Cael cadair olwyn addas 'ddim yn lot i ofyn'

Disgrifiad o'r fideo, Dywedodd Tina Evans fod cael cadair olwyn addas "ddim yn lot i ofyn"
  • Awdur, Sian Elin Dafydd
  • Swydd, Newyddion 大象传媒 Cymru

Mae defnyddwyr cadeiriau olwyn yn ymgyrchu er mwyn ceisio cael mwy o ddewis o ran y cadeiriau sy'n cael eu cynnig iddynt am ddim.

Ar hyn o bryd mae unrhyw un sydd eisiau cadair bwrpasol iddyn nhw yn gorfod casglu llawer o'r arian eu hunain.

Gyda chymorth ei ffrindiau a'i theulu, llwyddodd Tina Evans o Borth Tywyn, Sir Gaerfyrddin, i godi 拢3,000 o'r 拢5,000 oedd angen arni i brynu cadair olwyn bwrpasol.

Mae hi a defnyddwyr eraill cadeiriau olwyn yn dweud bod cyfarpar anaddas yn effeithio'n sylweddol ar safon bywyd a iechyd meddwl unigolion, a bod angen mwy o ddewis.

Yn 么l Llywodraeth Cymru mae offer a chadeiriau olwyn yn cael eu dewis ar sail angen clinigol, gwerth am arian ac argaeledd.

Mae Tina, 38, wrth ei bodd gyda phob math o gampau a heriau.

Mae ganddi gyflwr niwrolegol o'r enw Friedreich's ataxia sy'n effeithio ar ei chydbwysedd. Fe gafodd ddiagnosis yn 16 oed ac fe ddechreuodd ddefnyddio cadair olwyn yn 21.

Mae hi wedi syrffio, arfordiro a sg茂o, a llynedd fe aeth ar feic tandem o Gaerdydd i Baris er mwyn codi arian.

Er iddi gael cadair olwyn gan y gwasanaeth iechyd roedd dal angen help arni gydag anghenion sylfaenol.

Ond dywedodd bod ei chadair newydd yn ei galluogi i fod yn annibynnol.

"Fi wastad yn dweud mai'r gadair olwyn yw fy nghoesau i," meddai. "Mae'n dda i'r iechyd meddwl, cael amser ar ben fy hun, cael llonydd a neb yn gorfod gwthio fi."

Disgrifiad o'r llun, Cafodd Tina Evans ddiagnosis o Friedreich's ataxia yn 16 oed, ac mae'n defnyddio cadair olwyn ers oedd yn 21 oed

Gwasanaeth Osgo a Symudedd Cymru sy'n gyfrifol am ddarparu cadeiriau olwyn y gwasanaeth iechyd.

Ar hyn o bryd mae 70,000 o bobl yn defnyddio'r gwasanaeth, gyda'r angen yn amrywio o gadeiriau olwyn safonol i rai arbenigol.

Mae defnyddwyr yn cael asesiad i weld beth yw eu hanghenion, ac mae'r gwasanaeth yn gallu darparu ystod o gymhorthion.

Mae'r rhain yn cynnwys sawl math o gadair olwyn - cadeiriau wedi'u pweru a chadeiriau olwyn mae modd eu plygu a'u trosglwyddo i gar.

Mae'r gwasanaeth yn ystyried cyllid ar y cyd ar gyfer pethau ychwanegol, fel pecyn p诺er, ond nid yw'n cynnig cadeiriau olwyn mwy unigryw.

Cyllideb iechyd personol

Yn Lloegr, mae pobl yn gallu cael cyllideb iechyd personol, lle mae modd iddyn nhw ychwanegu mwy o'u harian er mwyn prynu cadair naill ai gan y gwasanaeth iechyd neu'n breifat.

Dywedodd Tina byddai cynllun tebyg yng Nghymru yn "ddefnyddiol iawn" i unigolion.

Disgrifiad o'r llun, Roedd gan Cat Dafydd bedwar o blant dan saith oed pan gafodd ei damwain, a doedd y gadair a gafodd gan y GIG ddim yn ateb ei hanghenion

Un arall fyddai'n hoffi gweld cyllideb iechyd personol yn cael ei chyflwyno yw Cat Dafydd o Landysul.

Wedi damwain 11 mlynedd yn 么l mae'r fam 45 oed wedi penderfynu prynu cadair ei hun. Blwyddyn a hanner yn 么l, talodd 拢3,000 am y gadair a 拢3,500 am y pecyn p诺er.

Dywedodd bod y gadair oedd ganddi o'r gwasanaeth iechyd yn drwm ac yn anodd ei defnyddio.

"Mae gyda fi deulu, o'dd babi bach da fi 聽- oedden nhw'n saith mis, dwy, pedair聽a chwech oed pan ges i'r ddamwain," meddai.

"Heb gadair olwyn bydden i ddim yn gallu mynd mas a bod yn fam iddyn nhw.

"Ond mae'r gadair newydd - yr un dwi wedi prynu - wedi gwneud gwahaniaeth mawr."

Mae 'na alwad wedi bod ar lawr y Senedd y llynedd i roi cyllideb iechyd personol i bobl, fyddai'n rhoi'r dewis iddyn nhw ei wario ar y gwasanaeth iechyd neu'n breifat.

Disgrifiad o'r llun, Mae Peredur Owen Griffiths yn gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn "ailedrych ar sut ma' pethe'n gweithio i bobl"

Mae Peredur Owen Griffiths, AS Plaid Cymru dros Ddwyrain De Cymru, yn aelod o'r gr诺p trawsbleidiol anabledd.

"Fydden i'n gobeithio byddai'r llywodraeth yma yng Nghymru'n gallu edrych ar y prosesau, gallu edrych ar be' sy'n digwydd mewn mannau eraill ac ailedrych ar sut ma' pethe'n gweithio i bobl," meddai.

Ychwanegodd fod angen i bobl gael y "darpariaethau maen nhw eu hangen a 'neud yn si诺r bod hynny'n deg a bod y dewis yna yn ddigonol iddyn nhw".

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Er nad ydym yn defnyddio cyllidebau iechyd personol yng Nghymru, mae ein gwasanaethau cadeiriau olwyn yn cael eu harwain yn glinigol ac yn cynnig ystod eang o offer sy'n gallu cael eu defnyddio i ddiwallu anghenion unigolion.

"Mae offer yn cael ei ddewis ar sail priodoldeb clinigol, rhwyddineb cynnal a chadw, gwerth am arian ac argaeledd."