Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Pum munud gyda... Rhian Jones
Mae Rhian Jones yn wyneb cyfarwydd ar S4C. Chwaraeodd ran Karen ar Pobol Y Cwm am flynyddoedd lawer ac erbyn hyn mae wedi ymddangos ar nifer o ddram芒u eraill y sianel.
Aeth Cymru Fyw draw i Sir G芒r i gael sgwrs gydag un o actoresau mwyaf adnabyddus Cymru.
Ble ddechreuodd y diddordeb mewn actio?
Mae'n siwr mai gyda 'nhad. Roedd e'n gymeriad a hanner a dwi'n meddwl yn aml mai actor dylai e 'di bod. Mi fuodd e'n gweithio o dan ddaear fel coliwr yng ngwaith glo Cynheidre cyn symud ymlaen i werthu bwyd anifeiliaid o gwmpas ffermydd yr ardal. Roedd e wrth ei fodd yn adrodd straeon ac yn siarad gyda chymeriadau cefn gwlad. Doedd e ddim yn werthwr da iawn achos byddai'n well ganddo gloncan gyda'r ffermwyr yn hytrach na gwerthu!
Oeddet ti'n cystadlu mewn eisteddfodau ac yn perfformio mewn sioeau ysgol yn ystod dy blentyndod?
Do'n i ddim yn cystadlu llawer mewn eisteddfodau ond ro'n i'n joio perfformio yn sioe Nadolig yr ysgol cynradd bob blwyddyn. Dwi'n cofio gwneud sgets Hywel a Blodwen pan o'n i'n saith a cherdded ar y llwyfan a dweud, 'Hywel, fy mlodyn tatws, fy nghabetshen, ble rwyt ti?' ac yna'r gynulleidfa'n chwerthin. Roedd e'n deimlad neis a ches i buzz o'r ymateb.
O hynny ymlaen fe wnaeth Gillian Taylor, fy athrawes cynradd, roi'r hyder i mi berfformio drwy roi rhannau i mi yng nghyngherddau'r ysgol. Do'n i ddim yn blentyn academaidd ond fe welodd Gillian y potensial yndda i ac wrthi hi ges i'r hyder i ddatblygu tu hwnt i'r llyfrau.
Fuodd Delyth Mai Nicolas yn allweddol ar 么l i fi symud i Ysgol Maes yr Yrfa. Roedd hithau'n ffantastig. Mae'n rhaid i mi gyfaddef do'n i ddim yn ffan o ganu ond byddai Delyth yn gwneud yn siwr mod i'n cael y rhannau digri! Ro'n i'n astudio drama ac ro'n i'n joio'r gwersi. Dyma ble ro'n i'n gallu rhyddhau'n hunan ac uniaethu gyda gofynion y pwnc.
Beth oedd y swydd actio gyntaf ges ti a sut effaith gafodd e arnat ti?
Dwi'n cofio Paul Jones a Huw Chiswell o HTV yn dod i Ysgol Maes yr Yrfa er mwyn cynnal cyfweliadau ar gyfer rhaglen sgetsys i blant a phobl ifanc o'r enw Sblat. Roedd byrfyfyrio'n rhan bwysig o'r cyfweliadau ac roedd 'da fi'r rhyddid i neud beth ro'n i moyn. Ro'n i wedyn yn cael mynd i stiwdio HTV yng Nghaerdydd i recordio'r sgetsys gyda llwyth o bobl ifanc eraill. 'Nes i joio popeth am y profiad ac ar ben hynny ro'n i'n cael fy nhalu!
Erbyn i mi gyrraedd Lefel A, 'nes i fynychu cyrsiau drama'r Urdd a pherfformio ELVIS a Dan Y Wenallt. Ti'n magu hyder a phrofiad wrth gymryd rhan mewn cynhyrchiadau fel hyn ynghyd 芒 chael y cyfle i ddatblygu dy grefft.
Sut brofiad oedd astudio yn y Choleg Cerdd a Drama yng Nghaerdydd ar 么l i ti adael yr ysgol?
'Nes i ddechrau astudio yno yn 1989 ac roedd e'n gwrs pedair blynedd. Roedd hi'n ofynnol i ni ddysgu disgyblion ysgolion uwchradd ac os dwi'n hollol onest doedd e ddim i mi.
Yn ystod y drydedd flwyddyn dwi'n cofio gadael Ysgol Glantaf un prynhawn a gwneud fy ffordd draw i'r 大象传媒 oedd ddim yn bell o'r ysgol. Es i i'r dderbynfa a gofyn os allen i siarad gyda Glenda Jones, cynhyrchydd Pobol Y Cwm ar y pryd. Chwarae teg iddi mi wnaeth hi ddod lawr ac fe aeth hi 芒 fi i'w swyddfa am sgwrs. Wedes i bydden i'n dwli actio yn y gyfres ac yn ystod ein sgwrs daeth Toni Carrol i mewn. Roedd hi'n chwarae rhan Olwen ac ro'n i'n hollol star struck.
Nododd Glenda y dylen i orffen fy mlwyddyn olaf yn y coleg ond doedd fy nghalon i ddim yn y cwrs bellach. O fewn ychydig fisoedd ges i alwad yn holi os fyddai gen i ddiddordeb mewn chwarae Karen, merch Olwen, ac fe neidiais ar y cyfle. 'Nes i joio'r cyfnod a ddysgais i gymaint wrth weithio gydag actorion fel Toni Carrol, Sue Roderick, Sera Cracroft a Rebecca Harries. 'Nes i ffrindiau oes o'n amser yno.
Rwyt ti wedi ymddangos ar ddram芒u eraill ers Pobol Y Cwm. Wyt ti wedi mentro i'r llwyfan?
Ges i gyfnod tawel ar 么l gadael Pobol y Cwm ond mi bigodd pethau i fyny ar 么l sbel. Ers hynny dwi wedi actio ar gynhyrchiadau fel Teulu, Grav, Hinterland, 35 Diwrnod a Byw Celwydd. Yn anffodus dwi ddim wedi gweithio cymaint ym maes y theatr. Ro'n i wedi dod yn gyfforddus gyda gwaith teledu ac roedd y plant yn rhy ifanc i mi fynd ar daith am gyfnodau hir ac yn ystod penwythnosau.
Mae dy ferch hynaf, Mabli, yn actio erbyn hyn. Sut deimlad oedd e i gydweithio gyda hi?
Fe wnaethon ni gydweithio ar ffilm, Reit tu 么l i ti, gan Meic Povey, oedd yn ffilm heriol am fam oedd yn dioddef o gancr a Mabli oedd yn chwarae rhan fy merch. Doedd dim diddordeb ganddi i ddechrau. Roedd hi'n ddeunaw ar y pryd ac fe weithiodd Branwen Cennard y cynhyrchydd yn galed i'w pherswadio hi i fynychu'r cyfweliad! Do'n i ddim eisiau rhoi unrhyw bwysau arni felly fe gadwes i'n glir o'r broses. Ro'n nhw'n hapus gyda hi felly pan ddaeth hi i saethu fe 'nes i drafod Mabli fel bydden i'n trafod unrhyw actor arall.
'Nes i fwynhau'r profiad. Mae Mabli'n berson annibynnol ac fe wnaeth hynny helpu. Roedd y ddwy ohonom yn rhannu fflat yng Nghaerdydd ac roedd e mor neis treulio amser gyda hi cyn iddi fynd i'r coleg. Ers hynny ry'n ni wedi cydweithio ar gyfresi eraill fel Gwaith Cartref, Goleudy ac Enid a Lucy.
Wyt ti'n gwneud swyddi eraill pan mae'r gwaith actio'n dawel?
Ydw. Dwi wedi gweithio mewn gym yn glanhau, gweithio ar y ddesg a gofalu am y gampfa. Dwi hefyd wedi gwneud gwaith glanhau yn Neuadd Goffa Pontargothi a dwi wedi gweithio mewn garej yn gwneud gwaith papur - nid gwaith mecanyddol! Ro'n i'n anobeithiol yn y jobyn yna!
Mae'n beth da i 'neud jobsys tu hwnt i actio. Mae'n rhoi perspectif a dyfnder i ti wrth ddehongli cymeriad mewn drama. Mae e hefyd yn gwneud i ti werthfawrogi actio pan mae'r cyfle'n dod.
Wyt ti ar fin ymddangos ar gynhyrchiad yn y dyfodol agos?
Ydw. Fe wnes i chwarae rhan Paula mewn cynhyrchiad o'r enw Creisis yn 2023. Mae Paula'n dioddef gyda'i iechyd meddwl. Fe wnaeth y profiad fy ngwthio i mewn ffordd da, roedd e'n sialens.
Gwnaeth y cynhyrchiad fy atgoffa i cymaint dwi'n caru actio. Roedd e'n hyfryd cael ail-gydio yn y grefft ac ail-ddarganfod y broses a'r rhythm sydd ynghlwm i'r broses creadigol. Dwyt ti ddim yn teimlo hynny pan wyt ti'n 'neud diwrnodau o actio fan hyn a fan draw.
Hefyd o ddiddordeb: