Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cwmni Gwynedd Shipping 'yn nwylo'r gweinyddwyr'
Mae'n ymddangos bod y cwmni cludo Gwynedd Shipping wedi mynd i ddwylo'r gweinyddwyr, yn 么l Cyngor M么n.
Mae adroddiadau ar gyfryngau cymdeithasol yn awgrymu bod gyrwyr ac aelodau eraill o staff wedi cael eu diswyddo, gyda rhai yn dweud eu bod yn chwilio am waith.
Mae'r cwmni, sydd 芒'i bencadlys yng Nghaergybi, yn arbenigo mewn trafnidiaeth a chludo nwyddau dros y m么r ar gyfer y diwydiannau adeiladu a dur.
Dywedodd Cyngor Sir Ynys M么n eu bod yn ceisio cysylltu 芒'r cwmni.
"Rydym yn ymwybodol ei bod yn ymddangos bod y cwmni wedi mynd i ddwylo'r gweinyddwyr," meddai llefarydd.
"Rydym ar hyn o bryd yn ceisio ymgysylltu 芒'r cwmni i sefydlu'r sefyllfa bresennol.
"Bydd y cyngor sir yn darparu'r hynny o gefnogaeth a allwn ni i'r rhai sydd wedi'u heffeithio, gan weithio ar y cyd gyda Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill."
"Mae'n newyddion argyfyngus," dywedodd arweinydd Cyngor Sir Ynys M么n, Llinos Medi. "Beth ydyn ni eisiau r诺an ydi cadarnhad gan y cwmni beth mae'n ei olygu i weithwyr yma ar yr ynys.
"Mae'n safle adnabyddus iawn i'r dref... beth sy'n bwysig ydi y bydd y safle yn bodoli a gobeithio y bydd yna ddiddordeb yn y safle ac efallai y gweithwyr hefyd."
Mae'r cyngor, medd Ms Medi, yn cydweithio gydag Adran Gwaith a Phensiynau Llywodraeth y DU i roi cefnogaeth i'r gweithlu.
"'Dan ni wedi cael ein hadnabod fel cyngor sydd efo arfer dda o gefnogi gweithwyr sy'n colli gwaith, ond yn anffodus y rheswm mae yna arfer dda ydi achos bod o'n rhywbeth 'dan ni'n gorfod ymateb iddo yn fwy rheolaidd," dywedodd.
"Beth ydyn ni eisiau r诺an ydi sicrhau bod y teuluoedd yma yn cael y gefnogaeth yna, ac unrhyw sicrwydd o waith.
"Mae yna ddiffyg cynllunio strategol i'r economi yn y wlad yma, mae yna ddiffyg cefnogaeth i economi ac mi ydan ni'n gweld cwmn茂au fel hyn yn methu... dwi ddim yn gwybod os mai dyma ydi'r rheswm yn yr achos yma, ond mae costau ynni a thanwydd yn codi."
Y gred yw y gallai rhwng 50 a 60 o bobl golli eu gwaith.
Sefyllfa 'drist iawn'
Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast ddydd Mawrth, dywedodd y Cynghorydd Robert Llewelyn Jones, sy'n cynrychioli ardal Caergybi ar Gyngor M么n, ei fod yn sefyllfa "drist iawn".
"Ma' cymaint o bethau yn cau yn y sir - oeddan ni'n edrych 'mlaen i gael ryw newyddion da ond mae hwn wedi digwydd," meddai.
Aeth ymlaen i ddweud bod y cwmni wedi bod yn "rhan o bictiwr Caergybi ers blynyddoedd, ac i golli hwn mae'n blow eto".
"Mis Ionawr mae pob peth yn dywyll a hwn yn dod ar ben popeth, mae'n drist a dweud y gwir, ond 'da ni wedi gweld lot o bethau yn digwydd ar yr ynys dros y blynyddoedd... wedi gweld pethau yn mynd a d诺ad."
Ychwanegodd fod y newyddion yn "sioc". "Fel pobl leol, 'da ni'n gweld y loris yn mynd a d诺ad pob diwrnod," meddai.
Er nad yw'r cyngor wedi clywed rhagor o fanylion, dywedodd: "'Da ni'n gobeithio bydd o ddim rhy ddrwg a bydd gwaith i'r dynion."
'Ansicrwydd'
Dywedodd Aelod o'r Senedd dros Ynys M么n, Rhun ap Iorwerth nos Lun fod y sefyllfa yn "aneglur iawn".
"Rydyn ni'n clywed adroddiadau o gwmni mewn trafferthion, sy'n achosi pryder mawr wrth gwrs, ond hyd yn hyn nid wyf wedi gallu cael gafael ar unrhyw wybodaeth bellach.
"Rwy'n gwneud ymholiadau ac yn aros i glywed yn 么l er mwyn i ni allu deall maint llawn yr hyn sy'n digwydd, ac fel y gallwn weld pa gymorth all fod ei angen.
"Mae fy meddyliau ar hyn o bryd gyda'r gweithwyr sy'n wynebu ansicrwydd heno, ac rwy'n eu hannog i gysylltu 芒 mi os oes angen unrhyw gymorth arnynt."
Mae gan Gwynedd Shipping swyddfeydd hefyd yng Nglannau Dyfrdwy, Casnewydd a Dulyn.