Llafur Cymru: Pleidlais yn agor i ddewis y prif weinidog nesaf

Disgrifiad o'r llun, Jeremy Miles a Vaughan Gething - y ddau yn y ras am arweinyddiaeth Llafur Cymru

Mae'r bleidlais yn agor ddydd Gwener yn yr ornest i arwain Llafur Cymru ac i fod yn brif weinidog nesaf Cymru.

Vaughan Gething a Jeremy Miles yw'r unig ddau ymgeisydd yn y ras i olynu Mark Drakeford.

Bydd pleidlais aelodau Llafur ac aelodau o sefydliadau cysylltiedig yn cau ar 14 Mawrth.

Bydd arweinydd newydd Llafur Cymru, a fydd yn brif weinidog nesaf, yn cael ei gyhoeddi ar 16 Mawrth.

Mae'r rhai sydd 芒 hawl i bleidleisio yn derbyn llythyr a fydd yn rhoi dewis iddynt bleidleisio naill ai ar-lein neu drwy'r post.

Yr ymgeisydd gyda'r mwyaf o bleidleisiau fydd yn ennill, gyda phleidleisiau pawb yn cyfrif yn gyfartal.

Nid yw hynny bob amser wedi bod yn wir yn etholiadau arweinyddiaeth Llafur - cyn ethol Mark Drakeford yn 2018 defnyddiwyd coleg etholiadol, gan roi mwy o lais i Aelodau Seneddol yn San Steffan ac Aelodau o'r Senedd a grwpiau cysylltiedig.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Bydd mwy na 100,000 o bobl yn cael pleidlais, ond mae'r nifer sy'n cymryd rhan yn debygol o fod yn llawer llai na hynny.

Nid yw'r blaid yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am faint o bobl sy'n aelodau o Lafur Cymru, ond mae ffynonellau'n dweud bod tua 16,000 a chredir bod tua 100,000 o bobl 芒 phleidlais gyswllt.

Fe allen nhw fod yn aelodau o'r undebau mawr fel Unite, Unsain a GMB, neu gyrff llai fel Undeb y Cerddorion.