大象传媒

Rishi Sunak yn addo 'rhyddhau is-bostfeistri o fai yn sydyn'

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Dywedodd Mr Thomas ei fod yn gobeithio y bydd y cyhoeddiad yn "help mawr" i'r rheiny sy'n dal i frwydro

Mae Prif Weinidog y DU wedi cyhoeddi y bydd cyfraith newydd yn cael ei chyflwyno er mwyn sicrhau bod unrhyw un a gafodd ei effeithio gan y sgandal is-bostfeistri yn cael "eu rhyddhau o unrhyw fai yn sydyn".

Rhwng 1999 a 2015 cafodd 736 o is-bostfeistri eu herlyn am ddwyn arian neu gyflwyno cyfrifon ffug yn rhan o sgandal Horizon - sawl un ohonynt o Gymru.

Mae'r achosion hynny yn cynnwys dau amlwg o Ynys M么n - Noel Thomas a Lorraine Williams - sydd wedi dweud yr wythnos hon fod angen gwneud mwy i gosbi'r rheiny oedd yn gyfrifol.

Cafodd Mr Thomas ymddiheuriad uniongyrchol "ar ran y llywodraeth a'r Swyddfa Bost" yn y siambr yn San Steffan ddydd Mercher.

Mae'r hanes wedi cael ei adrodd mewn drama ar ITV - Mr Bates vs The Post Office - yn ddiweddar, sydd wedi codi'r mater yn 么l i'r agenda wleidyddol.

Roedd prif gymeriad y gyfres, Alan Bates, yn rhedeg Swyddfa'r Post yng Nghraig-y-Don ger Llandudno rhwng 1998 a 2003.

Wedi 20 mlynedd fe enillodd ymgyrchwyr frwydr gyfreithiol i ailystyried eu hachosion, ond hyd yma dim ond 93 euogfarn sydd wedi cael eu dileu.

Fe ddechreuodd ymchwiliad cyhoeddus i'r mater yn 2021, ond mae nifer a gafodd eu heffeithio yn dal i frwydro i wrthdroi eu heuogfarnau neu sicrhau iawndal llawn.

Ffynhonnell y llun, T欧'r Cyffredin
Disgrifiad o鈥檙 llun,

"Byddwn yn sicrhau fod y gwir yn dod i'r amlwg," meddai Rishi Sunak

Dywedodd Rishi Sunak wrth D欧'r Cyffredin ddydd Mercher y bydd "deddfwriaeth newydd yn cael ei gyflwyno er mwyn sicrhau fod y rheiny a gafwyd yn euog o ganlyniad i sgandal Horizon yn cael eu rhyddhau o unrhyw fai yn sydyn a'u digolledu".

Ychwanegodd y bydd "taliad uniongyrchol o 拢75,000 yn cael ei gyflwyno i'r gr诺p allweddol o bostfeistri".

"Byddwn yn sicrhau fod y gwir yn dod i'r amlwg," meddai Mr Sunak.

Dywedodd y byddai'r gweinidog busnes Kevin Hollinrake yn rhoi "mwy o fanylion i'r T欧 yn fuan".

Ffynhonnell y llun, ITV
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae rhaglen Mr Bates vs The Post Office wedi codi'r mater yn 么l i'r agenda wleidyddol

Mae Llywodraeth y DU wedi dweud yn y gorffennol y bydd postfeistri a gafwyd yn euog ar gam o ddwyn neu gyflwyno cyfrifon ffug yn cael cynnig 拢600,000 yr un o iawndal.

Ond mae 'na bryder fod y broses o gael yr iawndal i ddioddefwyr wedi bod yn llawer rhy araf.

O'r 93 o euogfarnau sydd wedi'u dileu, dim ond 30 o'r rheiny sydd wedi cytuno ar "setliad llawn a therfynol".

Ymddiheuriad i Noel Thomas

Yn gwylio cyhoeddiad Mr Sunak ar Ynys M么n oedd Noel Thomas, a gafodd ei garcharu am naw mis yn 2006 ar 么l i 拢48,000 fynd ar goll o'i gyfrifon.

Daeth i'r amlwg yn ddiweddarach bod hyn o ganlyniad i nam ar feddalwedd Horizon Swyddfa'r Post, ac fe gafodd ei euogfarn ei gwrthdroi yn 2021.

Mae wedi cael taliad interim, ond dywedodd nad ydy'r arian yn lleddfu'r boen.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae achosion Noel Thomas a Lorraine Williams o Ynys M么n yn ddau enghraifft amlwg o effaith y sgandal ar Gymru

Cafodd Mr Thomas ymddiheuriad uniongyrchol gan y gweinidog busnes a masnach, Kevin Hollinrake ar lawr y siambr yn San Steffan ddydd Mercher.

Yn ymateb i Liz Saville Roberts o Blaid Cymru, a gododd achos Mr Thomas, dywedodd Mr Hollinrake ei fod "ar ran y llywodraeth a'r Swyddfa Bost yn ymddiheuro am yr hyn ddigwyddodd i Mr Thomas".

"Roedd hi'n stori emosiynol, ac rwy'n credu y byddai unrhyw un oedd yn gwylio [y rhaglen] wedi cael dagrau yn eu llygaid wedi'r hyn ddigwyddodd iddo ef ac eraill."

'Maen nhw wir angen help'

Ar 么l gwylio'r cyhoeddiad, dywedodd Mr Thomas ei fod yn "gobeithio y gwneith o [Rishi Sunak] gadw ei air".

Dywedodd Mr Thomas fod y ddrama "wedi gwneud gwaith da ofnadwy" a'i fod yn gobeithio fod pobl o'r diwedd yn dechrau gwrando.

"Mae 'na bedwar llywodraeth 'di bod yn gyfrifol am hyn, a ma' nhw i gyd 'di basio fo o un i'r llall," meddai.

"Ma' rhain yn gorfod datrys o - rhaid iddo fo ddod i ben rhyw dro."

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Lorraine Williams a Noel Thomas gydag is-bostfeistri eraill o flaen y Llys Ap锚l yn 2021 ar 么l i'w heuogfarnau gael eu dileu

Ychwanegodd ei fod yn "gobeithio" bod y cyhoeddiad ddydd Mercher yn dod 芒'r terfyn gam yn nes, "ond gawn ni weld pan ddaw y print m芒n allan".

Er bod ei euogfarn yntau wedi cael ei dileu, dywedodd Mr Thomas ei fod yn si诺r y bydd y cyhoeddiad yn "help mawr" i'r rheiny sy'n dal i frwydro.

"Ma' rhai ohonyn nhw wedi bod yn waeth allan na fi - 'di colli eiddo a bob dim. Ma' nhw wir angen help," meddai.

'Teyrnged i'r ymgyrchwyr o Gymru'

Yn croesawu cyhoeddiad y prif weinidog dywedodd AS Canol Caerdydd a llefarydd y blaid Lafur ar Gymru, Jo Stevens fod is-bostfeistri "wedi disgwyl yn llawer rhy hir am y gwir, cyfiawnder ac iawndal".

Ychwanegodd fod "pobl ledled Cymru wedi colli eu bywoliaeth a'u rhyddid" o ganlyniad i'r helynt.

"Rwy'n talu teyrnged i'r ymgyrchwyr o Gymru, sydd wedi arwain y frwydr am gydnabyddiaeth ac adfer enwau da is-bostfeistri," meddai.

"Rhaid i ni sicrhau eu bod nhw'n cael y cyfiawnder maen nhw'n ei haeddu."