Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Penodi Dr Rhodri Llwyd Morgan yn bennaeth y Llyfrgell Gen
Mae Dr Rhodri Llwyd Morgan wedi ei benodi yn Brif Weithredwr Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Bydd yn olynu'r Athro Pedr ap Llwyd sydd wedi bod wrth y llyw am bum mlynedd.
Bydd Dr Morgan yn cychwyn yn ei r么l newydd yn y gwanwyn.
Cyn cael ei benodi, roedd yn Gyfarwyddwr y Gymraeg, Diwylliant Cymru a Chysylltiadau Allanol ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Dywedodd Dr Rhodri Llwyd Morgan ei fod yn "edrych ymlaen yn arw at weithio gyda staff, ymddiriedolwyr, a phartneriaid y Llyfrgell ac i hyrwyddo'i chenhadaeth ymhlith pobl Cymru a thu hwnt".
Ychwanegodd Ashok Ahir, Llywydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru: "Rydym yn falch iawn o benodi Rhodri Llwyd Morgan yn y r么l allweddol hon ac yn edrych ymlaen yn fawr fel Bwrdd at gael cydweithio i barhau i siapio'r Llyfrgell ar gyfer y dyfodol."
Fe dderbyniodd Dr Morgan ei addysg yng Ngheredigion, gan ennill gradd mewn Hanes a Hanes Cymru ym Mhrifysgol Aberystwyth ynghyd 芒 Diploma mewn Llyfrgelliaeth, cyn cwblhau Gradd Meistr a Doethuriaeth ym Mhrifysgol Caerdydd.