Pryder am 'honiadau o fwlio' yn Hybu Cig Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae Aelod o'r Senedd wedi galw ar y llywodraeth a phwyllgor seneddol i ymchwilio i Hybu Cig Cymru.
Mae Llyr Gruffydd yn poeni am "honiadau o fwlio a'r modd y mae'r cadeirydd a rhai aelodau o'r bwrdd wedi delio 芒'r rhain."
Cwmni preifat yw Hybu Cig Cymru, ond Llywodraeth Cymru sy'n berchen arno ac yn ei oruchwylio.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Nid ydym yn gwneud unrhyw sylwadau ynghylch materion staffio o fewn cyrff hyd braich.
"Bydd y gweinidog yn ymateb i'r ohebiaeth maes o law."
Nod Hybu Cig Cymru yw hyrwyddo cynnyrch cig oen, cig eidion a phorc Cymreig.
Yn 么l ei adroddiad blynyddol diweddaraf, roedd yn cyflogi 35 o weithwyr yn 2021.
Mae'r adroddiad hefyd yn dweud fod y corff wedi derbyn incwm o ryw 拢3.5m drwy dreth sydd wedi'i osod ar ffermwyr sy'n gwerthu cig coch, a 拢2m yn ychwanegol drwy grantiau llywodraeth.
Angen 'canfod y ffeithiau'
Mewn llythyr at Weinidog Materion Gwledig Llywodraeth Cymru, Lesley Griffiths, mae aelod Plaid Cymru dros y gogledd, Llyr Gruffydd yn dweud ei fod yn "anfodlon" gyda chyfathrebu preifat blaenorol rhyngddo fe a'r gweinidog yngl欧n 芒 honiadau diweddar am Hybu Cig Cymru.
Mae'n galw ar Ms Griffiths i "ymyrryd yn uniongyrchol" ac yn dweud y bydd hefyd yn ysgrifennu at bwyllgor y Senedd ar yr Economi, Masnach a Materion Gwledig, er mwyn "canfod y ffeithiau a rhoi sicrwydd o ran arweinyddiaeth a llywodraethant y corff, ei brosesau mewnol a'i allu i weithredu".
Dywed Mr Gruffydd bod yn rhaid ymyrryd er mwyn amddiffyn y rheiny sy'n ymwneud 芒'r honiadau o fwlio ac er mwyn osgoi niwed i sector cig coch Cymru.
Dyma'r sefydliad cenedlaethol diweddaraf i wynebu cwestiynau am ei lywdraethiant a'i ddiwylliant, wedi sawl sgandal amlwg diweddar o fewn Undeb Rygbi Cymru, S4C a Gwasanaeth t芒n De Cymru.
Mae Newyddion S4C yn deall i chwe aelod o staff Hybu Cig Cymru gwyno ar wah芒n am fwlio gan reolwr o fewn y corff.
Cafodd ymchwiliad allanol ei gomisiynu, gan gynnal nifer o gwynion yn erbyn y rheolwr hwnnw.
Er i Hybu Cig Cymru ddweud y bydden nhw yn "gweithredu", mae 大象传媒 Cymru yn deall nad yw manylion y gweithredu yna wedi ei rannu gyda staff, ac mae rhai yn teimlo nad yw'r sefydliad wedi delio gyda'r cwynion yn briodol.
Dywedodd Phil Stocker, prif weithredwr y Gymdeithas Ddefaid Genedlaethol (NSA): "Dwi'n clywed pob math o straeon a honiadau yn dod o Hybu Cig Cymru, ac rwy'n poeni am sut mae'r trethi mae ffermwyr yn talu yn cael ei ddefnyddio, ac a ydy hynny'n golygu bod Hybu Cig Cymru yn tynnu sylw oddi ar yr hyn sy'n bwysig."
'Ni fyddwn yn rhannu rhagor o wybodaeth'
Mewn datganiad, dywedodd Hybu Cig Cymru: "Mae'n rhaid i ni eich cynghori na fyddai hi'n iawn i unrhyw faterion HR gael eu trafod yn gyhoeddus ar sail ffynonellau anhysbys.
"Byddai cyhoeddi'r math yna o wybodaeth yn peryglu enw da Hybu Cig Cymru.
"Dydyn ni ddim yn gwneud sylw ar faterion staffio mewnol ac felly ni fyddwn ni'n rhannu rhagor o wybodaeth gyda chi."
Daw'r ymateb yma wrth i brif weithredwr Hybu Cig Cymru, Gwyn Howells, fod i ffwrdd o'i waith ers haf y llynedd.
Does dim awgrym ei fod e'n gysylltiedig 芒'r cwynion o fwlio sydd wedi eu hamlinellu uchod.
Fe gadarnhaodd Hybu Cig Cymru "na fydd e'n ymgymryd 芒'i ddyletswyddau am gyfnod o amser" a'i fod "ar gyfnod o absenoldeb oherwydd salwch".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Mai 2023
- Cyhoeddwyd3 Ionawr
- Cyhoeddwyd14 Tachwedd 2023