Sir Fynwy: Gobaith ehangu ysgol Gymraeg aeth o 12 disgybl i 270

Disgrifiad o'r llun, Mae Ysgol Gymraeg Y Fenni yn ffynnu, medd y cyngor, ac wedi ehangu eisoes ers ei hagor

Fe all ysgol Gymraeg yn Sir Fynwy symud i adeilad mwy mewn cynlluniau sydd i'w hystyried gan y cyngor sir.

Ar hyn o bryd mae 271 o ddisgyblion yn mynychu Ysgol Gymraeg y Fenni, ond bydd Cyngor Sir Fynwy yn ymgynghori ar gynllun i symud yr ysgol i adeilad Ysgol Gynradd Deri View, sydd hefyd yn y dref.

Fe agorodd yr ysgol yn 1994 ac er bod lle i 317 yn yr adeilad presennol, mae cyfran helaeth o'r gofod yn cynnwys ystafelloedd dosbarth dros dro sy'n cael eu rhentu gan Gyngor Sir Fynwy.

Yn 么l y cyngor nid yw'r cyfleuster presennol yn bodloni ei "ddyheadau o ddarparu amgylcheddau addysgu a dysgu rhagorol".

Byddai symud i adeilad Ysgol Gynradd Deri View yn cynyddu capasiti yr ysgol i 420, gyda 60 o lefydd ychwanegol i'r adran feithrin.

'Llwyddiant addysg cyfrwng Gymraeg'

Dwy ysgol gynradd Gymraeg sydd yn Sir Fynwy ar hyn o bryd - Ysgol Gymraeg y Fenni yng ngogledd y sir, ac Ysgol Gymraeg y Ffin, Cil-y-coed, yn y de.

Dywedodd y cyngor fod safle presennol Ysgol Gymraeg y Fenni wedi cyrraedd ei chapasiti ac mai adleoli yw'r opsiwn mwyaf hyfyw.

Mae ysgol Deri View eisoes wedi ffurfio ysgol newydd 3-19 oed gydag ysgol King Henry, a bydd yn symud i adeilad newydd pwrpasol yn ddiweddarach eleni.

Yr adeilad honno fyddai pedwerydd cartref Ysgol Gymraeg y Fenni os y bydd hi'n symud.

Ychwanegodd y cyngor byddai symud yn darparu "cyfleusterau addysgu a dysgu rhagorol" ac yn "lleddfu'r pwysau" ar yr ysgol.

Disgrifiad o'r llun, Martyn Groucutt: "Pan oeddwn yn ymwneud 芒 sefydlu Ysgol Gymraeg y Fenni gyntaf fel swyddog roedd 12 o ddisgyblion"

Dywedodd yr aelod cabinet dros addysg, Martyn Groucutt - sy'n cynrychioli ward Lansdown yn y dref - ei fod "yn adlewyrchu llwyddiant addysg cyfrwng Cymraeg yn ardal Y Fenni".

"Yr hyn yr hoffem allu ei wneud yn y pen draw yw symud Ysgol Gymraeg y Fenni i'w phedwaredd adeilad.

"Adeilad sy'n fodern, y gallwn barhau i wario ychydig o arian arni i wneud iddo edrych yn well a fydd yn rhoi addysg cyfrwng Cymraeg mewn darpariaeth wirioneddol gryf yng ngogledd orllewin Sir Fynwy.

"O safbwynt personol, rydw i wrth fy modd y bydd yn symud i fy ward ynghyd 芒'r ysgol 3-19."

Ffynhonnell y llun, Google Streetview

Disgrifiad o'r llun, Y bwriad yw symud i adeilad Ysgol Gynradd Deri View

Dywedodd y cynghorydd Llafur er y gallai ymddangos fod "bwlch mawr" rhwng y 271 o ddisgyblion presennol a'r cynnig am 420 o ddisgyblion, bod cynnydd wedi bod yn nifer y disgyblion.

"Pan ymunais 芒'r cyngor am y tro cyntaf yn 2017 roedd 222 o ddisgyblion yno, pan oeddwn yn ymwneud 芒 sefydlu Ysgol Gymraeg y Fenni gyntaf fel swyddog roedd 12 o ddisgyblion.

"O 12 i dros 400, mae angen i ni ymgynghori a dod 芒 phobl gyda ni."

Yr unig ysgol cyfrwng Cymraeg arall yn y sir yw Ysgol Gymraeg y Ffin yng Nghil-y-coed, sydd 芒 chapasiti o 210, ond mae bwriad i hefyd sefydlu ysgol gynradd Gymraeg egin yn Nhrefynwy.

Mae Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg y cyngor, sy'n cefnogi targed Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, yn anelu at sicrhau bod 115 o ddysgwyr ym mhob gr诺p blwyddyn cynradd yn cael eu haddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg erbyn 2031.