadleuol - yn chwaraewr rygbi gwych ac yn gymeriad anhygoel," meddai ar 大象传媒 Radio 5 Live.

"Pan chi'n s么n am y cefnwyr gorau mewn unrhyw oes, mae JPR wastad yn y mix."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

JPR Williams yn cydnabod y dorf yn Wimbledon yn 2023

Ychwanegodd un arall o gyn-gapteiniaid Cymru, Gareth Davies, bod JPR Williams wedi "newid y g锚m", a thrwy hynny wedi rhoi cyfle i'w gyd-chwaraewyr serennu.

"Lan at y cyfnod yna... roedd rhif 15 y cefnwr, mewn ffordd, na gyd oedd y cefnwr yn neud yn fwy aml na dim o'dd cicio y goliau, dal y b锚l yn y 22 ei hunain 聽a cicio'r bel 'n么l. Ond na'th JPR newid holl agwedd y chwarae hynny.

"Ac rwy'n credu mewn ffordd bod hynna wedi bod yn allweddol iawn yn galluogi pobl fel Gerald Davies a Barry John a Gareth [Edwards] ac yn y blaen, i serennu achos bod y g锚m ddim yn mynd o un linell i'r llall, o'dd y g锚m yn cadw yn fwy drwy'r amser achos y gwrthymosod bod JPR wedi cyflwyno i'r g锚m."

Nid yw鈥檙 post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Daniel G. Williams

Caniat谩u cynnwys Twitter?

Mae鈥檙 erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniat芒d cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae鈥檔 bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch 鈥榙erbyn a pharhau鈥.

Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Daniel G. Williams

Cafodd JPR ei ddisgrifio fel "arwr, cawr ac eicon" o'r g锚m gan Gethin Watts, Pennaeth Recriwtio y Bristol Bears a fu'n hyfforddi ym Mhen-y-Bont am gyfnod.

"Mae'n golled mawr i'r gamp ac i Gymru," meddai ar Dros Frecwast.

"Cyfnod byr ges i ym Mhen-y-bont ond oedd y chwedlau a'r storiau gan sawl un oedd yn ei adnabod yn dda iawn... roedd 'na storiau di-ri am ei gampau ar y cae ond off y cae hefyd.

"Ond nath e drawsnewid y ffordd oedd y r么l yn cael ei chwarae, dala'r b锚l ond wedyn dechrau gwrthymosod a rhedeg n么l at y gwrthwynebwyr."

Ffynhonnell y llun, Rex Features

Ychwanegodd Syr Gareth Edwards ar Dros Frecwast: "Fe newidiodd e'r g锚m fel cefnwr, y peth cyntaf oedd JPR eisiau ei wneud oedd rhedeg.

"O'dd e'n broblem i ni yn y misoedd cyntaf gan nad oedden ni'n gwybod beth o'dd e ishe'i neud!

"Ond o'dd e'n gefnwr anhygoel, yn creu problemau i'r timau oeddem yn chwarae'n erbyn."

Yn 么l y sylwebydd ac awdur Alun Wyn Bevan, "petai chi yn dewis t卯m y byd i chwarae yn erbyn planed arall yna JPR Williams fyddai y cefnwr".

"Y boi oedd yn gwbl ddiofn o dan y b锚l uchel yna ac yn ei hawlio bob tro."

Nid yw鈥檙 post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter 2 gan Mark Drakeford

Caniat谩u cynnwys Twitter?

Mae鈥檙 erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniat芒d cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae鈥檔 bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch 鈥榙erbyn a pharhau鈥.

Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter 2 gan Mark Drakeford

Yn rhoi teyrnged iddo ar ran Undeb Rygbi Cymru dywedodd y llywydd Terry Cobner, a chwaraeodd gyda JPR Williams yn y 70au, y bydd yn cael ei gofio fel "un o'n chwaraewyr gorau erioed".

"Er ei fod yn chwarae yn ystod y cyfnod amatur, roedd yn gwbl broffesiynol ei agwedd, a bob amser yn gyrru safonau tra'n hyfforddi ac ar y cae," meddai.

"Gyda JPR wrth eich ochr chi, roedd 'na wastad siawns o ennill unrhyw beth.

"Bydd rygbi Cymru yn ei gofio fel un o'n chwaraewyr gorau erioed - mae'r 55 cap, tair Camp Lawn a chwe Choron Driphlyg yn profi hynny.

"Chwaraeodd hefyd ym mhob un o'r wyth g锚m brawf yn Seland Newydd a De Affrica - dwy o deithiau gorau'r Llewod yn 1971 a 1974.

"Mae hon yn golled ofnadwy i'n g锚m, ond yn amlwg yn golled waeth byth i'w wraig, Scilla, a'u pedwar o blant."

Ychwanegodd y Llewod fod JPR Williams yn "un o'r chwaraewyr gorau erioed" i wisgo'u crys, gan ei ddisgrifio fel "dyn sydd wedi ysbrydoli cymaint".

Yn siarad yn y Senedd ddydd Mawrth, dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford: "Mae'n addas ein bod ni heddiw yn cofio JPR Williams ar y cae rygbi ond hefyd y cyfraniad aeth ymlaen i wneud i'r GIG yng Nghymru am gymaint o flynyddoedd."

Mae llywydd y Senedd, Elin Jones, hefyd wedi talu teyrnged: "Nid oes angen cyfenwau ar rai pobl, maent yn dod yn chwedl yn eu hoes - diolch JPR am yr atgofion."