Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cap cyntaf i Cameron Winnet i herio'r Alban
Bydd cefnwr Rygbi Caerdydd, Cameron Winnett, yn ennill ei gap cyntaf dros Gymru yng ng锚m agoriadol Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn erbyn Yr Alban ddydd Sadwrn.
Ni fydd George North ar gael oherwydd anaf, a bydd Owen Watkin yn llenwi'r bwlch yn y canol.
Fe allai cyd-chwaraewr Winnett yng Nghaerdydd, Alex Mann hefyd ennill ei gap cyntaf oddi ar y fainc.
Mae'r blaenasgellwr James Botham a'r prop Leon Brown wedi cael eu galw'n 么l i'r 15 fydd yn dechrau yn Stadiwm Principality.
Bydd maswr y Scarlets, Sam Costelow yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf yn y Chwe Gwlad, ond ar y tu mewn iddo fydd Gareth Davies yn hytrach na Tomos Williams.
Dafydd Jenkins fydd yr ail ieuengaf i arwain Cymru erioed. Ei bartner yn yr ail-reng fydd Adam Beard tra bod Will Rowlands wedi ei adael allan o'r garfan o 23.
Mae Cymru'n chwilio am gefnwr newydd ar ddiwedd cyfnod o dros ddegawd lle mae Leigh Halfpenny a Liam Williams wedi hawlio'r crys rhif 15.
Gyda Halfpenny wedi ymddeol a Williams wedi mynd i chwarae i glwb yn Japan, ac felly ddim ar gael, mae'n gyfle i Winnett, gyda Josh Adans a Rio Dyer ar yr esgyll bob ochr iddo.
Yn sicr mae'n ddibrofiad - ei g锚m ryngwladol gyntaf fydd ei 16eg g锚m broffesiynol yn ei yrfa.
Crys arall sydd angen ei lenwi yw'r rhif 10 wedi ymddeoliad Dan Biggar ac anaf i Gareth Anscombe.
Sam Costelow sy'n cael y cyfle, gyda'i gyd-Scarlet Ioan Lloyd yn 么l yn y garfan ryngwladol am y tro cyntaf ers tair blynedd wedi iddo gael ei enwi ar y fainc.
Gydag anafiadau i Jac Morgan a Taulupe Faletau, roedd gwagle arall yn y rheng-么l gydag Aaron Wainwright a Tommy Reffell.
Blaenasgellwr Rygbi Caerdydd, James Botham yw'r dewis ar yr ochr dywyll, a dyma fydd ei ymddangosiad cyntaf i Gymru ers 2021.
T卯m Cymru i herio'r Alban
Winnett; Adams, Watkin, Tompkins, Dyer; Costelow, G Davies; Domachowski, Elias, Brown, D Jenkins (capt), Beard, Botham, Reffell, Wainwright.
Eilyddion: Dee, Mathias, Assiratti, Teddy Williams, Mann, Tomos Williams, I Lloyd, Grady.