Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Dafydd Jenkins, 21, yn gapten Cymru ar gyfer y Chwe Gwlad 2024
Mae Warren Gatland wedi enwi pum chwaraewr heb gap yng ngharfan Cymru ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad sy'n dechrau fis nesaf.
Dafydd Jenkins, yn 21 oed, sydd wedi ei ddewis yn gapten yn sgil anaf i Jac Morgan.
Mae Cameron Winnett, Evan Lloyd, Alex Mann a Mackenzie Martin - oll o Rygbi Caerdydd - ynghyd 芒 phrop Caerfaddon, Archie Griffin i gyd wedi eu cynnwys.
Nid yw Louis Rees-Zammit wedi'i gynnwys yn dilyn y cyhoeddiad annisgwyl ddydd Mawrth ei fod yn gadael rygbi yn gyfan gwbl er mwyn dilyn gyrfa B锚l-droed Americanaidd.
Dau enw mawr arall sydd ddim wedi eu cynnwys yw Dan Biggar a Leigh Halfpenny, wedi i'r ddau ymddeol o rygbi rhyngwladol wedi Cwpan Rygbi'r Byd y llynedd.
Dyw'r cefnwr Liam Williams ddim ar gael chwaith gan ei fod bellach yn chwarae yn Japan, tra bod Taulupe Faletau, Christ Tshiunza a Dewi Lake am fethu'r bencampwriaeth oherwydd anaf.
Bydd Cymru yn croesawu'r Alban i Stadiwm Principality yn eu g锚m gyntaf yn y gystadleuaeth ar 3 Chwefror.
Carfan Cymru yn llawn
Blaenwyr: Corey Domachowski, Kemsley Mathias, Gareth Thomas, Elliot Dee, Ryan Elias, Evan Lloyd*, Keiron Assiratti, Leon Brown, Archie Griffin*, Adam Beard, Dafydd Jenkins (capten), Will Rowlands, Teddy Williams, Taine Basham, James Botham, Alex Mann*, Mackenzie Martin*, Tommy Reffell, Aaron Wainwright.
Olwyr: Gareth Davies, Kieran Hardy, Tomos Williams, Sam Costelow, Cai Evans, Ioan Lloyd, Mason Grady, George North, Joe Roberts, Nick Tompkins, Owen Watkin, Josh Adams, Rio Dyer, Tom Rogers, Cameron Winnett*.
*heb gap rhyngwladol
Ar unrhyw ddiwrnod arall mi fyddai'r newyddion am y capten newydd Dafydd Jenkins a'r pump sydd eto i ennill capiau rhyngwladol yn dipyn o stori ynddo'i hun, ond mae'r cyfan wrth reswm wedi llithro i'r cefndir yn sgil cyhoeddiad Louis Rees-Zammit.
Yr hyn sy'n amlwg yngl欧n 芒 rygbi Cymru ar hyn o bryd yw'r naratif o ail-adeiladu ac edrych at y genhedlaeth nesa'.
Y gwir yw does fawr o opsiynau gan Warren Gatland yn sgil anafiadau a rhai'n ymddeol, mewn sefyllfa 'arferol' heb y wasgfa ariannol mae'n bosib na fyddai'r chwaraewyr yma wedi bwrw eu swildod ar y lefel rhanbarthol.
Mae hynny i gyd yn wir wrth gwrs ond mae'n gam anferthol i'r chwaraewyr hynny sy' mor ifanc ac mor ddibrofiad.
Dydd Sadwrn, 3 Chwefror - Cymru v Yr Alban
- Dydd Sadwrn, 10 Chwefror - Lloegr v Cymru
- Dydd Sadwrn, 24 Chwefror - Iwerddon v Cymru
- Dydd Sul, 10 Mawrth - Cymru v Ffrainc
- Dydd Sadwrn, 16 Mawrth - Cymru v Yr Eidal
Gallwch dderbyn hysbysiadau am straeon mawr sy'n torri yng Nghymru drwy lawrlwytho ap 大象传媒 Cymru Fyw ar neu .