Diwedd cyfnod a newid mawr i gwmni theatr Arad Goch

Ffynhonnell y llun, Lowri Page

Disgrifiad o'r llun, "Gweledigaeth artistig sy'n gyrru syniadau a syniadaeth unrhyw gorff celfyddydol," medd Jeremy Turner

Ers i gwmni theatr Arad Goch gael ei sefydlu 35 mlynedd yn 么l, mae un enw wedi bod yn gysylltiedig gyda'r cwmni i bawb sydd 芒 diddordeb yn y maes, sef Jeremy Turner.

O ddyddiau cynnar y cwmni gydag un ff么n, tair desg a gorfod ymarfer mewn hen sgubor oer ar Ffordd Alexandra yn Aberystwyth, maen nhw bellach wedi sefydlu canolfan gelfyddydol yn y dref, ac yn un o enwau amlycaf y theatr yng Nghymru.

Mae Mr Turner wedi dweud ei bod yn hollbwysig bod ei olynydd fel arweinydd y cwmni yn berson creadigol, gan mai "y weledigaeth greadigol sy'n gyrru syniadau unrhyw gorff creadigol".

Ei fwriad yn y dyfodol yw cofnodi hanes diweddar cwmn茂au theatr Cymru.

Cyfle i rywun arall arwain

Bu Mr Turner ar raglen Dros Frecwast ar 大象传媒 Radio Cymru fore Llun, a'r cwestiwn cyntaf amlwg efallai oedd "Pam gadael nawr?"

"Dwi wedi bod yma ers 35 o flynyddoedd, ond dwi'n dal yn ddigon ifanc i ddechrau 'neud pethau eraill," meddai.

"Ond hefyd mae Cyngor Celfyddydau Cymru newydd drefnu adolygiad buddsoddi ac mae Arad Goch yn un o'r cwmn茂au wnaeth lwyddo i ddod drwy'r her enfawr yna.

"Mae'r cwmni felly yn ddiogel am sawl blwyddyn ac mae'n briodol i rywun arall gael y fraint o arwain y cwmni."

Ffynhonnell y llun, Keith Morris

Disgrifiad o'r llun, Mair Tomos Ifans fel Rala Rwdins yn 1989 gyda Mari Rhian Owen yn rhan Rwdlan

Sefydlwyd Cwmni Theatr Arad Goch yn 1989 drwy uno dau o'r cwmn茂au theatr hynaf yng Nghymru ar y pryd, Theatr Crwban a Chwmni Cyfri Tri.

Prif nod y cwmni newydd ers hynny yw darparu theatr Gymraeg a Chymreig a hynny, yn bennaf, i blant a phobl ifanc.

Cynhyrchiad cyntaf y cwmni oedd Rwtsh Ratsh Rala Rwdins, ac un o gynyrchiadau nesaf y cwmni fydd Cerdyn Post o Wlad y Rwla - fydd yn cau'r cylch yn daclus i Jeremy Turner.

Ond testun balchder arall iddo yw sefydlu canolfan newydd.

"Pan ddechreuon ni, roedd gyda ni un ff么n, tair desg a dim lot o adnoddau ac roedden ni'n ymarfer yn oerfel hen sgubor ar Ffordd Alexandra.

"Erbyn hyn mae 'da ni ganolfan wych ar Stryd y Baddon yn Aberystwyth - hen gapel wedi cael ei drosi yn ganolfan gelfyddydol i ni, artistiaid eraill ac i'r gymuned hefyd.

"Dwi wedi gweithio ar ryw 300 o gynyrchiadau i gyd... mae'r 糯yl Agor Drysau, sy'n digwydd eto cyn hir, yn faner bwysig i ni lle ni'n gwahodd cwmni o dramor i ddod i Gymru i weithio gyda ni, ac mae G诺yl Hen Linell Bell yn bwysig i ni a'r gymuned yma yn Aber."

Ffynhonnell y llun, Lowri Page

Disgrifiad o'r llun, Mae canolfan Arad Goch mewn hen gapel wedi'i addasu ar Stryd y Baddon yn Aberystwyth

Wrth adael y cwmni, mae Jeremy Turner yn gadarn ei farn bod angen i'w olynydd fod yn berson creadigol

"Mae'r weledigaeth artistig yn hollbwysig mewn unrhyw gorff celfyddydol," meddai.

"Wrth gwrs mae'r holl staff eraill yn bwysig, a fydden ni ddim yn gallu gweithredu heb gydweithrediad staff gweinyddol a'n rheolwr gweinyddol ni.

"Ond y weledigaeth artistig sy'n gyrru syniadau a syniadaeth unrhyw gorff celfyddydol."

Edrych yn 么l i edrych ymlaen

Mae hanes y theatr yng Nghymru hefyd yn bwysig iddo, a hwyrach mai dyna fydd yn llenwi ei amser yn y dyfodol.

"Ar 么l Cwmni Theatr Cymru fe ddaeth yr holl gwmn茂au bach yn y 70au a'r 80au - rhai wedi diflannu erbyn hyn - ond does dim lot o'r cwmn茂au annibynnol yna ar 么l.

"Roedd pentwr bryd hynny yn gyrru o gwmpas Cymru mewn faniau rhydlyd yn perfformio mewn pob math o lefydd, ond does neb ers Roger Owen yn 1997 wedi cofnodi eu hanes nhw.

"Dwi'n awyddus i wneud - nid er mwyn mynd n么l at hynny, ond mae'n bwysig sylweddoli beth sydd wedi bod er mwyn adeiladu ar y llwyddiannau a'r methiannau wrth edrych ymlaen."