Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
A ydy cymunedau'n elwa'n ddigonol o godi ffermydd gwynt?
Ynghanol ymgynghori ynglŷn â chodi fferm wynt arall yn y gogledd, mae 'na gwestiynau eto i ba raddau mae cymunedau ar eu hennill wrth i dyrbinau gael eu codi ar y tir.
Y cynllun diweddara' ydy un cwmni RWE i godi fferm wynt ger Cronfa Ddŵr Alwen, ar dir ar y ffin rhwng siroedd Conwy a Dinbych.
Eisoes mae sawl cynllun arall wedi gweld golau dydd yn y rhan honno o'r gogledd.
Byddai hon yn darparu digon o drydan ar gyfer 63,500 o gartrefi.
"Ni'n sôn am naw turbine tua 200 metr o uchder," meddai Arfon Edwards, un o ddatblygwyr RWE ym maes gwynt ar y tir.
"Mae 'da ni gronfa gymuned yn yr ardal - mae un wedi bod yng Nghlocaenog - mae hwnna lan i nawr wedi sicrhau 60 o swyddi yn yr ardal.
"Bydd yr Alwen hefyd yn rhoi cronfa i'r gymuned a bydd hi lan i'r gymuned beth maen nhw isio 'neud 'da fe."
Fe fu cyfle yn Ysgol Uwchaled i bobl Cerrigydrudion glywed mwy am hyn fel rhan o'r cyfnod ymgynghori.
At ei gilydd roedd Trystan Edwards - oedd wedi dod i'r arddangosfa gyda'i blant - yn fodlon gweld rhagor o dyrbinau gwynt.
"Rwy'n gefnogol. Tu ôl i lle 'dan ni'n byw ym Mhentrellyncymer mae tyrbeini gwynt yno'n barod," meddai.
"Maen nhw'n mynd i fynd i'r ochr arall o'n golygfa ni rŵan. Dwi'n mwynhau 'mhaned o de a choffi min nos cystal â'r person nesa', felly 'dan ni angen yr egni yn ein cymdeithas.
"Dwi'n teimlo yn falch bod ni'n symud oddi ar lo, ac olew, ac maen nhw [y plant] yn dysgu lot am hynny yn yr ysgol ac yn y blaen...
"Nhw fydd y genhedlaeth nesa', os oes ffyrdd i gadw gwaith ac incwm i bobl i aros, mae hynny'n fwy pwysig na dim."
Ond roedd rhai o'r farn y gallai'r gymuned elwa fwy - yn eu plith Prys Ellis.
"Yn 'y marn i mi ddylen nhw [RWE] fod yn rhoi gostyngiad yn y trydan ar gyfer pobl leol sydd yn y dalgylch bychan, achos y ni sy'n cael yr hassle pan maen nhw'n dod â nhw i fyny [y tyrbinau], a ni sy'n gweld nhw...
"Dwi 'di codi hyn o'r blaen ond dim syniad ydyn nhw'n gymryd o fyny de."
Fe fydd modd i bobl brynu cyfranddaliadau drwy fod yn rhan o fenter gymunedol - hyd at 15% o werth y prosiect cyfan.
"Mae'n siŵr fydd 'na rai yn cael eu temtio i 'neud hynny - dim dwywaith am hynny," meddai Einion Edwards, gŵr arall oedd yn yr ymgynghoriad.
"Ond dim pawb sy'n gallu fforddio hynny. Pam nad rhoi cyfraniadau i'r rhai mwya' lleol... Cylch o gwmpas, o fewn milltir, dwy, tair neu beth bynnag."
Dau awgrym yn y fan honno - trydan rhatach a chyfranddaliadau am ddim.
O roi'r rheiny i Arfon Edwards o RWE, dywedodd: "Ni yn gwrando ar be mae'r gymuned moyn ar hyn o bryd…
"Ni yn cymryd be mae'r gymuned moyn ac isio mas o'r pecyn yma.
"Efallai bydd posib yn y dyfodol i falla cael pethau'n rhatach a falla i dalu mewn i'r share scheme hefyd."
Ychwanegodd fodd bynnag ei bod yn annhebygol y bydd trydan rhatach yn cael ei gynnig, er y gellid lleihau'r defnydd ohono.
"Be sy'n bwysig ydy bod yr arian yn aros yn y gymuned," meddai Gwenno Huws, swyddog gydag Ynni Cymunedol Cymru.
"Fydd gen y bobl fydd yn buddsoddi yr hawl i ddewis be fydd y pres ychwanegol sy'n cael ei greu yn mynd tuag at… Y pwrpas ydy bod y pres yn aros yn y gymuned.
"Fydd pawb yn cael yr arian gobeithio maen nhw'n rhoi fewn yn ôl a bydd unrhyw beth dros y ganran yna wedyn yn aros yn y gymuned."
Mae menter gymunedol Ynni Hiraethog bellach wedi cael ei chofrestru gyda'r Awdurdod Ariannol.
Fe ddywedodd swyddog o RWE fod mentrau o'r fath yn talu swm blynyddol teg o log ar yr arian sy'n cael ei fuddsoddi, gyda'r gweddill yn cael ei ddefnyddio i hybu prosiectau lleol.
Yn amlwg mae digon i'w drafod, ac ar ôl ystyried yr ymateb bydd cwmni RWE yn cyflwyno cais cynllunio i'r adran berthnasol o Lywodraeth Cymru, gan obeithio dechrau codi'r fferm wynt ymhen dwy flynedd, a bod honno ar waith ymhen pedair.