'Denu athrawon uwchradd Cymraeg yn waeth' ar 么l Covid
- Cyhoeddwyd
Mae pennaeth ysgol wedi rhybuddio fod yr her o recriwtio athrawon wedi gwaethygu ers y pandemig.
Daw wrth i Lywodraeth Cymru geisio recriwtio rhai Cymraeg eu hiaith i ddysgu mewn ysgolion uwchradd.
Nod Cynllun Pontio yw denu siaradwyr Cymraeg sydd ar hyn o bryd yn dysgu mewn ysgolion y tu allan i Gymru, athrawon ysgolion cynradd, ac athrawon sydd wedi bod allan o'r proffesiwn am bum mlynedd neu fwy i ddod yn athrawon ysgol uwchradd.
"Mae denu athrawon yn her ar draws Cymru. Ni'n wynebu'r her ers cyn y cyfnod clo ond mae'r her wedi gwaethygu," medd Dr Llinos Jones, pennaeth Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin.
Dywed Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles, bod cynyddu nifer yr athrawon sy'n gallu addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg yn allweddol i gyrraedd y nod o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
'Rhai methu cynnig pynciau'
Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast dywedodd Dr Llinos Jones eu bod nhw'n "ffodus fel ysgol ar hyn o bryd o ran recriwtio", a dim ond swydd pennaeth Ffiseg sy'n wag.
Ond ychwanegodd bod "rhai ysgolion yn methu cynnig rhai pynciau nawr oherwydd eu bod methu cael arbenigwyr yn y pwnc".
"Nid problem yn y sector Gymraeg yn unig yw hi. Mae'n dipyn o her o ran recriwtio ar draws y sectorau erbyn hyn," meddai.
Mae'r llywodraeth yn ceisio denu 4,200 o athrawon i ddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg erbyn 2050.
Yn 2021 roedd yna 2,004 o athrawon uwchradd yn dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg - hynny ychydig yn is na'r targed o 2,200.
O ran dysgu Cymraeg fel pwnc, y nod erbyn 2021 oedd bod yna 600 o athrawon - dim ond 391 oedd ar gael.
Ymhlith yr athrawon sydd wedi manteisio ar Gynllun Pontio mae Si芒n Bradley, pennaeth Bioleg Ysgol Glantaf a arferai ddysgu yn Llundain.
"Rwyf wedi elwa cymaint o'r cyfle ac mae wedi rhoi'r hyder i mi ddefnyddio iaith nad oeddwn i wedi'i siarad ers amser maith," meddai.
"Rwy'n mwynhau'r her, ac mae pawb wedi bod mor gefnogol a chroesawgar.
"Mae addysgu'r cwricwlwm newydd i Gymru hefyd yn gyfle cyffrous, gan ei fod yn rhoi llawer mwy o ryddid i athrawon ddewis beth i'w ddysgu ac i wneud y cysylltiad rhwng y pwnc a'r gymuned leol.
Mae'n rhywbeth unigryw a chyffrous iawn."
Dywedodd Mr Miles fod y "Cynllun聽Pontio yn gyfle gwych i gefnogi athrawon i ddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg mewn ysgolion uwchradd".
"Mae'n galonogol clywed am lwyddiannau'r cynllun hyd yn hyn a byddwn yn annog unrhyw athro sy'n ystyried symud yn 么l i Gymru, sydd am drosglwyddo i'r sector uwchradd, neu ddychwelyd i'r proffesiwn, i wneud cais," meddai.
'Swydd sy'n gwneud gwahaniaeth'
Ychwanegodd Dr Llinos Jones ei bod yn "braf gweld bod yna ychydig mwy o fyfyrwyr ymarfer dysgu uwchradd yn ein prifysgolion ni wrth i golegau fynd i'r afael 芒'r problemau - mae hynna'n bositif iawn".
"Dwi'n meddwl bod yn rhaid i ni sylweddoli bod dysgu yn broffesiwn proffesiynol.
"Mae yna gymaint o sylw negyddol yngl欧n ag addysg ond mae'n rhaid ceisio troi hwnna yn rhywbeth positif.
"Y gwir yw, mae dysgu yn jobyn o waith. Mae'n wahanol bob dydd a chi'n teimlo ar ddiwedd diwrnod bo chi'n gallu 'neud gwahaniaeth a dyna be sy'n bwysig mewn swydd."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Mai 2023
- Cyhoeddwyd1 Rhagfyr 2022
- Cyhoeddwyd19 Mai 2023