大象传媒

Ymchwiliad Swyddfa'r Post: 'Croesawu fod y gwir yn dod allan'

  • Cyhoeddwyd
Noel Thomas
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd Noel Thomas ei garcharu am naw mis ar 么l cael ei gyhuddo ar gam o fod yn gyfrifol am ddiflaniad 拢48,000 o gyfri Swyddfa'r Post

Mae cyn-bostfeistr o F么n wedi croesawu fod "y gwir o'r diwedd yn dod allan" wrth i ymchwiliad i sgandal Swyddfa'r Post glywed manylion pellach am ei achos.

Daw wrth i gyn-weithiwr gyda Swyddfa'r Post ymddiheuro ar 么l awgrymu newid datganiad tyst peiriannydd Fujitsu i brofi nad oedd system Horizon ar fai am broblemau cyfrifo'r is-bostfeistri.

Yn achos cyn is-bostfeistr Gaerwen, Noel Thomas, roedd Graham Ward wedi dweud wrth ei gydweithwyr y gallai'r geirda fod yn "niweidiol".

Cafodd Mr Thomas, sydd bellach yn 77, ei garcharu wedi i'r system ddweud fod diffyg o 拢48,000.

Rhwng 1999 a 2015 cafodd dros 900 o is-bostfeistri eu herlyn wedi i'r rhaglen gyfrifiadurol nodi bod arian wedi diflannu o'u canghennau.

Yn gyn-ymchwilydd ariannol a rheolwr gwaith achos oddi fewn y t卯m diogelwch, dywedodd Mr Ward fod e-bost a anfonodd at weithwyr Fujitsu yn 2006 "i'r gwrthwyneb" i'w ddyletswyddau "o dan y gyfraith ac i'r llys, i ymchwilio yn deg ac yn briodol".

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Wedi i'r ymchwiliad weld yr ebyst fe gynigiwyd ymddiheuriad gan Graham Ward

Yn yr e-bost, a gafodd ei ddangos i'r ymchwiliad i System Horizon Swyddfa'r Post ddydd Iau, ysgrifennodd Mr Ward at weithwyr Fujitsu: "O ystyried yr honiadau a wnaed gan y postfeistri, rwy'n si诺r y byddwch yn cytuno ei fod o fudd mawr i ni a Fujitsu i herio'r honiadau a darparu tystiolaeth nad y system sydd ar fai am y colledion."

Clywodd yr ymchwiliad yn flaenorol fod Mr Ward, sydd bellach yn gweithio i Heddlu Llundain, wedi dweud wrth gydweithwyr fod awgrym y peiriannydd Gareth Jenkins y gallai materion cydbwyso fod wedi cael eu hachosi gan "fethiant system" fod "o bosib yn niweidiol iawn".

'Mae'n dy ddychryn di'

Yn 2006 cafodd Noel Thomas ei garcharu wedi iddo dderbyn cyngor cyfreithiol i bledio'n euog i gadw cyfrifon ffug.

Cafodd y dyfarniad hwnnw ei ddileu tair blynedd yn 么l.

Yn ymateb i'r datblygiadau diweddaraf dywedodd Mr Thomas ei fod yn croesawu fod "y gwir o'r diwedd yn dod allan".

Ychwanegodd Mr Thomas, sydd wedi bod yn dilyn yr ymchwiliad, fod yr hyn sydd nawr yn dod i'r wyneb "yn profi beth yr oeddwn yn ei gredu ers peth amser".

"Mae'r straeon ma'n dod allan tydyn yn ara' deg. Mae'n dangos beth ydyn nhw a'r ffordd maen nhw wedi gweithio i fod yn onest," meddai Mr Thomas wrth Cymru Fyw.

"Mae'n dy ddychryn di, nid yn unig be maen nhw wedi gwneud i mi ond i gymaint o wahanol bobl."

Disgrifiad,

Mae 'Mr Bates vs The Post Office' ar ITV yn dilyn hanes yr is-bostfeistri

Ychwanegodd: "Dwi 'di amau o'r dechrau ond mae dal yn dy ddychryn di sut maen nhw wedi bod yn cario 'mlaen, yn newid pethau ond i achub croen y cwmni.

"Roeddwn i'n un o'r cyntaf i gwyno fod Horizon ddim yn iawn, ond ar y pryd, yn mynd n么l i 2005/2006, doedd gan rywun ddim gobaith.

"Does iws i rywun weld bai ar fy nhwrna ac yn y blaen. Doeddan nhw ddim yn cael y gwir gan yr ochr arall nagoedd?

"A dyna be' sydd wedi digwydd, maen nhw wedi cuddio pethau, a sut oedd bosib cael at y gwirionedd?

"Mae wedi cymryd dau court case a'r Court of Appeal i ddod 芒'r pethau allan.

"Y ddrama sydd 'di dod 芒 phethau i'r cyhoedd ond mae'r wasg Gymraeg hefyd wedi bod yn ffyddlon iawn i mi ers y dechrau."

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Noel Thomas a'i ferch Sian y tu allan i'r llys yn Llundain ar 么l y dyfarniad i ddiddymu ei euogfarn yn 2021

Wedi i'r ymchwiliad weld yr ebyst, fe gynigiwyd ymddiheuriad gan Graham Ward.

"Gallaf weld nawr, o edrych yn 么l, ei fod yn safbwynt unochrog iawn," meddai.

"Ar y pryd, yn sicr yn y t卯m diogelwch o ran achosion troseddol, nid oedd unrhyw achosion o herio uniondeb Horizon neu beth bynnag.

"Roeddwn i eisiau gwneud y peth iawn trwy sicrhau ein bod yn gallu dangos bod y system yn gweithio'n gywir."

Pynciau cysylltiedig