Cynlluniau i ddiwygio'r Senedd yn 'berygl mawr iawn'

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Mae'r cynlluniau i ddiwygio'r Senedd yn debygol o gael eu gwireddu yn etholiad nesaf y Senedd yn 2026
  • Awdur, Rhodri Lewis
  • Swydd, Gohebydd Gwleidyddol 大象传媒 Cymru

Mae cyn-arweinydd Plaid Cymru, yr Arglwydd Dafydd Wigley, wedi dweud wrth 大象传媒 Cymru bod y system etholiadol newydd sydd wedi'i chynllunio ar gyfer y Senedd yn "berygl mawr iawn".

Roedd yn ymateb i gynlluniau i gyflwyno system PR 'rhestr gaeedig' ar gyfer etholiadau nesa'r Senedd yn 2026.

Fe roddodd Aelodau Senedd Cymru eu s锚l bendith i'r cynllun mewn egwyddor yr wythnos hon - cynlluniau fydd hefyd yn golygu bod niferoedd yr aelodau yn cynyddu o 60 i 96.

Mae gweinidogion yn dweud ei fod yn gam hanesyddol yn natblygiad y Senedd.

Dyma'r newid strwythurol mwyaf i'r system etholiadol ers dechrau datganoli yn 1999, a'r tro cyntaf i nifer yr ASau gynyddu hefyd.

Mae cefnogwyr yn dweud fod hwn yn ymateb i'r cyfrifoldebau ychwanegol y mae'r Senedd wedi eu hysgwyddo ers dechrau datganoli, ond dyw'r Ceidwadwyr ddim yn cefnogi'r newid.

Dywedodd eu llefarydd, Darren Millar AS, wrth y Senedd: "Mae angen mwy o feddygon, nyrsys, deintyddion ac athrawon ar Gymru. Does dim angen mwy o wleidyddion.

"Mae'n drueni mawr gweld amser, egni ac adnoddau Llywodraeth Cymru a'r Senedd hon yn canolbwyntio ar ddarn o ddeddfwriaeth a fydd yn cynyddu nifer Aelodau Senedd Cymru 60% pan allen ni fod yn trafod materion sy'n bwysicach i bobl Cymru."

Disgrifiad o'r llun, Mae'r Ceidwadwr Darren Millar yn credu bod angen canolbwyntio ar faterion "pwysicach"

Fe fydd y ffordd mae aelodau'n cael eu hethol yn newid hefyd.

Bydd y 96 aelod newydd o'r Senedd yn cael eu dewis o 16 o etholaethau newydd, yn seiliedig ar seddi newydd San Steffan, gyda chwe aelod yr un, a bydd hynny yn digwydd trwy gynrychiolaeth gyfrannol.

Enw'r fformat fydd yn cael ei ddefnyddio yw'r 'rhestr gaeedig', lle bydd yn rhaid i bleidleiswyr ddewis plaid - nid unigolyn - a bydd ymgeiswyr yn cael eu hethol yn dibynnu ar boblogrwydd eu plaid a'u lle ar y rhestr.

Dywedodd Dr Anwen Elias o Brifysgol Aberystwyth: "Mae'r rhai sy'n amddiffyn y rhestr gaeedig yn dweud wrthych ei fod yn rhoi mwy o reolaeth i chi am ba drefn mae'r ymgeiswyr yn ymddangos ar y rhestr, ac mae hynny'n caniat谩u i chi sicrhau amrywiaeth.

"Y ddadl yn erbyn wrth gwrs yw ei bod yn caniat谩u i bleidleiswyr bleidleisio dros blaid.

"Nid yw'n caniat谩u iddyn nhw bleidleisio dros unigolion ar restr y blaid honno, ac felly rydych chi'n cael gwared a'r dewis hwnnw sydd gan y pleidleisiwr ar hyn o bryd."

Disgrifiad o'r llun, Dafydd Wigley oedd arweinydd Plaid Cymru yn yr etholiad cyntaf y Cynulliad yn 1999

Hanner can mlynedd i'r mis ers iddo gael ei ethol i D欧'r Cyffredin am y tro cyntaf, mae cyn-arweinydd Plaid Cymru, yr Arglwydd Dafydd Wigley yn bell o fod yn hapus gyda'r rhestr gaeedig.

Mae'n dweud y bydd yn dinistrio'r berthynas rhwng pleidleiswyr a'r bobl maen nhw'n eu hethol.

"Yn fy nghyfnod fel AS Caernarfon am chwarter canrif, roeddwn i'n ystyried bod y cysylltiad rhyngof fi a fy etholwyr yn gwbl hanfodol," meddai.

"Os ydych chi'n rhoi'r holl b诺er yn nwylo mecanyddiaeth parti, yna'r bobl sy'n mynd i wasanaethu'r blaid orau fydd yn cael eu dewis, yn hytrach na phobl a fydd yn gwasanaethu eu hetholwyr orau, ac mae hynny'n bwysig iawn, ac mae'n berygl mawr iawn os awn ni lawr y ffordd honno."

'Cam hanesyddol i Gymru'

Ond mae Llywodraeth Cymru'n mynnu mai dyma'r peth iawn i'w wneud.

Dywedodd Gweinidog y Cyfansoddiad, Mick Antoniw, wrth y Senedd:聽"Ydych chi'n cytuno bod hwn yn fuddsoddiad mewn democratiaeth? Pa bris sydd gan y ddemocratiaeth honno, a pha mor bwysig yw hi i chi ac i bobl Cymru?

"Rwy'n credu ein bod yn gwneud yr hyn sy'n hollol hanfodol. Mae hwn yn gam hanesyddol i Gymru, a dwi'n meddwl mai dyma'r cam cywir."

Mae'r cynlluniau'n debygol o gael eu gwireddu yn etholiad nesaf y Senedd yn 2026.